Ieithoedd Modern

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy i chi y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan gynnwys profiad o weithio mewn grŵp, arwain, cynllunio, hunan-reoli, a sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog. Trwy gymryd rhan mewn blwyddyn dramor byddwch yn datblygu’ch ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’r gallu i addasu i weithio mewn amgylcheddau newydd. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae graddedigion yn dod o hyd i amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys fel dehonglwyr, cyfieithwyr ac athrawon. Mae llawer o raddedigion yn defnyddio’u sgiliau iaith i weithio mewn cwmnïau sy’n gweithredu’n rhyngwladol. Cyflogir graddedigion Iaith gan amrywiaeth eang o gyflogwyr, ar draws nifer o sectorau.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiant. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd unrhyw bryd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion?

Trwy fynd â’ch profiad gwaith gam ymhellach a chael profiad perthnasol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol, byddwch yn datblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr y sector hwnnw’n chwilio amdanynt. Hefyd, byddwch yn dangos brwdfrydedd, ymrwymiad a diddordeb mawr  yn y maes. Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc. Cofiwch fod cymorth ar gael gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.

Mewn rhai achosion, mae’n bosib y cewch fanylion am leoliadau profiad gwaith ond yn fwy aml, bydd rhaid i chi ddefnyddio’r wybodaeth i roi syniadau i chi am geisiadau ar hap. Er enghraifft, cewch swyddi gwag o bosib sy’n berthnasol i’ch pwnc ond sydd ddim yn lleoliadau gwaith; ond, os hoffech gael profiad yn y maes hwnnw, gallech anfon cais ar hap at y cyflogwr i weld a oes posibilrwydd o leoliad gwaith gyda nhw. Gall yr ymgynghorwyr gyrfaoedd eich helpu chi gyda’r broses hon.

Cofiwch fod llawer o gyflogwyr, yn enwedig y cwmnïau mwy o faint, yn cynnwys manylion lleoliadau gwaith ar eu gwefannau. Os hoffech weithio i sefydliadau penodol, edrychwch ar yr adrannau Gyrfaoedd neu Recriwtio ar eu  gwefannau i weld beth sydd ar gael.

Yn olaf, cofiwch y bydd llawer o’r dolenni isod yr un mor ddefnyddiol i chi pan fyddwch yn chwilio am swyddi i raddedigion.

DU

(Mae’r safleoedd swyddi yn cynnwys swyddi gwag tramor yn ogystal ag yn y DU)

Tramor

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Mae’r cyrff hyn yn hyrwyddo buddiannau pobl sy’n gweithio mewn proffesiynau penodol. Mae rhai yn cynnwys rhestrau o gyflogwyr sy’n aelod o’r gymdeithas dan sylw, ac mae’n bosib y byddant yn hysbysebu swyddi. Gall eraill fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer ceisiadau neu os ydych yn ystyried cyflwyno cais ar hap.

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i swyddi sy’n ymwneud â’u cwrs gradd, er enghraifft swyddi cynorthwywyr dysgu a chynorthwywyr iaith. Mae eraill wedi defnyddio’r sgiliau iaith a’r sgiliau trosglwyddadwy a enillont ar eu cwrs gradd i gael swyddi mewn rolau megis cyfrifyddu, logisteg, rheoli digwyddiadau a marchnata.

Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan raddedigion ac uwchraddedigion Ieithoedd Modern o Aberystwyth:

  • Gweinyddydd
  • Archwilydd Cynorthwyol
  • Swyddog Mewnfudo Cynorthwyol
  • Gweithredydd Datblygu Busnes
  • Cynorthwy-ydd Iaith Comenius
  • Gweithiwr Cymorth Cymunedol
  • Cydlynydd Cynadleddau
  • Cynorthwy-ydd Golygyddol
  • Rheolwr Swyddfa Olygyddol
  • Cynorthwyydd Iaith Saesneg
  • Rheolwr Digwyddiadau
  • Dadansoddwr Gwerthiannau Gweithredol
  • Ymgynghorydd Deddf Rhyddid Gwybodaeth
  • Ymarferydd Theatr mewn Addysg (Llawrydd)
  • Cynorthwy-ydd Graddedig a Thiwtor Tŷ
  • Cynghorydd Iechyd a Diogelwch Amgylchedd ac Ansawdd (siaradwr Almaeneg)
  • Bancwr Personol Rhyngwladol
  • Rheolwr Logisteg
  • Cydlynydd Marchnata
  • Cynorthwy-ydd Gwybodaeth Rheoli
  • Paragyfreithiwr
  • Darllenydd Proflenni (i gyhoeddwr Almaeneg)
  • Swyddog Ymchwil
  • Cynorthwy-ydd Dysgu Iaith Sbaeneg
  • Dadansoddwr System
  • Athro/Athrawes Saesneg fel Iaith Estron
  • Cyfrifydd dan Hyfforddiant
  • Datblygwr Gwefannau
Enghreifftiau o’r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion ieithoedd modern Aberystwyth i weithio iddynt:
  • Age Concern
  • BAE Systems
  • Banc Barclays
  • Book People
  • Cyngor Sir Bryste
  • British Airways
  • Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau
  • Asiantaeth Trwyddedau Gyrwyr a Cherbydau
  • Senedd Ewrop
  • Holmer Parks
  • Intercall Europe
  • London School of Economics
  • Madison Farell
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Opinion Research Services
  • PricewaterhouseCoopers
  • Cymdeithas Adeiladu Principality
  • Reed & Mackay Travel