Gwyddonwyr yn profi fod arbrofion Mendel yn gywir
Dr Martin Swain o Brifysgol Aberystwyth, un o awduron yr astudiaeth sydd wedi profi dilysrwydd gwaith y genetegydd Gregor Mendel.
17 Ionawr 2020
Mae gwyddonwyr wedi amddiffyn dilysrwydd gwaith ymchwil Gregor Mendel, y genetegydd arloesol o’r 19eg ganrif.
Caiff Mendel, a oedd yn fynach o Forafia, ei gydnabod fel ‘tad’ geneteg fodern, ac mae ei arbrofion enwog a osododd ddeddfau rhyngwladol geneteg yn parhau’n sylfaenol i ymchwil yn y maes.
Mewn erthygl yn y cyfnodolyn Hereditas, mae tîm dan arweinida Dr Noel Ellis o Ganolfan John Innes, ac sy’n cynnwys Dr Martin Swain o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth, yn amddiffyn Mendel yn erbyn cyhuddiad o ragfarn ystadegol.
Mae ‘etifeddiaeth Fendelaidd’ yn disgrifio sut mae nodweddion yn cael eu pasio o un genhedlaeth i’r nesaf, ac ym maes bioleg mae iddo statws cydradd â mecaneg Newtonaidd ym myd ffiseg.
Mae llawer o drafod wedi bod am sut y llwyddodd Mendel i gael y canlyniadau cywir mewn cyfnod pan fod syniadau pawb arall am etifeddiaeth yn wahanol yn ol pob tebyg.
Un syniad oedd bod Mendel wedi datblygu damcaniaeth etifeddiaeth o egwyddorion sylfaenol cyn casglu data i gefnogi ei syniad.
Yn ystod y 1930au bu cryn ddadlau wedi i’r ystadegydd a’r genetegydd Sir Ronald Fisher adolygu’r arbrofion a beirniadu dehongliad Mendel gan awgrymu fod ei ganlyniadau yn “rhy dda i fod yn wir”; eu bod yn cyd-fynd â’r disgwyliad damcaniaethol yn well na’r disgwyl.
Dywedodd awdur yr astudiaeth, Dr Noel Ellis: “Mae gwaith Mendel wedi denu llawer o sylw ers dathlu 150 mlwyddiant ei ddarlithoedd ym 1865 a’i bapur ym 1866, a methodd llyfr a gyhoeddwyd yn gynharach, Ending the Mendel Fisher Controvesy, ddod o hyd i rai cliwiau biolegol pwysig. Cododd hyn oll amheuaeth am gywirdeb gwaith Mendel, a’n gobaith yw bod y papur hwn yn chwalu’r amheuon hynny o’r diwedd.”
Pys gardd (Pisum sativum) oedd dewis Mendel ar gyfer ei brif arbrofion gan fod gan y planhigion a’r pys ystod eang o nodweddion hawdd eu nodi a’u bod yn gyfleus ar gyfer arbrofion croesi.
Dros gyfnod o wyth mlynedd a 28,000 o blanhigion pys a’u hepiloedd, cynhyrchodd Mendel ganlyniadau clir gan lunio a phrofi rhagfynegiadau meintiol, dull a oedd yn hynod ym myd bioleg y cyfnod hwnnw.
Esboniodd fod amledd y modd yr oedd pob nodwedd yn ymddangos yn yr epiloedd yn ganlyniad i ddigwyddiadau hap yn y celloedd yn ystod y broses ffrwythloni.
Mewn astudiaeth newydd o arbrofion Mendel, mae’r ymchwilwyr yn disgrifio’r ystod o amrywiaethau pys oedd ar gael yn ei gyfnod gan ddangos y gallai’r rhain fod wedi darparu’r holl ddeunydd oedd eu hangen arno ar gyfer ei arbrofion; y nodweddion a ddewisodd eu dilyn oedd sail y ffordd roedd mathau o hadau wedi’u trefnu yng nghatalogau’r cyfnod hwnnw.
Dywedodd Dr Martin Swain, Uwch Ddarlithydd yn IBERS: “Mae arbrofion croesi pys Mendel ymysg yr astudiaethau geneteg enwocaf. Ond, er gwaethaf yr holl sylw a chraffu sydd wedi bod ar y gwaith enwog, mae ei ganlyniadau wedi eu beirniadu am ddangos tuedd ystadegol. Dengys ein canlyniadau nad oes unrhyw sail i’r feirniadaeth hyn a bod rhai o’i ganlyniadau wedi cael eu hanwybyddu.
“O gofio’r sylw sydd wedi ei roi i ail greu canlyniadau gwyddonol, rwy’n credu fod arbrofion Menedl, a’r modd y maent wedi cael eu derbyn gan wyddonwyr, yn rhybudd o’r heriau sydd ynghlwm â cheisio deall a dehongli set o ganlyniadau. Mae’r camddehongliadau hanesyddol yn fwy hynod o gofio fod arbrofion Mendel yn sylfaen i ymchwil geneteg fodern.”
Daw’r papur i’r casgliad: “Mae beirniadaeth ystadegol o ddata Mendel wedi bod yn nodwedd niweidiol wrth drafod ei waith ac wedi gwneud niwed mawr i enw da un o’r biolegwyr mwyaf treiddgar ei weledigaeth yn ein hanes. Credwn fod papur 1866 Mendel yn enghreifftiol yn nhermau ei gyflwyniad yn ogystal â’i ddehongliad o ddata rhifiadol.”
Ychwanegodd Dr Ellis: “Roeddem yn synnu fod yr ystadegwyr gwych, Fisher ac Edwards, yn anghywir. Ond nid ydym yn synnu o gwbl fod Mendel yn gywir.”
Ni dderbyniodd Mendel gydnabyddiaeth am ei waith yn ystod ei oes. 40 mlynedd ar ôl ei farwolaeth daeth ei ddamcaniaeth am etifeddiad yn sylfaen ar gyfer gwyddoniaeth newydd “geneteg”, ymadrodd a grëwyd gan William Bateston, cyfarwyddwr cyntaf Canolfan John Innes.
Mae’r papur Mendel’s pea crosses: varieties, traits and statistics wedi ei gyhoeddi ar lein gan y cyfnodolyn Hereditas.