Gwyddonwyr yn helpu achub afalau a gellyg Cymreig hynafol

Dr Danny Thorogood yn y berllan dreftadaeth, IBERS Gogerddan

Dr Danny Thorogood yn y berllan dreftadaeth, IBERS Gogerddan

08 Ionawr 2020

Mae mathau o afalau a gellyg sydd mewn perygl wedi eu hachub ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol diolch i ‘amgueddfa fyw’ a blannwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae dros 60 o fathau hanesyddol o afalau a gellyg Cymreig yn rhan o berllan treftadaeth a sefydlwyd ar gampws Gogerddan y Brifysgol gan y bridiwr planhigion a’r genetegydd Dr Danny Thorogood o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Cafodd y berllan ei chreu fel rhan o brosiect Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n cael ei reoli gan Gymdeithas Perai a Seidr Cymru.

Bydd y safle’n sicrhau bod gan wyddonwyr a thyfwyr fynediad at adnodd genetig ar gyfer holl fathau hynafol Cymru, ac yn gwarchod rhywogaethau hanesyddol pwysig rhag diflannu.

Dywedodd Dr Thorogood: “Mae tua 7,500 math o afal yn cael eu tyfu ledled y byd, sy’n rhywbeth nad yw pawb yn ei sylweddoli gan mai dim ond rhai mathau enwog fel Granny Smith, Gala neu Braeburn mae archfarchnadoedd fel arfer yn eu gwerthu.

“A dweud y gwir, mae’r DU wedi cofrestru dros 3,600 math o afal yn y Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol (NFC).

“Mae tua 100 math hysbys ddaw o Gymru yn bodoli heddiw – mae nifer o’r rhain ym mherllan treftadaeth y Brifysgol.

“Mae gennym fathau o afal fel Frederick a Cummy Norman sy’n cael eu defnyddio i wneud seidr a gellygen perai Little Cross Huffcap sydd wedi ei henwi ar ôl y fferm yn Sir Fynwy ble y cafodd ei darganfod.

“Adnabyddodd y prosiect goed o bob cwr o Gymru oedd yn unigryw, gan ddefnyddio techneg olion bysedd DNA. Yna cafodd y coed hyn eu lluosogi a’u plannu yn y berllan treftadaeth a pherllannau replica mewn safleoedd eraill yng Nghymru.

“Gwnaethon ni hyd yn oed adnabod pedair hen goeden ar dir y Brifysgol roedden ni’n meddwl eu bod yn unigryw, felly croesgyfeirion ni samplau yn erbyn bas data DNA cenedlaethol sydd eisoes yn bodoli – darganfyddon ni nad oedd cofnod o ddwy o’r coed hyn ac nad oedden nhw erioed wedi cael eu cofnodi yn y DU o’r blaen.

Gobaith Dr Thorogood yw y gallai perllan y Brifysgol chwarae rhan flaenllaw wrth ailgyflwyno mathau treftadaeth o afalau a gellyg yn ôl i mewn i’r brif ffrwd yn y dyfodol.

Ychwanegodd: “Mae rhai cwmnïau seidr Cymreig yn cyfuno mathau treftadaeth fel Bardsey a Frederick gyda mathau mwy adnabyddus ar hyn o bryd, ond mae cymaint mwy o gyfle i’r hen fathau hyn ddisgleirio ar eu pennau eu hunain a chael eu mwynhau gan y cyhoedd oherwydd eu rhinweddau unigryw.

 “Ein nod yw cynnal rhagor o ymchwil gwyddonol ar ddefnydd delfrydol pob un o’n mathau treftadaeth – fel bwyta, gwneud seidr neu goginio – yn seiliedig ar eu proffil blas, ansawdd a hirhoedledd, ymysg ffactorau eraill.

 “Gobeithio y bydd hyn yn helpu eu rhoi yn ôl ar y map, a’u gwneud yn ddewis amgen masnachol posibl i gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr eu defnyddio mewn cynnyrch prif ffrwd.”

Mae perllan treftadaeth Prifysgol Aberystwyth yn un o bedwar safle yng Nghymru a grëwyd fel rhan o brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymdeithas Perai a Seidr Cymru ‘Treftadaeth Perllannau a Gwneud Seidr yng Nghymru,’ a gafodd nawdd ychwanegol gan Gronfa Gymunedol Aviva.

Dewch i gymryd rhan

Mae croeso i arddwyr profiadol luosogi eu mathau treftadaeth eu hunain gan ddefnyddio toriadau o berllan y Brifysgol trwy drefnu ymlaen llaw. Cysylltwch â Dr Danny Thorogood ar dnt@aber.ac.uk.

Os oes diddordeb gennych chi mewn tyfu afalau neu ellyg eich hun, gallwch chi gofrestru i gymryd rhan mewn cwrs undydd sy’n cael ei gynnal ym mherllan treftadaeth y Brifysgol ar 15 Ionawr pan fydd John Worle, yr arbenigwr o Swydd Henffordd yn dysgu dechreuwyr a garddwyr profiadol sut i docio coed afal a gellyg yn broffesiynol ar gyfer y gaeaf. Bydd hyn yn cynnwys esiamplau ymarferol o docio ffurfiannol coed ifanc, yn ogystal â thocio adferol coed o amrywiol oedrannau sydd wedi cael eu hesgeuluso. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru (mae’r cwrs yn costio £45) cysylltwch â Dr Danny Thorogood ar dnt@aber.ac.uk.