Pam mae pobl yn gadael Facebook a'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym am ddyfodol cyfryngau cymdeithasol?
08 Ionawr 2020
Gan ehangu ar ei waith blaenorol ar yr hyn sy’n dylanwadu ar ymddygiad pobl, mae'r Athro Mark Whitehead o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi bod yn ymchwilio i’r ffactorau sy’n cymell pobl i ddewis rhoi'r gorau i gyfryngau cymdeithasol, a goblygiadau eu penderfyniad.
Beth sy'n gwneud Uber ac Airbnb yn wahanol ym marn yr UE – a pham mae’n bwysig
06 Ionawr 2020
Gan ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr David Poyton, sy’n Ddarllenydd yn y Gyfraith, yn trafod sut mae platfformau digidol wedi chwyldroi’r gwasanaethau yr ydym yn eu defnyddio, ond mae angen i’r UE ailystyried ei hagwedd os ydym am i blatfformau digidol ffynnu.
Gwyddonwyr yn helpu achub afalau a gellyg Cymreig hynafol
08 Ionawr 2020
Mae mathau o afalau a gellyg sydd mewn perygl wedi eu hachub ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol diolch i ‘amgueddfa fyw’ a blannwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Y Gweinidog Addysg yn egluro wrth fyfyrwyr Aberystwyth pam na fu erioed amser gwell i addysgu
09 Ionawr 2020
Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi ymweld ag Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth i siarad â myfyrwyr ynghylch pam mai nawr yw’r amser perffaith i ddechrau eu gyrfa addysgu yng Nghymru.
Cymrodoriaeth fawreddog i rewlifegydd o Aberystwyth
13 Ionawr 2020
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth William Evans gan Brifysgol Otago yn Dunedin, Seland Newydd i enillydd Medal y Pegynau o Brifysgol Aberystwyth.
Blwyddyn Newydd yn dod â bywyd newydd i’r Hen Goleg
14 Ionawr 2020
Mae Hen Goleg eiconig Prifysgol Aberystwyth, un o adeiladau mwyaf rhyfeddol Gradd I Cymru, wedi cael bron i £10 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol er mwyn helpu i’w adnewyddu a sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir fel canolfan ar gyfer diwylliant, treftadaeth, darganfyddiadau, dysgu a menter, fydd yn denu 190,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Cyn Brif Weinidog Cymru i ymuno â Phrifysgol Aberystwyth
15 Ionawr 2020
Mae Cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, wedi ei benodi yn Athro’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Gwyddonwyr yn profi fod arbrofion Mendel yn gywir
17 Ionawr 2020
Mae gwyddonwyr wedi amddiffyn dilysrwydd gwaith ymchwil Gregor Mendel, y genetegydd arloesol o’r 19eg ganrif.
Golau newydd yn lleihau ôl troed carbon tŷ gwydr arloesol sy’n bwydo’r byd
21 Ionawr 2020
Mae ôl troed carbon tŷ gwydr arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n cyfrannu at fridio cenhedlaeth newydd o blanhigion, wedi lleihau’n sylweddol wedi i oleuadau LED newydd gael eu gosod yn eu lle.
Mae Vladimir Putin wedi tyfu i fod yn arwr yn Rwsia - felly i ble mae'n mynd o'r fan hon?
22 Ionawr 2020
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn edrych ar rôl Vladimir Putin yng ngwleidyddiaeth Rwsia dros yr 20 mlynedd diwethaf trwy lens arwriaeth, i weld a yw hyn yn ein helpu i ddeall pam y gallai llawer o Rwsiaid fod yn dawel eu meddwl os yw’n parhau wrth y llyw y tu ôl i'r llenni.
Astudiaeth yn ystyried effaith cyfieithu ar y pryd ar achosion llys
23 Ionawr 2020
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystyried dylanwad cyfieithu ar y pryd ar achosion llys.
Ymchwil i brofiadau goroeswyr yr Holocost er mwyn gwella bywydau ffoaduriaid heddiw
27 Ionawr 2020
Wrth i’r Deyrnas Unedig nodi Diwrnod Cofio’r Holocost 2020 (27 Ionawr), mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gobeithio gwella bywydau pobl sy’n ffoi rhag gwrthdaro a thrais heddiw drwy astudio profiadau plant a ddihangodd o Ganolbarth Sosialaidd Cenedlaetholaidd Ewrop y 1930au a’r 1940au.
Trafodaeth ar rym gwleidyddol dulliau di-drais yng nghwmni siaradwraig hawliau sifil flaenllaw
29 Ionawr 2020
Bydd yr ymgyrchydd hawliau sifil yn America, Dr Mary King, yn trafod rôl dulliau di-drais mewn gwleidyddiaeth ryngwladol mewn seminar ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 30 Ionawr 2020.
Gwobrwyo tiwtor dysgu Cymraeg
28 Ionawr 2020
Mae cyfraniad eithriadol un o diwtoriaid dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth wedi ei gydnabod gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru.
Prifysgol Aberystwyth yn parhau ar y trywydd iawn yn ôl ei Datganiadau Ariannol diweddaraf
31 Ionawr 2020
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflawni’r sefyllfa weithredol waelodol yr oedd wedi ei rhagweld ar gyfer 2018/2019 ac mae'n parhau ar y trywydd cywir i wireddu gwarged gweithredol yn 2019/20, yn ôl ei datganiad ariannol diweddaraf.