CYF:66-2111-7810511 - Opsiynau modiwlau Cymraeg
Dy sylw: Media Communications/TFTS need to have some modules in welsh as it has been 2 years where there was none of my modules that could be taught in welsh, as Aber is a champion of welsh culture, (in my opinion) its disappointing Aber has no welsh taught/module for media communication. I know a few of welsh speaking lecturers in that department there should be a few spare to teach a module surely? Could TFTS have other lecturers from other uni? They do this with the History department I heard to help out? I heard they use CCC or a few from Bangor/Aber in some welsh modules.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw. Mae cynllun Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu yn gynllun cyfrwng Saesneg ac felly mae P300 a'r holl gyfuniadau Anrhydedd Gyfun yn cael eu hysbysebu a'u cyflwyno yn Saesneg. Mae cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn gradd yn y Cyfryngau a Hanes (er enghraifft), yn enwedig yn y drydedd flwyddyn. Ceir cyflwyno gwaith ar gyfer y modiwl traethawd hir, sy'n werth 40 credyd, yn Gymraeg (yn wir, os ymgynghorir â thiwtoriaid y modiwl, ceir cyflwyno unrhyw aseiniad ysgrifenedig yn Gymraeg); a chaiff myfyrwyr ddewis hyd at 40 credyd o fodiwlau dros ddwy flynedd o’r tu allan i’w cynllun gradd dewisol – gallai hyn, unwaith eto, fod yn gyfle i ddewis modiwlau cyfrwng Cymraeg (dim ond un modiwl 20 credyd y flwyddyn fel arfer). Nid yw gradd Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Gymraeg, er bod rhai modiwlau Cymraeg cyfatebol i'r rhai a gynigir ar y cynllun ACCh ar hyn o bryd (Genrau Teledu a Dogfen Greadigol er enghraifft) wedi bod ar gael - roeddent fel arfer yn cael eu cynnig i fyfyrwyr fel rhan o gynllun cyfrwng Cymraeg Ffilm a Theledu. Mae nifer o'r modiwlau y gellid eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg wedi eu tynnu’n ôl neu ddod i ben dros y blynyddoedd diwethaf – er mawr ofid i’r Adran – nid oherwydd prinder staff cyfrwng Cymraeg ond oherwydd diffyg galw gan fyfyrwyr. Am flynyddoedd lawer, roedd cynllun gradd cyfrwng Cymraeg mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu (W621) ar gael a oedd yn cynnig 100% o’i fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynllun gradd hwn yn dod i ben yn 2021-22 ac yn cael ei ddisodli gan radd newydd, BA Creu Cyfryngau, a fydd yn cynnig cyfleoedd creadigol i gyfer astudio dulliau ar draws sbectrwm y Diwydiant Creadigol. Nid yw’r gyfres o fodiwlau newydd sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o gynllun Creu Cyfryngau y flwyddyn nesaf yn cyfateb yn gyffredinol i fodiwlau cyfrwng Saesneg presennol, ond maent yn ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg nodedig ynddynt eu hunain.