Adborth RhWN Canolfan Chwaraeon a Chanolfan y Celfyddydau
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
24/25 Semester 1
-
CYF: 66-2410-588717 - Hwre i Ioga
Dy sylw: I'd just let to feedback to say how happy I am to see more 'gentle' exercise glasses on at the Sports Centre. It is so nice to see yoga classes at 5:30pm and at lunch time so I can unwind and get some gentle movement in after a long day. Thank you so much for putting these classes on, in particular the Wednesday & Friday 5:30pm yoga classes.
Ein hymateb:
Diolch am y sylwadau cadarnhaol, rydym yn gweithio'n eithriadol o galed gyda'n tiwtoriaid a'r cwsmeriaid i ddod o hyd i'r cydbwysedd cywir i bawb.Er mai ein prif ffocws yw myfyrwyr a staff, mae ein hystod oedran rhwng 4-84 sy'n ein herio i osod rhaglen sy’n darparu ar gyfer pawb.Rydym yn gobeithio parhau i adeiladu ar y rhaglen i adlewyrchu a chymharu â'n lefelau cyn Covid dros y flwyddyn academaidd nesaf.Unwaith eto, diolch am roi o’ch amser i roi adborth da, byddaf yn rhannu hyn gyda gweddill y tîm.
23/24 Semester 2
-
CYF: 66-2405-8120517 - Amseroedd Agor y Gampfa
Dy sylw: The gym opening times on the weekend could be longer. Any other public gym elsewhere is normally open until 7/8pm on the weekend, rather than 4pm.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth. Rydym wedi arbrofi gydag amseroedd agor penwythnos y gampfa o'r blaen ac wedi treialu agor yn hirach yn y gorffennol ond roedd y nifer sy'n manteisio yn isel iawn felly does dim cynlluniau i newid hyn ar hyn o bryd. -
CYF: 66-2404-412525 - Gwella ardal Boditrax
Dy sylw: The Boditrax machine in the sports centre requires you to be barefoot and there is no place you can lean on or sit down on to help you take your socks and shoes off and then put them back on without stepping on the carpet which is very dirty. Could you possibly move any chair close by and have the area hoovered as well?
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ynglŷn â’r peiriant Boditrax yn y Ganolfan Chwaraeon – gosodwyd cadair wrth ei ymyl er mwyn hwyluso newid esgidiau/sanau a gofynnwyd i'r tîm glanhau roi sylw arbennig i'r ardal hon wrth symud ymlaen.Gobeithio bydd hyn yn gwella eich profiad -
CYF: 66-2403-3870012 - Loceri yn y Ganolfan Chwaraeon
Dy sylw: I would like to ask if the broken lockers in the changing room in the sports centre could be fixed please.
Ein hymateb:
Diolch ichi am eich neges ynghylch y loceri sydd wedi’u difrodi. Rydym wrthi’n gweithio gyda’r adran Ystadau i gwblhau arolwg dichonoldeb ac adnewyddu ar gyfer yr ystafelloedd newid presennol. Rydym yn gobeithio dyblu maint y gofod drwy adeiladu allan i’r blaen a fydd yn ein galluogi i ailgynllunio’r ardaloedd mewnol presennol gyda defnydd mwy effeithlon. Os bydd y dichonoldeb yn llwyddiannus, yn rhan o’r prosiect hwn, byddwn yn edrych ar osod loceri newydd ar y wal.Yn y cyfamser, rydym yn ceisio gwneud y defnydd gorau o’r loceri, ond nid oes rhai rhannau bellach ar gael gan y cwmni. -
CYF: 66-2402-1124426 - Melinau Traed Desg
Dy sylw: As a final year student this couldn't be implemented in time to help me, but treadmill desks in the sport centre would be incredible for student health; I'm missing out on the exercise I normally do and gaining weight because I have to spend all my time sat down working on my dissertation, but having a treadmill desk available would help a lot with that.
Ein hymateb:
Diolch am yr e-bost ac rwy'n gwerthfawrogi bod addasiadau yn cael eu gwneud i offer campfa yn y cartref, yn anffodus nid wyf yn gweld hyn fel cyfeiriad y byddem yn ei gefnogi o ran iechyd a diogelwch. Mae manteision y gellir eu defnyddio o fewn yr apiau a osodir ar y consolau melinau traed ar gyfer gwaith darllen ond nid ar gyfer ysgrifennu. Rwy'n credu gydag ychydig o gynllunio, y gallai'r gwaith a'r ymarfer corff gefnogi ei gilydd ar wahân yn hytrach na cheisio cyflawni'r ddau ar yr un pryd. Bydd amser i ffwrdd o astudio i ymarfer corff yn eich helpu i ymlacio'n feddyliol ynghyd â rhoi hwb o ran egni, hwyliau a chymhelliant i chi. Mae lefelau ocsigen isel yn lleihau ein gallu i ganolbwyntio, mae gweithgarwch corfforol yn cynyddu llif ocsigen i'ch ymennydd a gwella lefelau canolbwyntio pan fyddwch chi'n dychwelyd i astudio.
23/24 Semester 1
-
CYF: 66-2305-5505603 - Peiriant Dŵr wedi’i Drwsio
Dy sylw: Water machine in the entrance of the sports centre is rubbish! So slow to fill bottles, and I have to press 4 times to fill my bottle completely. Additionally, the water is regularly warm.
Ein hymateb:
Diolch am yr e-bost - roedd nam ar faint o ddŵr sy'n cael ei buro drwy'r hidlydd a'r mecanwaith mewnol ar y pryd. Gallwn nawr gadarnhau bod y peiriant dŵr wedi'i drwsio.
Mae yna hefyd ail beiriant gwerthu bwyd ar gampfa’r llawr cyntaf ger yr allanfeydd tân sy'n gweithio’n iawn.
22/23 Semester 2
-
CYF: 66-2303-3356006 - Oriau agor y Ganolfan Chwaraeon
Dy sylw: Opening Hours of the Sports Centre. I'm not sure if this is the right place to raise this, but the Sports Centres opening hours are very limiting to students. I've regularly visited the Sports Centre for a year and a half and really appreciate the new equipment. The chances to use it all optimally are limited as peak times get very overcrowded. Additionally, on Saturdays and Sundays, when the gym closes at 4pm already, those of us who have to work have almost no chance of getting a workout in. Having talked to other students about this, I know I'm not the only one with these issues. Lately with the gym being closed on most holidays, students are denied completely what is a major recreational factor for many, important for the overall quality of life, mental health and performance. I want to mention here how amazing and friendly the staff are. Generally Aberystwyth Sports Centre has a beautiful, inclusive atmosphere. The opening times are really the only issue and I was wondering if you thought about extending opening hours for the above mentioned reasons.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth.
Mae'r gwaith i ailwampio’r gampfa wedi bod yn hynod boblogaidd ac wedi galluogi i ni gynyddu'r niferoedd fesul sesiwn o 35 i 85 yr awr sydd wedi arwain at gynnydd o 6300 o ymweliadau ychwanegol ym mis Chwefror 2023 o'i gymharu â mis Chwefror 2022. Yn anochel bydd cyfnodau prysur lle nad yw rhai o'r offer ar gael yn syth ond rydym wedi prynu unedau ychwanegol o offer i helpu i liniaru hyn gymaint â phosibl. Mae gennym hefyd gampfa fach yn y Sgubor sydd wedi'i lleoli yn Fferm Penglais ac mae ar agor 24 awr y dydd i bob myfyriwr preswyl gael mynediad.Rydym wedi bod yn gweithio i ymestyn y cynnig dros y gwyliau, yn ystod gwyliau Nadolig 2022, roeddem ar agor ar 29/30 Rhagfyr, rydym hefyd yn ystyried ymestyn hyn ymhellach gyda diwrnodau agor ychwanegol adeg y Pasg ac yn ystod rhai gwyliau banc.
Mae'n wych clywed bod y staff yn cael eu gwerthfawrogi!
O ran oriau agor, am flynyddoedd lawer buom yn agor rhwng 9yb a 9yp ar ddyddiau'r wythnos a rhwng 10yb a 4yp ar benwythnosau. Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r cais gan fyfyrwyr a'r gymuned wastad wedi bod i agor yn gynharach yn hytrach nag yn hwyrach felly rydym wedi ymestyn yr oriau agor i 6.30yb ar ddyddiau'r wythnos ac 8/9 y bore ar y penwythnosau. Mae ein hamseroedd yn cael eu hefelychu gan y ganolfan hamdden a champfeydd eraill yn y dref oherwydd y galw is am sesiynau campfa ddiwedd y prynhawn, sy’n ei gwneud hi’n anhyfyw yn ariannol i agor. Yn ogystal â hyn, oherwydd y pandemig, mae'r diwydiant hamdden yn ei chael hi'n anodd darparu/cyflogi digon o staff cymwys i weithio yn y diwydiant yn gyffredinol gan fod canolfannau hamdden wedi cael eu cau’n llwyr am 18 mis ac ni hyfforddwyd unrhyw staff newydd yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y staff craidd i gyflenwi am yr oriau gwaith presennol, mae'n bwysig i'n staff a'u lles ein bod yn darparu seibiannau digonol i ffwrdd o'r gwaith i staff ddod at eu hunain.
22/23 Semester 1
-
CYF: 66-2209-250228 - Aelodaeth Canolfan Chwaraeon
Dy sylw: I am currently looking at sports centre membership, as I am no longer living in university accommodation. I thoroughly enjoyed using the swimming pool last year. I have calculated that, if I purchase the 135 membership, I would need to swim 3 times a week, every week until June, to cover the cost of the membership. I am very happy to pay for each visit individually, but it occurred to me that it might be worth raising the idea of offering membership options with access to only specific sports centre facilities for a cheaper price. Obviously I don't know whether this option has been ruled out in the past, but I feel that it would be of benefit to a lot of students. Thank you :)
Ein hymateb:
Diolch am yr e-bost ynglŷn â'r cynnig £135 sy'n cynnig mynediad anghyfyngedig i bob ardal.
Yn hanesyddol, roeddem yn cynnig aelodaeth aur unigol i'r pwll nofio, y gampfa, y dosbarthiadau a’r wal ddringo, fodd bynnag, roedd hyn yn rhoi myfyrwyr a oedd eisiau defnyddio’r ardaloedd llai prysur o dan anfantais mawr. Er enghraifft, byddai gan y gampfa (aelodaeth aur) 500 o ymweliadau/defnyddwyr y dydd tra byddai'r wal ddringo ond yn gweld tua 30-40. Roedd hyn yn golygu bod y pecyn (Aur) dringo yn llawer drytach na'r pecyn campfa. Roedd llawer o sybsideiddio ar draws cyfleusterau a oedd yn ei gwneud hi'n anodd iawn cyfiawnhau datblygu prosiectau/ardaloedd ar wahân. Er mwyn talu am y cynllunio a'r gorbenion, a chynnig pecyn gwerth am arian, cytunwyd i symleiddio'r categorïau aelodaeth a chynnig mynediad i bob ardal am y pris y byddai un aelodaeth aur wedi'i gostio. Cynyddodd hyn nifer yr aelodau Platinwm a ymunodd felly gallwch nawr gael mynediad i bob ardal am £135. Cyn cyflwyno’r aelodaeth Blatinwm yn 2017, byddai aelodaeth aur i nofio’n unig wedi costio £120.
Rydym yn adolygu/cymharu cyfraddau'r farchnad ar gyfer prifysgolion eraill Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn a gallwn ddatgan yn hyderus ein bod yn parhau i gynnig y gwerth gorau am arian o ran chwaraeon, iechyd a lles.
Mae'r cyfrifiad isod yn dangos y gost pe baech yn ymweld â'r pwll nofio (talu wrth fynd) 3 gwaith yr wythnos.
£3.50 yr ymweliad x 3 = £10.50 yr wythnos x 37 wythnos = £388.50
Er gwybodaeth - pe baech yn nofio unwaith yr wythnos am £3.50 tan ddiwedd y tymor (Mehefin 2023), byddwch wedi talu cost yr aelodaeth Blatinwm. Trwy brynu’r cynnig £135, yn amlwg fe allech chi nofio bob dydd a chael yr opsiwn o ddefnyddio'r campfeydd, y dosbarthiadau, wal ddringo a chael mynediad i'r trac.
Rwy'n gobeithio bod hyn yn helpu i ddangos ein bod yn cynnig gwerth gwych am arian i bob myfyriwr ddefnyddio'r ystod eang o gyfleusterau a gynigir.
21/22 Semester 2
-
CYF:66-2203-8757106 - Loceri yn y ganolfan chwaraeon
Dy sylw: Can the swimming changing rooms open up the lockers again please?
Ein hymateb:
Mae’r loceri wrth y pwll newydd eu hailagor o ganlyniad i godi cyfyngiadau Covid.
21/22 Semester 1
-
CYF:66-2110-4959828 - Cyflymdra'r melinau traed
Dy sylw: If possible, could you increase the treadmills' top speed in the gym to 23km/h? i have a passion for sprinting but it is impossible to sprint fast enough on the treadmills as the machines aren't fast enough. Thanks!
Ein hymateb:
Diolch am yr e-bost RhWN ynghylch defnydd a chyflymder y melinau traed. Rwyf wedi archwilio'r melinau traed (pob un o'r 14) ac maent wedi eu gosod i uchafswm cyflymder o 24.1km yr awrAr y safle hefyd mae'r S-Drive Performance Trainer gan Matrix Fitness sy'n gadael i chi sbrintio ar eich cyflymder uchaf rhedwr ac sy'n cynnig ffurf neu redeg mwy naturiol yn yr ystyr bod y gwregys yn ymateb i'ch pŵer/gyriant o leoliad pob troed sy'n golygu eich bod yn gallu cyrraedd y cyflymder uchaf yn syth, yn hytrach na'r 10-15 eiliad mae'n ei gymryd i gyrraedd cyflymder uchaf y felin draed.
Rwyf wedi atodi dolen i fideo da sy'n dangos sut i fanteisio i gynyddu eich cyflymder a'ch perfformiad i'r eithaf gyda'r S-Drive. Sgipiwch heibio'r hysbyseb YouTube...https://www.youtube.com/watch?v=L6DPYtx3TCg
Os hoffech ragor o wybodaeth am yr offer rhowch wybod i ni
20/21 Semester 2
20/21 Semester 1
-
CYF: 66-2012-759103 - Tymheredd yn y pwll nofio
Dy sylw: The water in the pool is always very cold please can it be warmed up especially when it is so cold outside. It makes it hard to swim for very long
Ein hymateb:
Mae neuadd y pwll nofio a'r ystafelloedd newid yn cael eu cadw ar dymheredd sydd wedi'i osod ymlaen llaw ac mae ganddyn nhw'r nifer cywir o newidiadau aer yr awr, yn unol â'r canllawiau ar gyfer gweithredu pyllau nofio yn ddiogel. Rhoddir argymhellion ar gyfer tymereddau dŵr pwll ac aer yng nghanllawiau'r Corff Llywodraethol Cenedlaethol (NGB) ar gyfer Rheoli Pyllau Nofio (PWTAG) a chanllawiau HSE.
Mae gan bob math o bwll nofio restr o ystod tymheredd argymelledig. Mae'r pyllau hyn yn amrywio o Byllau Cystadleuol / Ffitrwydd / Hyfforddiant, i Byllau Hamdden, Pyllau Dysgu Plant, Babanod, Pyllau Plant Ifanc i Byllau Hydrotherapi ac yn olaf Pyllau Sba.
Rydym yn gweithredu'r pwll yn y brifysgol ar dymheredd pwll nofio Hamdden, sydd â chanllaw o rhwng 27 - 29 gradd. Mae'r pwll yn cael ei gadw ar dymheredd o 28 gradd a'i fonitro ynghyd â lefelau cemegol y dŵr chwe gwaith y dydd. Mae profion misol hefyd yn cael eu cynnal gan gontractwr allanol i sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau llym hyn, ac yn darparu amgylchedd diogel i'n nofwyr.
Efallai y byddai rhai gweithredwyr yn symud tuag at dymheredd uwch, a byddai nofwyr hamdden yn mwynhau’r tymheredd cynhesach hwn. Fodd bynnag, byddai nofwyr clybiau cystadleuol a ffitrwydd yn teimlo bod tymheredd uwch yn anghyfforddus ac yn rhy boeth.
Gall tymereddau uwch hefyd greu nifer o broblemau eraill yn nŵr a neuadd y pwll. Mae'r rhain yn amrywio o ac yn cynnwys:
- Micro-organebau yn amlhau’n gyflymach mewn dŵr cynhesach.
- Bydd mwy o chwys yn ychwanegu at lefelau uwch o amonia ac wrea yn y pwll.
- Rhaid i dymheredd yr aer, sy'n gysylltiedig â thymheredd y dŵr godi hefyd - gan wneud yr awyrgylch yn llai cyfforddus i staff ac athrawon / hyfforddwyr.
- Bydd lefelau lleithder yn neuadd y pwll yn cynyddu, sy'n cynyddu'r risg o anwedd ac o bosibl cyrydiad a dirywiad adeiladwaith, strwythur ac offer yr adeilad.
- Mae costau ynni, uniongyrchol ac anuniongyrchol, yn uwch os cynyddir tymheredd y pwll.
- Defnyddir mwy o gemegau i gynnal lefel nofio ddiogel oherwydd y llygredd ychwanegol o chwysu ac amonia yn y dŵr.
Felly dyma pam rydym yn gweithredu ar y lefel Hamdden o fewn canllawiau NGB. Ei nod yw sicrhau'r tymheredd dŵr gorau posibl ar gyfer y pwll a'r sesiynau amrywiol rydyn ni'n eu cynnig i'n myfyrwyr, staff ac aelodau'r gymuned. -
CYF:66-2011-1636804 - Peiriant rhwyfo yn y gym
Dy sylw: Please could you put a rowing machine in the mini gym on fferm campus, so when it opens people from the rowing club can go there. thank you
Ein hymateb:
Diolch am yr e-bost ynglŷn â Champfa’r Hwb.
Ar hyn o bryd nid ydym wedi symud yr holl offer i'r gampfa oherwydd y canllawiau a’r cyfyngiadau sydd ar waith gan y llywodraeth o ganlyniad i Covid-19. Yn sicr, gallwn adolygu'r cynllun a chynnwys rhwyfwr unwaith y bydd y cyfyngiadau cyfredol yn codi. Mae gan bawb fynediad i'r rhwyfwyr yn y brif gampfa ar y campws.
19/20 Semester 1
-
CYF:66-1910-3593315 - Preifatrwydd yn y gym
Dy sylw: please add frosted glass to the window between rooms in the gym upstairs as when on the treadmills people just stare at you when on the other machines or whilst filling up their drink
Ein hymateb:
Rydym wedi aildrefnu offer y gampfa yng ngoleuni Covid-19 i sicrhau pellter cymdeithasol ac erbyn hyn mae mwy o breifatrwydd rhag gwylwyr