Ffiseg

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Mae’r sgiliau a'r profiad a ddatblygwch drwy eich addysg a phrofiadau allgyrsiol yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr, ac yn hanfodol i'ch cyfraniad effeithiol yn y gweithle. Byddwch yn gallu i ddatrys problemau masnachol, diwydiannol a gwyddonol, ymchwilio a chyflwyno atebion posib yn rhesymegol a gydag eglurder, gymhwyso theori a chysyniadau i amrywiaeth o gyd-destunau.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae llawer o bosibiliadau yn agored i raddedigion, a gall gradd Ffiseg cael eu cymhwyso i ystod eang o bosibiliadau. Edrychwch ymhellach i lawr y dudalen hon i gael gwybodaeth am yr hyn y mae graddedigion Ffiseg Aber yn ei wneud.

Mae sgiliau penodol a enillwyd gan fyfyrwyr Ffiseg megis gwaith labordy, arbenigedd technegol, ysgrifennu papur ac ymchwil, mewn alw mawr gan gyflogwyr. Mae rhai myfyrwyr a graddedigion yn penderfynu arbenigo mewn pwnc penodol trwy astudiaethau ôl-raddedig, tra bod eraill yn symud i gyflogaeth i raddedigion.

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion?

Bydd y rhestr o ddolenni isod yn cynnig man cychwyn dda ar gyfer chwilio am brofiad gwaith a gwaith graddedig yn ymwneud a’ch pwnc.

 

Chyrff Proffesiynnol

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Isod yw rhai esiamplau o’r swyddi mae ein myfyrwyr Ffiseg wedi symud ymlaen i’w wneud, hefo rhestr o’r cwmnïau yn cyflogi’r graddedigion:

  • Archwiliwr Patentau Cysylltiol
  • Cydlynydd Prosiect
  • Cynorthwy-ydd Ymchwil
  • Dadansoddwr Actiwari
  • Dadansoddwr Data
  • Datblygydd Gwefan
  • Ffisegydd Graddedig
  • Ffisegydd Iechyd
  • Golygydd
  • Golygydd Cyhoeddi
  • Gwyddonydd Ymchwil
  • Myfyriwr Ymchwil PhD
  • Peilot Awyrennau
  • Peiriannydd Algorithmau ac Electro-Opteg
  • Peiriannydd Prosiect
  • Peiriannydd Systemau Llyngesol
  • Swyddog Gweinyddol
  • Technegydd Cynhyrchu
  • Technegydd Labordy
  • Technegydd Ymchwil
  • Ymchwilydd Cyswllt
  • Ymgynghorydd Marchnata a Gwerthu
  • Ysgolor Ôl-ddoethurol

Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion ffiseg Aberystwyth i weithio iddynt:

  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Amryw Sefydliadau Addysg Uwch Eraill
  • CEAM, Prifysgol Newcastle upon Tyne
  • Enterprise Connect
  • Gweinyddiaeth Amddiffyn
  • Hargreaves Lansdown
  • Intersurgical
  • Morrisons
  • Newbury Electronics
  • RBS
  • Swyddfa Eiddo Deallusol
  • Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • TCI
  • Thermo Electron Corporation
  • Ysgol Uwchradd