Ymchwil i brofiadau goroeswyr yr Holocost er mwyn gwella bywydau ffoaduriaid heddiw
Dr Andrea Hammel (ail o’r dde) gyda’r Arglwydd Alf Dubs (ar y dde), a ddaeth i’r DU fel rhan o Kindertransport yn chwech oed, mewn digwyddiad yn yr Amgueddfa Rhyfel Imperialaidd yn 2018.
27 Ionawr 2020
Wrth i’r Deyrnas Unedig nodi Diwrnod Cofio’r Holocost 2020 (27 Ionawr), mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gobeithio gwella bywydau pobl sy’n ffoi rhag gwrthdaro a thrais heddiw drwy astudio profiadau plant a ddihangodd o Ganolbarth Sosialaidd Cenedlaetholaidd Ewrop y 1930au a’r 1940au.
Mae Dr Andrea Hammel o'r Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth, a thîm bach o ymchwilwyr yn edrych i mewn i Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE) pobl a ddihangodd o'r Holocost a'r unbennaeth Sosialaidd Genedlaetholaidd er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.
Ariennir yr ymchwil gan grŵp cefnogaeth Cymru Well Wales ACE Aware Wales sy'n cydnabod bod profiad negyddol mewn plentyndod fel trais ac esgeulustod yn cynyddu'r tebygolrwydd o ymddygiadau niweidiol pan yn oedolyn gyda chanlyniadau i'r unigolyn ac i gymdeithas.
Yn ôl Dr Hammel, mae cyfweliadau a thystiolaeth ysgrifenedig gan blant a fu’n ffoaduriaid yn dangos bod y mwyafrif ohonyn nhw wedi bod yn dyst neu wedi profi’r trais a oedd yn rhan o ormes Sosialaeth Genedlaetholaidd.
“Maen nhw'n disgrifio gweld aelodau o'u teuluoedd a'u cymunedau yn cael eu curo a'u bychanu, gyda’r mwyafrif yn dioddef camdriniaeth lafar, a rhai’n dioddef camdriniaeth gorfforol eu hunain, cyn gallu ffoi ac ymsefydlu o’r newydd yn y DU,” meddai.
“Ond mewn rhai achosion ni ddaeth eu dioddefaint i ben yno: mae plant wnaeth ffoi yn y 1930au a’r 40au yn adrodd straeon am gamdriniaeth ac esgeulustod yn eu blynyddoedd cynnar ar ôl cyrraedd wrth i sefydliadau geisio ymdopi â dod o hyd i leoliadau addas ar gyfer y rhai a oedd wedi cyrraedd ar eu pen eu hunain, a chefnogaeth addysgiadol a seicolegol i bob plentyn oedd wedi gorfod ffoi, gan gynnwys y rhai a oedd wedi ffoi gyda’u teuluoedd oedd hefyd wedi dioddef trawma.”
“Oherwydd dimensiwn hanesyddol yr astudiaeth hon, a’r ffaith bod llawer o’r plant a oedd yn ffoaduriaid wedi parhau i fyw yn y DU tan eu bod yn hen, mae dadansoddiad hydredol yn bosibl.
“Mae hyn yn golygu y gellir ymchwilio i ganlyniadau profiadau plentyndod ym mywyd oedolion, yn ogystal â strategaethau ar gyfer gwytnwch.”
Pwrpas yr astudiaeth yw llywio polisi ar gyfer y dyfodol ynghylch cefnogaeth i blant sy'n ffoi rhag gwrthdaro a thrais heddiw.
Ychwanegodd Dr Hammel: “Arwyddair Diwrnod Cofio’r Holocost 2020 yw Sefyll Gyda’n Gilydd. Gan fod ffoaduriaid yn parhau i ddioddef heddiw, mae'n ddyletswydd arnom i sefyll gyda'n gilydd i gefnogi'r grŵp mwyaf bregus, plant sy’n ffoaduriaid. Gallwn wneud hyn mewn sawl ffordd, ond un yw dysgu am brofiadau plant a oroesodd yr Holocaust a ffoaduriaid y gorffennol, er mwyn gwella sefyllfa plant sydd yn ffoi heddiw, a phlant ac oedolion yn y dyfodol.”
Dywedodd Joanne Hopkins, Cyfarwyddwr y Grŵp Cymorth Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod: “Sefydlwyd y Grŵp Cymorth Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod yn 2017 a chaiff ei gyllido gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid Cymru yn genedl sy’n ymwybodol o brofiadau niweidiol mewn plentyndod a thrawma. Mae deall y trallod y mae pob cymuned yn ei wynebu â'r cryfder a'r gwytnwch sydd ganddyn nhw, gan gynnwys plant a theuluoedd sy'n dod i'r DU i geisio noddfa, yn allweddol i hyn.
“Mae profiadau hanesyddol plant a oedd yn rhan o Kindertransport yn faes llafur hanfodol; mae profiadau pawb sy'n gysylltiedig â hyn yn darparu deunydd dysgu gwerthfawr ar gyfer ein gwaith ar sail trawma i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches fel rhan o Gynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru. Daw’r ymchwil cyffrous hwn ar adeg pan mae angen inni ddysgu gwersi’r gorffennol yn fwy nag erioed er mwyn sicrhau bod pawb sy’n cyrraedd nawr ac yn y dyfodol i wneud Cymru yn gartref iddynt yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.”
Dr Andrea Hammel
Mae Dr Andrea Hammel yn Ddarllenydd yn Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth ac yn awdurdod ar Kindertransport a welodd 10,000 o blant yn teithio ar drenau i'r DU o'r Almaen Natsïaidd cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd.
Mewn erthygl a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018, dadleuodd Dr Hammel ei bod yn rhy syml gweld Kindertransport fel stori lwyddiant yn unig.
Ysgrifennodd Dr Hammel: “Achubwyd tua 10,000 o fywydau, ond talodd llawer bris mawr. Roedd hyd yn oed y teuluoedd hynny a ddaeth ‘nôl at ei gilydd yn aml wedi torri y tu hwnt i'w hatgyweirio.”
Cafodd yr erthygl lawn The 1938 Kindertransport saved 10,000 children but it’s hard to describe it as purely a success ei chyhoeddi yn The Conversation.
Yn 2019 ymddangosodd gwaith Dr Hammel yn 'Am Ende des Tunnels' ('Ar ddiwedd y twnnel'), mewn arddangosfa yng ngorsaf reilffordd Berlin-Charlottenburg, un o'r gorsafoedd a ddefnyddiwyd gan sefydliadau dyngarol Iddewig yn yr Almaen i roi plant ar y trenau a ddaeth â nhw i'r DU.