Y Gyfraith a Throseddeg

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Yn ogystal â’ch sgiliau sy’n seiliedig ar ymarfer, a’r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu, bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.   Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys datrys problemau, hunan-reoli, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol.

Mae nifer fawr o bosibiliadau’n agored i raddedigion, mwy o bosibl nag a sylweddolwch ar y cychwyn. Weithiau, y gwaith anoddaf sy’n wynebu myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a graddedigion newydd yw penderfynu sut i ddewis o blith y dewisiadau niferus sydd ar gael i chi. Ceir swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd unrhyw bryd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion? – Adnoddau defnyddiol

Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn i chi pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc; mae mwy o adnoddau cyffredinol ar gael yn ein hadran profiad gwaith. Cofiwch fod cymorth ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.

DU

Tramor

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Mae'r cyrff hyn yn hyrwyddo diddordebau pobl sy'n gweithio mewn galwedigaethau penodol. Mae gan rai ohonynt restrau o gyflogwyr sy'n aelodau o'r gymdeithas ac a allai hysbysebu swyddi tra bod eraill yn ffynonellau defnyddiol o wybodaeth wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer gwneud ceisiadau neu ystyried ceisiadau ar hap.

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion:

  • Adfocad Cyfreithiol
  • Adfocad Meddygol Annibynnol
  • Arbenigwr Pwnc Hinsawdd a Thirddaliadaeth
  • Aseswr Colledion Credyd
  • Bargyfreithiwr
  • Clerc Bargyfreithiwr Ieuaf
  • Clerc Cyfreithiol
  • Cydlynydd Busnes Newydd
  • Cydlynydd Dadleuwriaeth
  • Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cswmeriaid
  • Cyfreithiwr
  • Cyfreithiwr Cynorthwyol
  • Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
  • Cyfreithiwr Ymgyfreithio dan Hyfforddiant
  • Cynghorydd Cyffredinol Cyngor ar Bopeth
  • Cynghorydd Materion Amgylcheddol
  • Cymrawd Ymchwil
  • Cynorthwy-ydd Cytundebau
  • Cynorthwy-ydd Trosglwyddo
  • Darlithydd
  • Gweinyddwr Iechyd a Diogelwch
  • Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid
  • Gweithredwr Gwerthiannau Rhanbarthol
  • Heddwas
  • Hyrwyddwr Amgylcheddol Gyproc
  • Paragyfreithiwr
  • Peiriannydd Diagnosteg
  • Rheolwr Cefnogi Busnes
  • Rheolwr Dadleuwriaeth
  • Rheolwr Gweithgareddau
  • Swyddog Cefnogi Cymuned
  • Swyddog Hawliau Tramwy
  • Swyddog Marchnata
  • Swyddog Polisi
  • Swyddog Ymchwil
  • Ymchwilydd Cyfreithiol
  • Ymgynghorydd Cyfraith Cyflogaeth
  • Ymgynghorydd Hawliadau
  • Ymgynghorydd Recriwtio
  • Ysgrifennydd Cyfreithiol

 

Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion Aberystwyth yn y gyfraitha throseddeg i weithio iddynt:

  • Amiral Insurance
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Age Concern
  • Albion Financial Services
  • Amryw Gwmnïoedd Cyfreithwyr
  • Amryw Heddluoedd
  • Amryw Sefydliadau Addysg Uwch
  • Aral Jones Insurance Consultants
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Banc MBNA
  • Beckles Investment Services
  • Capita
  • Cyngor Gofal Cymru
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Sir Suffolk
  • Cyngor Wiltshire
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Grŵp Dŵr Northymbria
  • Gwasanaeth Cyfreithiol
  • Gwasanaeth Sifil
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Gweinyddiaeth Amddiffyn
  • Hodgsons
  • HSBC
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Sainsbury's
  • Senedd Ewropeaidd
  • Tai Ceredigion
  • Tesco
  • Towergate