Astudiaeth yn ystyried effaith cyfieithu ar y pryd ar achosion llys

Aelodau o’r tîm sydd yn rhan yn yr achos llys ffug ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Aelodau o’r tîm sydd yn rhan yn yr achos llys ffug ym Mhrifysgol Aberystwyth.

23 Ionawr 2020

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystyried dylanwad cyfieithu ar y pryd ar achosion llys.

Fel rhan o’r astudiaeth bydd cyfreithwyr, actorion, cyfieithwyr ac aelodau o’r cyhoedd yn dod ynghyd heddiw, ddydd Iau 23 Ionawr 2020, i gynnal ffug lys yn Aberystwyth.

Nod yr ymchwil, sy’n cyfuno arbenigedd o adrannau Seicoleg, Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a’r Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol, yw ystyried effaith, arwyddocâd a dylanwad gwaith cyfieithu ar y pryd mewn achosion cyfreithiol.

Yn ôl Dr Rhianedd Jewell, darlithydd Cymraeg Proffesiynol yn Aberystwyth, mae’r gwasanaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau bod aelodau’r llys yn deall ei gilydd pan fo dwy iaith yn cael eu defnyddio.

Dywedodd: “Mae cyfieithu ar y pryd yn fwyfwy pwysig mewn gweithleoedd ar draws Cymru.  Gyda llawer o bobl yn credu mai proses syml o drosglwyddo geiriau o un iaith i’r llall yw cyfieithu ar y pryd, ystyrir fel rhan o’r ymchwil a yw hi mor syml â hynny mewn gwirionedd?”

Cynhelir dau achos yn ystod y dydd.  Bydd y rheithgor, sef aelodau o’r cyhoedd, yn gwrando ar y dadleuon ger bron a bydd eu hymateb yn cael ei ddadansoddi drwy ddefnyddio Theatr Fforwm – techneg a ddatblygwyd ym myd y theatr er mwyn newid rhagdybiaethau.

Yn ogystal â’r dadleuon cyfreithiol, mi fydd ystyriaeth hefyd i ddylanwad trefn yr ystafell ar y cyfieithu, â’r gofod wedi ei osod ar ffurf llys ynadon y tro hwn.

Wrth i’r dydd fynd yn ei flaen bydd cyfle i’r rheithgor fynegi barn ar yr achos llys ac ar effaith y cyfieithu ar y pryd, ac ateb dau gwestiwn - pwy maent yn ei gredu, a thystiolaeth pwy sydd fwyaf credadwy?

Mae’r ymchwil hwn yn adeiladu ar waith gan Dr Catrin Fflur Huws o Adran y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol yn 2013 yn dilyn yr achos llys cyntaf erioed i’w glywed yn Gymraeg yn yr Uchel Lys.

Llwyfannwyd yr achos hwnnw er mwyn canfod sut y byddai Tribiwnlys y Gymraeg, sy’n delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn gweithio pan fod cyfraniadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Dywedodd Dr Huws: “Gall y gwaith hwn fod yn ddylanwadol nid yn unig o ran cyfieithu ar y pryd mewn achosion cyfreithiol ond hefyd mewn cyd-destunau eraill. Mae rôl y cyfieithydd yn un hanfodol bwysig i'r broses o gyfathrebu aml-ieithog, a dyw hi ddim yn derbyn digon o gydnabyddiaeth nag o ddealltwriaeth. Bydd ein hargymhellion felly yn berthnasol o ran hyfforddiant cyfieithwyr proffesiynol, gweithdrefnau gofodau dwyieithog gan gynnwys llysoedd, a hefyd i'n dealltwriaeth o dderbyn mewnbynnau dwy iaith gyntaf ac ail iaith, neu drwy wrandawiad gwreiddiol a chyfieithydd.”

Y trydydd arbenigwr ar yr astudiaeth yw Dr Hanna Binks, darlithydd yn yr Adran Seicoleg, sydd yn gweithio ym maes caffael iaith a seicoleg dwyieithrwydd.

Mae’r gwaith ymchwil hwn wedi ei gyllido gan gronfa ymchwil Prifysgol Aberystwyth.