Adborth RhWN - AThFfTh
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
21/22 Semester 2
21/22 Semester 1
-
CYF:66-2111-9715811 - Gwneud cais ar gyfer estyniad
Dy sylw: Generalised suggestion, but I think it's important for departments to follow the same length time for applying for extensions, Likewise extensions or special procedures should be done in freshers weeks to reinsure some students like me who have mental health conditions linked to stress that could worsen their symptoms. i.e one of my department was to apply in a week to the deadline date to me made me more stressful and worsened my mental health whilst another department took my requests weeks before the deadline. When they did give me weeks before it reduced my anxiety and helped me to relax a little,
Ein hymateb:
Ystyrir ceisiadau am estyniad gan y swyddogion dynodedig ym mhob adran academaidd, a byddwn yn eich cynghori i godi unrhyw bryderon penodol gyda'ch adran. Byddwn hefyd yn nodi eich sylwadau yn rhan o'r adolygu adolygiad parhaus ar brosesau'r Brifysgol sy'n ymwneud ag amgylchiadau arbennig myfyrwyr ac estyniadau gogyfer â gwaith cwrs.
-
CYF:66-2111-7810511 - Opsiynau modiwlau Cymraeg
Dy sylw: Media Communications/TFTS need to have some modules in welsh as it has been 2 years where there was none of my modules that could be taught in welsh, as Aber is a champion of welsh culture, (in my opinion) its disappointing Aber has no welsh taught/module for media communication. I know a few of welsh speaking lecturers in that department there should be a few spare to teach a module surely? Could TFTS have other lecturers from other uni? They do this with the History department I heard to help out? I heard they use CCC or a few from Bangor/Aber in some welsh modules.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw. Mae cynllun Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu yn gynllun cyfrwng Saesneg ac felly mae P300 a'r holl gyfuniadau Anrhydedd Gyfun yn cael eu hysbysebu a'u cyflwyno yn Saesneg. Mae cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn gradd yn y Cyfryngau a Hanes (er enghraifft), yn enwedig yn y drydedd flwyddyn. Ceir cyflwyno gwaith ar gyfer y modiwl traethawd hir, sy'n werth 40 credyd, yn Gymraeg (yn wir, os ymgynghorir â thiwtoriaid y modiwl, ceir cyflwyno unrhyw aseiniad ysgrifenedig yn Gymraeg); a chaiff myfyrwyr ddewis hyd at 40 credyd o fodiwlau dros ddwy flynedd o’r tu allan i’w cynllun gradd dewisol – gallai hyn, unwaith eto, fod yn gyfle i ddewis modiwlau cyfrwng Cymraeg (dim ond un modiwl 20 credyd y flwyddyn fel arfer). Nid yw gradd Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Gymraeg, er bod rhai modiwlau Cymraeg cyfatebol i'r rhai a gynigir ar y cynllun ACCh ar hyn o bryd (Genrau Teledu a Dogfen Greadigol er enghraifft) wedi bod ar gael - roeddent fel arfer yn cael eu cynnig i fyfyrwyr fel rhan o gynllun cyfrwng Cymraeg Ffilm a Theledu. Mae nifer o'r modiwlau y gellid eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg wedi eu tynnu’n ôl neu ddod i ben dros y blynyddoedd diwethaf – er mawr ofid i’r Adran – nid oherwydd prinder staff cyfrwng Cymraeg ond oherwydd diffyg galw gan fyfyrwyr. Am flynyddoedd lawer, roedd cynllun gradd cyfrwng Cymraeg mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu (W621) ar gael a oedd yn cynnig 100% o’i fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynllun gradd hwn yn dod i ben yn 2021-22 ac yn cael ei ddisodli gan radd newydd, BA Creu Cyfryngau, a fydd yn cynnig cyfleoedd creadigol i gyfer astudio dulliau ar draws sbectrwm y Diwydiant Creadigol. Nid yw’r gyfres o fodiwlau newydd sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o gynllun Creu Cyfryngau y flwyddyn nesaf yn cyfateb yn gyffredinol i fodiwlau cyfrwng Saesneg presennol, ond maent yn ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg nodedig ynddynt eu hunain.
-
CYF:66-2111-5704111 - Sesiynau arlein
Dy sylw: I think students should have an option to join the lecturers/seminars remotely. Instead of missing lessons it can give them a way to learn. That being only making online an option in specific circumstances, but would have to have reasonable reasons such having e to travel home for health related appointments which could help students to carry on without missing any work and have to catch up or mis vital information from lessons
Ein hymateb:
Mae'r adran yn gweithredu'r polisi dysgu o bell sydd wedi'i bennu gan y brifysgol. Rydym yn agored bob amser i ystyried achosion unigol wrth iddynt godi ac, os yw'n ymarferol ac os nad yw’n tarfu, mae'n bosib y byddai eich tiwtoriaid yn caniatáu cysylltu o bell. Mewn llawer o achosion, fodd bynnag, o ystyried natur y disgyblaethau seiliedig ar ymarfer sy'n cael eu hastudio yn yr adran, nid yw hyn yn bosib. Os ydych chi'n gwybod ymlaen llaw y bydd yn rhaid i chi golli sesiwn am resymau meddygol, fel rydych yn awgrymu, siaradwch gyda thiwtor y modiwl a'ch tiwtor personol. Byddant yn rhoi cyngor i chi ar yr opsiynau gorau.