Adborth RhWN - Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
23/24 Semester 2
-
CYF: 66-2311-1529810 - Adborth Taith Hawkstone
Dy sylw: The Writing Retreat organised by the English and Creative Writing department, was an incredibly valuable experience. It really fostered a sense of community for us, and the relaxed balance between rest and work enabled me to complete some daunting work. I felt safe, encouraged, and inspired-- it was just fantastic.
Ein hymateb:
Diolch am yr adborth cadarnhaol hwn ynghylch gwerth Encil Ysgrifennu Hawkstone. Mae'r Adran yn falch iawn o glywed faint yr ydych wedi gwerthfawrogi'r profiad hwn. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddarparu'r digwyddiad hwn ar gyfer ein myfyrwyr yn y flwyddyn olaf, yn enwedig oherwydd ei fod yn rhywbeth rydym ni’n ei fwynhau'n fawr hefyd. Rwyf wedi pasio eich adborth ymlaen i'r tîm sy'n ymwneud â chynnal y digwyddiad ac maent wrth eu boddau. Diolch.
-
CYF: 66-2401-1496309 - Darlithoedd VS Ar-lein Wyneb yn wyneb
Dy sylw: It would be preferable if the lectures were in person rather than online. The online format does not suit mine, and many others form of learning, and to be paying such a fee to attend university, I would expect more hours of contact.
Ein hymateb:
Mae'r Adran wedi ymrwymo i ddarparu'r profiad gorau posibl i'n holl fyfyrwyr ac fe wnaethom ymateb i adborth myfyrwyr a ddangosodd ffafriaeth glir i addysgu mewn grwpiau mawr (h.y. darlithoedd) i’w cyflwyno trwy recordiadau arddull podlediad yn hytrach nag 1 awr o ddarlithoedd wyneb yn wyneb gan fod myfyrwyr yn credu bod y fformat hwn yn fwy buddiol. Yn ei dro, roedd hyn yn ein galluogi i gynyddu'r amser a dreulir yn addysgu mewn grwpiau bach (h.y. seminarau a gweithdai) sydd, yn ein barn ni, â mwy o werth o ran galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau. Fodd bynnag, rydym bob amser yn agored i adborth ac wedi bod yn ystyried amrywiaeth o ffyrdd y gallem fynd i'r afael â'r mater hwn. Byddwn yn rhannu'r opsiynau sydd ar gael i ni gyda'ch Cynrychiolwyr Academaidd yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol a byddwn yn gofyn am eu cymorth i ganfasio corff y myfyrwyr. Yn fyr, rydym yn edrych ar ddarparu cyfres o ddarlithoedd wyneb yn wyneb a gynlluniwyd i gefnogi eich dysgu ar draws ystod o feysydd allweddol o astudio llenyddol. Byddai hyn yn digwydd bob wythnos yn ystod y tymor, gan ychwanegu oriau cyswllt ychwanegol a chyfleoedd i ymestyn eich dysgu y tu hwnt i'r modiwlau rydych wedi cofrestru ar eu cyfer.
21/22 Semester 2
-
CYF:66-2205-7587210 - Canmol modiwl
Dy sylw: WL10420 I have thoroughly enjoyed this module. Initially, I was slightly hesitant about choosing the module as it is a WL module with a Creative focus (I'm study purely English Literature (course code Q300)). However, this module has been one of the most helpful modules I've taken in my first year of study. I've found the freedom given to Critical students beneficial- my seminar tutor allowed me to create my own questions/choose my own texts for the assignments. This allowed me to choose texts that I was confident with, thus allowing me to give greater focus to my essay technique and critical approach (whereas if I was new to the text/period, I'd have to spend more time researching and understanding the text itself). In this module, I've had the opportunity to practice skills that I've learnt in the core module, Critical Practice, in greater detail. In addition, I've found it really useful to be in a class of Creative students. It has been enlightening to hear their perspectives and learn from their approaches to works of literature. Ultimately, the literature we Critical thinkers analyse come from Creative minds, and thus it's useful to try to think about texts from their perspective, too. Next year (my second undergraduate year) I have chosen the only WL module available to me, purely sue to my experience on this module, Introduction to Poetry, and the first-year WL module with a Critical focus, Literature and the Sea. I would encourage Critical students looking to gain perspective and strengthen their analytical skills to take this module.
Ein hymateb:
Rwyf i’n falch iawn i glywed cymaint rydych chi wedi mwynhau WL10420 - diolch am eich adborth. Y gwerth rydych chi’n ei nodi o ran cymryd modiwlau, fel Introduction to Poetry, sy’n croesi’r rhaniad creadigol/beirniadol yw’r union beth sy’n sail ar gyfer ethos ein cwricwlwm: i fod yn awdur da rhaid i chi fod wedi darllen yn eang ac i fod yn feirniad da rhaid i chi ddeall y broses greadigol. Mae’n wych clywed y byddwch yn parhau i ddilyn modiwlau WL y flwyddyn nesaf. Rydym ni’n araf yn cynyddu’r nifer o fodiwlau ag “asesiad hybrid” sy’n gadael i fyfyrwyr ymateb i dasgau asesu naill ai yn y modd creadigol neu’r modd beirniadol - rwy’n siŵr eich bod wedi nodi rhai o’r rhain wrth wneud eich dewisiadau modiwl ar gyfer y flwyddyn nesaf, a byddwch chi’n gweld mwy o opsiynau fel hyn pan gyrhaeddwch y drydedd flwyddyn. Unwaith eto, diolch am eich adborth a’ch anogaeth werthfawr i fyfyrwyr y dyfodol ddilyn eich llwybr.
21/22 Semester 1
-
CYF:66-2111-1596830 - Modiwl arswyd
Dy sylw: I'm enjoying the course, but it really feels like there is a hole in the modules provided. We have a fantasy module, and a scifi module, but I think the course could really benefit from a horror module. Horror requires a very specific set of writing skills that aren't fully represented by other modules.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw. Mae’r tîm Ysgrifennu Creadigol bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i gyfoethogi’r cwricwlwm yn unol â’u harbenigedd ymchwil. Ar hyn o bryd nid oes gennym arbenigwr mewn ffuglen arswyd ond rydym ni’n gwerthfawrogi’r awgrym a byddwn yn edrych am ffyrdd i ddod â’r arbenigedd hwn i’n rhaglen o weithgaredd allgyrsiol. Unwaith eto, diolch am eich sylw.
-
CYF:66-2111-1938408 - Seminarau ar-lein
Dy sylw: Online Teams seminar should still be available, it made it loads easier for students with disabilities and it would make it loads easier for those in isolation or those who caught Covid
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw Rho Wybod Nawr. Rwy'n deall y rhwystredigaeth a'r pryder y mae rhai myfyrwyr yn ei deimlo ynglŷn ag addysgu wyneb yn wyneb. Mae staff yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn gweithio’n galed i sicrhau bod pob un o’n myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn eu haddysg ac, am y rheswm hwnnw, dewisodd rhai aelodau staff ddefnyddio Teams ochr yn ochr â dysgu wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, mae polisi'r Brifysgol yn glir iawn nad sefydliad dysgu o bell yw Aberystwyth ac mai addysgu wyneb yn wyneb yw ein prif ddull o gyflwyno addysg. Deallaf fod y sefyllfa hon yn wahanol iawn i brofiadau myfyrwyr y blynyddoedd blaenorol ac y bydd yn cymryd amser i addasu iddi. Os oes gennych bryderon ynglŷn â'ch gallu i fynychu, cysylltwch â'ch Tiwtor Blwyddyn a fydd yn hapus i roi cefnogaeth i chi. Gan ein bod yn ymwybodol bod nifer o fyfyrwyr yn ei chael hi'n anodd dod i arfer gyda dysgu wyneb yn wyneb, rydym yn y broses o drefnu sesiynau ar-lein pwrpasol ar ôl yr wythnos ddarllen sydd wedi'u cynllunio i roi cymorth ychwanegol. Bydd gwybodaeth am y sesiynau hyn yn cael ei hanfon atoch dros e-bost maes o law.
Os hoffech chi drafod eich pryderon penodol ynghylch addysgu personol, cysylltwch â'n cydlynydd lles, Val Nolan (pvn@aber.ac.uk). Bydd Val yn hapus i drefnu cyfarfod gyda chi. Cofiwch fod yr holl addysgu personol yn digwydd mewn grwpiau bach ac yn cadw'n gaeth at reolau Covid y Brifysgol sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn ein cymuned a chaniatáu i addysgu wyneb yn wyneb allu digwydd.
20/21 Semester 2
20/21 Semester 1
-
CYF:66-2012-992614 - Modiwl WRM6140 yn ddefnyddiol iawn
Dy sylw: Modiwl: WRM6140: Online which I appreciated to stay safe, this Writer as Practitioner 1 offered a range of support and ideas which were useful to me. I believe the quality of my writing has improved since October, in a stress-free way.
Ein hymateb:
Roedd yr Adran a thîm y modiwl yn falch iawn o gael yr adborth hwn ynghylch y modiwl hwn, sy'n newydd ac yn cael ei gyflwyno dan amgylchiadau gwahanol iawn i'r rhai a ddychmygwyd wrth gynllunio'r rhaglen! Mae'n dda clywed bod ein dull hybrid, hyblyg o ddysgu ar-lein / wyneb yn wyneb yn helpu ein myfyrwyr trwy wneud dewisiadau personol anodd ychydig yn haws i'w llywio. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n carfan MA wych ac at weld eu hysgrifennu'n datblygu ymhellach dros y misoedd nesaf.
-
CYF:66-2010-805702 - Anodd cyfrannu at sesiynau arlein
Dy sylw: Modiwl: WR20220 I have a small issue that occurred in a teams call, not concerning teaching, because the content was useful, but I found it real difficult/impossible to get into the discussion due to the same couple of people just commandeering the discussion, which really just made me demotivated to even try. So, moving forward, could you please curb some of these people just so everyone can have a say, because I know I'm not the only person who felt that way.
Ein hymateb:
Diolch i chi am grybwyll eich pryderon. Yn sgil eich sylwadau, mae'r Pennaeth Adran wedi cyhoeddi nodyn i'r holl staff dysgu i’w hatgoffa y dylent sicrhau eu bod yn rhoi cyfleoedd i'r holl fyfyrwyr gyfrannu yn ystod seminarau a gweithdai. Cafodd yr holl staff hyfforddiant dros yr haf ar sut i ddefnyddio Teams fel amgylchedd dysgu - rydym yn ategu’r hyfforddiant hwn gyda sesiynau ychwanegol dros yr wythnosau nesaf a fydd yn canolbwyntio ar reoli'r ystafell ddosbarth ar-lein. Unwaith eto, diolch am eich sylwadau defnyddiol ac am eich amynedd wrth i’n staff a'n myfyrwyr ddod i arfer â’r ffyrdd newydd hyn o weithio.
-
CYF:66-2009-4312730 - Pryderon dysgu arlein
Dy sylw: I am concerned about the impact that online teaching will have on the outcome of not just my degree, but on all students, particularly those who are completing their degrees this year. While I think it was definitely the right decision to move online in terms of safety, I feel like communication between staff and students has been a bit lax at times. Realistically I think it would be extremely ambitious to expect students back on campus before Christmas, and I feel that the decision to examine whether it is safe to return on campus on a weekly basis is a bit frustrating as it seems as if students and staff are being treated as if they are expendable. Furthermore, I have recently been alerted that there is currently no plan to implement a ‘no detriment’ policy for examinations or assessments such as the one used at the end of last academic year. Although I appreciate that this is an unprecedented situation, I think the leadership of this university should consider how these circumstances affect staff and students and their wellbeing. I know it would be greatly appreciated if a ‘no detriment’ policy or any similar plans to assist students and staff in completing and marking work was implemented, as the expectation for both students and staff to complete work online in the same way they would in person with little indication of what will happen will almost certainly take a toll on academic staff and students who are already negatively impacted by the situation.
Ein hymateb:
Diolch i chi am grybwyll y pryderon hyn. Gallwch fod yn dawel eich meddwl, pa amgylchiadau bynnag sy'n cael eu gorfodi arnom yn sgil sefyllfa barhaus Covid-19, bod y staff academaidd ledled yr adran yn benderfynol o sicrhau bod pob un o'n myfyrwyr yn cael addysg o ansawdd uchel ac yn sicrhau canlyniadau sy'n adlewyrchu eu gallu a'u hymdrech. Rwy'n bryderus clywed eich bod yn teimlo bod y cyfathrebu rhwng y staff a’r myfyrwyr wedi bod ychydig yn llac - yn sicr, nid dyna’n bwriad, ac os oes problemau penodol lle nad yw staff dysgu yn cadw cysylltiad, cysylltwch â'ch pennaeth adran fel y gallaf fynd i'r afael â'r broblem a'i datrys.
Rwy'n hyderus nad yw Gweithrediaeth y Brifysgol yn ystyried bod staff na myfyrwyr yn "ddiwerth"; yn wir, mae ymrwymiad y Brifysgol i weithio gydag awdurdodau lleol gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Ceredigion yn dangos bod y Brifysgol yn ymateb i iechyd a lles ein cymuned gyfan ac yn blaenoriaethu hynny. Serch hynny, deallaf eich pryderon yn hyn o beth ac fe'ch gwahoddaf i rannu'r rhain â chyd-weithwyr uwch sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phenderfyniadau ynghylch y pandemig; gallwch wneud hyn trwy linell gymorth y Coronafeirws coronavirus@aber.ac.uk.
Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, mae gan yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol weithdrefnau cadarn a theg ar waith er mwyn ymdrin ag amgylchiadau arbennig unigolion - nid yw hyn wedi newid, er bod y modd yr ydym yn darparu cefnogaeth academaidd a bugeiliol, am y tro, wedi'i gyfyngu i apwyntiadau ar-lein. Os hoffech drafod eich cynnydd academaidd, yna cysylltwch â'ch Tiwtor Personol (gwiriwch eich cofnod myfyriwr er mwyn cael eu manylion cyswllt), Tiwtor Blwyddyn, neu Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu - a fydd yn fwy na pharod i helpu. Os oes gennych bryderon ynghylch eich lles, cysylltwch â'n Cydlynydd Lles. Mae eich sylwadau ynghylch y polisi dim anfantais wedi cael eu nodi a byddaf yn sicrhau bod yr adborth hwn yn cael ei rannu â chyd-weithwyr yn y Gofrestrfa Academaidd fel y gallant ei ystyried.
Mae'n anochel, fel y nodwch yn eich sylwadau, y bydd yr amgylchiadau presennol yn cael effaith ar staff a myfyrwyr. Fel eich Pennaeth Adran, rwy'n gweithio'n galed i sicrhau bod yr effaith hon yn cael ei chadw cyn lleied â phosib ac i sicrhau y gallwn ni i gyd barhau i weithio mewn amgylchedd sy'n gadarnhaol, yn gefnogol ac yn canolbwyntio ar y gymuned. Diolch eto am eich sylwadau a hoffwn bwysleisio bod croeso ichi drafod unrhyw bryderon sydd gennych gyda mi yn uniongyrchol.