Trafodaeth ar rym gwleidyddol dulliau di-drais yng nghwmni siaradwraig hawliau sifil flaenllaw
Yr ymgyrchydd hawiliau sifil yn America Dr Mary King, Athro Astudiaethau Heddwch a Gwrthdaro yn y Brifysgol Heddwch a Chymrawd Prifysgol Aberystwyth.
29 Ionawr 2020
Bydd cyn-aelod o fudiad hawliau sifil America yn trafod rôl dulliau di-drais mewn gwleidyddiaeth ryngwladol mewn seminar ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 30 Ionawr 2020 (4:30 – 6:00pm).
Yr Athro Mary King, Athro Astudiaethau Heddwch a Gwrthdaro yn y Brifysgol Heddwch yw prif siaradwr gwadd y digwyddiad Dulliau Di-drais mewn gwleidyddiaeth Ryngwladol: Cyfeiriad newydd?
Mae’r Athro King yn arbenigwraig ar wrthsafiad sifil di-drais, ac mae wedi ysgrifennu llyfrau am Martin Luther King Jr a Mahatma Gandhi, ymhlith eraill.
Bydd yn un o bum siaradwr yn y digwyddiad fydd yn mynd i’r afael â chwestiynau perthnasol ac amserol megis beth fyddai ymrwymiad eglur i drawsnewid di-drais a gweithredu gwleidyddol di-drais gan lywodraethau a chymdeithasau yn ei olygu.
Byddan nhw hefyd yn gofyn a oes amgylchiadau neu ddadleuon gwleidyddol sy’n cyfiawnhau bygwth neu ddefnyddio trais.
Dywedodd yr Athro King: “Ni fu erioed amser mwy priodol ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae trais yn aml yn cael ei ystyried fel ateb i helbul gwleidyddol heb ystyried dulliau eraill.
“Mae llawer o’r bai ar oruchafiaeth hanes rhyfel. Ond mae ysgolheigion wedi dod o hyd i nifer o enghreifftiau o weithredu di-drais, sy’n dyddio’n ôl i gyfnodau hynafol.
“Yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mae miloedd o frwydrau di-drais nad ydynt, er iddynt gael eu cofnodi, yn cael eu trafod mewn ysgolion fel esiamplau o’r hyn y gellir ei gyflawni heb drais.
“Yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, mae dros 50 o wledydd wedi gwneud newidiadau democrataidd o ganlyniad i chwyldro di-drais, sy’n dyst i rym cymdeithasol dulliau di-drais, ond dydyn ni ddim yn clywed amdanyn nhw. Yn amlwg, mae trawsnewid gwrthdaro’n ddi-drais yn perthyn i restr waith gwleidyddiaeth ryngwladol.
“Mae’n hollbwysig bod pobl a diwylliannau’n gwybod hanesion eu hunain o weithredu’n ddi-drais, a dylid llongyfarch adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol am gynnal y digwyddiad hwn mewn cyfnod tyngedfennol yn hanes dynoliaeth.”
Dr Berit Bliesemann de Guevara, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd yn cydlynu’r digwyddiad.
Hi hefyd yw cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth Ryngwladol Gwybodaeth yr Adran, sy’n cynnal ymchwil ynghylch sut mae pobl yn meddwl am wleidyddiaeth ryngwladol ac yn ei ‘gwneud’.
Dywedodd Dr Bliesemann: “Mae perygl bod gennym ni obsesiwn ag astudio rhyfel, gan feddwl y bydd ymwybyddiaeth o drais gwleidyddol y gorffennol yn arwain at ddyfodol mwy heddychlon, ond mae sawl esiampl o gyflawni newid gwleidyddol a chymdeithasol yng nghanol trais trwy ddefnyddio dulliau di-drais.
“Nod y digwyddiad hwn yw trafod rôl dulliau di-drais mewn gwleidyddiaeth ryngwladol ymhellach a sut y gallwn ni sicrhau ei fod yn rhan bwysig o’n trafodaethau.”
I gyd-fynd â’r digwyddiad, cynhelir arddangosfa gelf gan y cartwnydd o Syria, Amany Al-ali hefyd.
Y teitl yw ‘Yr Afal o Syria,’ ei harddangosfa gyntaf y tu allan i Syria a’i nod yw adrodd stori chwyldro Syria trwy lygaid pobl gyffredin.
Mae’r arddangosfa wedi cael ei chydlynu gan Dr Birgit Poopuu o Brifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Dr Poopuu: “Rydw i wedi bod yn astudio chwyldro Syria o safbwynt ei hymgyrchwyr ac roeddwn i’n ymwybodol nad ydyn ni’n clywed eu straeon yn aml.
“Wrth wneud fy ymchwil, gwelais waith Amany a dechreuon ni siarad am alluogi cynulleidfa ehangach i weld ei gwaith – mae’r arddangosfa hon bellach wedi bod yn teithio’r DU ers blwyddyn.
“Roedden ni’n meddwl ei bod yn briodol iawn ei chynnal yr un pryd â’r digwyddiad hynod bwysig hwn gan ei bod yn dangos pwysigrwydd trafod sefyllfa Syria mewn ffordd fwy cymhleth sydd hefyd yn nodi’r brwydro di-drais. Mae hyn yn llywio sut rydyn ni’n deall beth sydd wedi digwydd yn sylweddol yn ogystal â pham bod ymatebion penodol i Syria, rhai militaraidd yn bennaf, yn fwyaf blaenllaw.”
Ymhlith cyfranwyr eraill y digwyddiad mae Dr Rachel Julian o Brifysgol Leeds Beckett, sy’n arbenigwraig ar Ddiogelwch Sifilaidd Di-arf, a Suzanne Klein Schaarsberg, y mae ei hymchwil Doethuriaeth yn trafod tawelwch a myfyrio fel sail i fudiadau heddwch.
Cynhelir Dulliau Di-drais mewn gwleidyddiaeth Ryngwladol: Cyfeiriad newydd?ddydd Iau 30 Ionawr rhwng 4.30-6pm ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n ddigwyddiad cyhoeddus ac mae croeso i bawb.