CYF: 66-2012-759103 - Tymheredd yn y pwll nofio

Dy sylw: The water in the pool is always very cold please can it be warmed up especially when it is so cold outside. It makes it hard to swim for very long 

Ein hymateb:

Mae neuadd y pwll nofio a'r ystafelloedd newid yn cael eu cadw ar dymheredd sydd wedi'i osod ymlaen llaw ac mae ganddyn nhw'r nifer cywir o newidiadau aer yr awr, yn unol â'r canllawiau ar gyfer gweithredu pyllau nofio yn ddiogel. Rhoddir argymhellion ar gyfer tymereddau dŵr pwll ac aer yng nghanllawiau'r Corff Llywodraethol Cenedlaethol (NGB) ar gyfer Rheoli Pyllau Nofio (PWTAG) a chanllawiau HSE.

Mae gan bob math o bwll nofio restr o ystod tymheredd argymelledig. Mae'r pyllau hyn yn amrywio o Byllau Cystadleuol / Ffitrwydd / Hyfforddiant, i Byllau Hamdden, Pyllau Dysgu Plant, Babanod, Pyllau Plant Ifanc i Byllau Hydrotherapi ac yn olaf Pyllau Sba.

Rydym yn gweithredu'r pwll yn y brifysgol ar dymheredd pwll nofio Hamdden, sydd â chanllaw o rhwng 27 - 29 gradd. Mae'r pwll yn cael ei gadw ar dymheredd o 28 gradd a'i fonitro ynghyd â lefelau cemegol y dŵr chwe gwaith y dydd. Mae profion misol hefyd yn cael eu cynnal gan gontractwr allanol i sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau llym hyn, ac yn darparu amgylchedd diogel i'n nofwyr.

Efallai y byddai rhai gweithredwyr yn symud tuag at dymheredd uwch, a byddai nofwyr hamdden yn mwynhau’r tymheredd cynhesach hwn. Fodd bynnag, byddai nofwyr clybiau cystadleuol a ffitrwydd yn teimlo bod tymheredd uwch yn anghyfforddus ac yn rhy boeth.

Gall tymereddau uwch hefyd greu nifer o broblemau eraill yn nŵr a neuadd y pwll. Mae'r rhain yn amrywio o ac yn cynnwys:

  • Micro-organebau yn amlhau’n gyflymach mewn dŵr cynhesach.
  • Bydd mwy o chwys yn ychwanegu at lefelau uwch o amonia ac wrea yn y pwll.
  • Rhaid i dymheredd yr aer, sy'n gysylltiedig â thymheredd y dŵr godi hefyd - gan wneud yr awyrgylch yn llai cyfforddus i staff ac athrawon / hyfforddwyr.
  • Bydd lefelau lleithder yn neuadd y pwll yn cynyddu, sy'n cynyddu'r risg o anwedd ac o bosibl cyrydiad a dirywiad adeiladwaith, strwythur ac offer yr adeilad.
  • Mae costau ynni, uniongyrchol ac anuniongyrchol, yn uwch os cynyddir tymheredd y pwll.
  • Defnyddir mwy o gemegau i gynnal lefel nofio ddiogel oherwydd y llygredd ychwanegol o chwysu ac amonia yn y dŵr.


Felly dyma pam rydym yn gweithredu ar y lefel Hamdden o fewn canllawiau NGB. Ei nod yw sicrhau'r tymheredd dŵr gorau posibl ar gyfer y pwll a'r sesiynau amrywiol rydyn ni'n eu cynnig i'n myfyrwyr, staff ac aelodau'r gymuned.