CYF: 66-2403-3870012 - Loceri yn y Ganolfan Chwaraeon

Dy sylw: I would like to ask if the broken lockers in the changing room in the sports centre could be fixed please.

Ein hymateb:

Diolch ichi am eich neges ynghylch y loceri sydd wedi’u difrodi. Rydym wrthi’n gweithio gyda’r adran Ystadau i gwblhau arolwg dichonoldeb ac adnewyddu ar gyfer yr ystafelloedd newid presennol. Rydym yn gobeithio dyblu maint y gofod drwy adeiladu allan i’r blaen a fydd yn ein galluogi i ailgynllunio’r ardaloedd mewnol presennol gyda defnydd mwy effeithlon. Os bydd y dichonoldeb yn llwyddiannus, yn rhan o’r prosiect hwn, byddwn yn edrych ar osod loceri newydd ar y wal.
Yn y cyfamser, rydym yn ceisio gwneud y defnydd gorau o’r loceri, ond nid oes rhai rhannau bellach ar gael gan y cwmni.