CYF:66-2111-1938408 - Seminarau ar-lein
Dy sylw: Online Teams seminar should still be available, it made it loads easier for students with disabilities and it would make it loads easier for those in isolation or those who caught Covid
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw Rho Wybod Nawr. Rwy'n deall y rhwystredigaeth a'r pryder y mae rhai myfyrwyr yn ei deimlo ynglŷn ag addysgu wyneb yn wyneb. Mae staff yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn gweithio’n galed i sicrhau bod pob un o’n myfyrwyr yn cael eu cefnogi yn eu haddysg ac, am y rheswm hwnnw, dewisodd rhai aelodau staff ddefnyddio Teams ochr yn ochr â dysgu wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, mae polisi'r Brifysgol yn glir iawn nad sefydliad dysgu o bell yw Aberystwyth ac mai addysgu wyneb yn wyneb yw ein prif ddull o gyflwyno addysg. Deallaf fod y sefyllfa hon yn wahanol iawn i brofiadau myfyrwyr y blynyddoedd blaenorol ac y bydd yn cymryd amser i addasu iddi. Os oes gennych bryderon ynglŷn â'ch gallu i fynychu, cysylltwch â'ch Tiwtor Blwyddyn a fydd yn hapus i roi cefnogaeth i chi. Gan ein bod yn ymwybodol bod nifer o fyfyrwyr yn ei chael hi'n anodd dod i arfer gyda dysgu wyneb yn wyneb, rydym yn y broses o drefnu sesiynau ar-lein pwrpasol ar ôl yr wythnos ddarllen sydd wedi'u cynllunio i roi cymorth ychwanegol. Bydd gwybodaeth am y sesiynau hyn yn cael ei hanfon atoch dros e-bost maes o law.
Os hoffech chi drafod eich pryderon penodol ynghylch addysgu personol, cysylltwch â'n cydlynydd lles, Val Nolan (pvn@aber.ac.uk). Bydd Val yn hapus i drefnu cyfarfod gyda chi. Cofiwch fod yr holl addysgu personol yn digwydd mewn grwpiau bach ac yn cadw'n gaeth at reolau Covid y Brifysgol sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn ein cymuned a chaniatáu i addysgu wyneb yn wyneb allu digwydd.