CYF: 66-2403-4769514 - Mwy o Fodiwlau yn y Gyfraith

Dy sylw: You guys should absolutely do more law modules so that there are more to choose from such as law and gender and space law.

Ein hymateb:

Diolch am eich sylw a’ch awgrymiadau. Byddaf yn anfon y rhain ymlaen at y tîm.
Mae gennym ystod eang o fodiwlau’r Gyfraith sy’n gyffelyb i’r hyn a gynigir mewn prifysgolion eraill. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig rydym wedi lansio cyfanswm o wyth modiwl israddedig newydd yn y Gyfraith, sef Technoleg DA a’r Gyfraith, Cyfraith Eiddo Deallusol a’r chwe modiwl Y Gyfraith ar Waith.
Mewn byd delfrydol byddem yn cynnig llawer mwy, ond rydym wedi’n cyfyngu gan nifer y staff dysgu a’r oriau mewn diwrnod. Wedi dweud hynny, dysgir elfennau o’r gyfraith a rhywedd yn rhan o’n modiwl israddedig cyfraith teulu, ac mae modiwl uwchraddedig ar y pwnc.