Adborth RhWN - Y Gyfraith a Throseddeg
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
23/24 Semester 2
-
CYF: 66-2403-4769514 - Mwy o Fodiwlau yn y Gyfraith
Dy sylw: You guys should absolutely do more law modules so that there are more to choose from such as law and gender and space law.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw a’ch awgrymiadau. Byddaf yn anfon y rhain ymlaen at y tîm.Mae gennym ystod eang o fodiwlau’r Gyfraith sy’n gyffelyb i’r hyn a gynigir mewn prifysgolion eraill. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig rydym wedi lansio cyfanswm o wyth modiwl israddedig newydd yn y Gyfraith, sef Technoleg DA a’r Gyfraith, Cyfraith Eiddo Deallusol a’r chwe modiwl Y Gyfraith ar Waith.Mewn byd delfrydol byddem yn cynnig llawer mwy, ond rydym wedi’n cyfyngu gan nifer y staff dysgu a’r oriau mewn diwrnod. Wedi dweud hynny, dysgir elfennau o’r gyfraith a rhywedd yn rhan o’n modiwl israddedig cyfraith teulu, ac mae modiwl uwchraddedig ar y pwnc. -
CYF: 66-2402-1085405 - Arholiadau Llyfr Agored
Dy sylw: Why can't we take library books into exams so of the books we are recommended are very expensive for use for 2hrs in the exam but the library might have lots of copies of that book.
Ein hymateb:
Dim ond rhai o'n modiwlau Cyfraith adrannol sy'n gwbl lyfr agored, h.y. rhai sy'n caniatáu i fyfyrwyr fynd ag unrhyw lyfrau neu nodiadau o'u dewis (o fewn rheswm) i arholiadau. Yn gyffredin ag adrannau eraill y brifysgol sy'n addysgu'r gyfraith, nid yw hyn yn cynnwys llyfrau llyfrgell, ac nid yw erioed wedi gwneud. Un rheswm am hyn yw nad oes digon o gopïau o werslyfrau yn y llyfrgell. Nid yw adnoddau'r Adran yn ymestyn i alluogi pob myfyriwr i gael gwerslyfr ar gyfer pob modiwl a gynigiwn. O ganlyniad, pe caniateir llyfrau llyfrgell, byddai gan unrhyw fyfyriwr (waeth beth fo'u modd) a lwyddodd i sicrhau llyfr llyfrgell i'w ddefnyddio mewn arholiad fynediad breintiedig at adnoddau'r Brifysgol. Ar ben hynny, pe caniateid llyfrau llyfrgell, mae perygl y byddai myfyrwyr yn dal eu gafael yn y llyfrau drwy gydol y tymor er mwyn eu cadw ar gyfer yr arholiadau, gan amddifadu myfyrwyr eraill o'r cyfle i weld y llyfrau hynny nid yn unig yn yr arholiadau ond drwy gydol y tymor.Ym mhob achos, mae arholiadau llyfr agored o'r fath yn caniatáu i fyfyrwyr gymryd cynifer o nodiadau ag y dymunant. Mae techneg dda i baratoi ar gyfer arholiadau (llyfr agored neu fel arall) yn cynnwys gwneud nodiadau adolygu, yn seiliedig ar werslyfrau yn ogystal â deunydd arall.Os yw myfyrwyr yn cael trafferthion ariannol, mae'r Brifysgol yn cynnig grantiau caledi i helpu. Gellir dod o hyd i'r manylion yma: Cronfa Caledi (umaber.co.uk)