Y Gweinidog Addysg yn egluro wrth fyfyrwyr Aberystwyth pam na fu erioed amser gwell i addysgu
Myfyrwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn cwrdd â’r Gweinidog Addysg: Chwith i’r dde: Naveena Vijayan, Hywel Breese Evans, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Elizabeth Treasure, Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Meirian Morgan and Edward Owen Roberts.
09 Ionawr 2020
Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi ymweld ag Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth i siarad â myfyrwyr ynghylch pam mai nawr yw’r amser perffaith i ddechrau eu gyrfa addysgu yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn datblygu gweithlu addysgu gwych er mwyn helpu gwireddu’r cwricwlwm newydd, sydd i’w gyflwyno mewn ysgolion o fis Medi 2022.
Mae hyn yn cynnwys recriwtio athrawon newydd a gwella datblygiad proffesiynol, yn ogystal â gweithio gydag undebau a phartneriaid eraill i fynd i’r afael â phroblemau llwyth gwaith athrawon.
Dywedodd y Gweinidog: “Roedd yn bleser ymweld â Phrifysgol Aberystwyth a chwrdd â myfyrwyr a allai fod yn athrawon yng Nghymru yn y dyfodol agos iawn, a chyrraedd y rheiny na allai fod yn bresennol drwy’r ffrwd fyw oedd ar gael ar y diwrnod.
“Mae plant ledled Cymru yn elwa o ymroddiad ein hathrawon ffyddlon bob dydd ac rydyn ni’n chwilio am bobl o bob cefndir sydd â dawn ac uchelgais, sy’n barod i ymuno â’n gweithlu llwyddiannus.
“Mae’n gyfnod cyffrous i fod yn athro yng Nghymru wrth inni baratoi i gyflwyno Cwricwlwm newydd, wedi ei ddylunio gan athrawon, sy’n eu galluogi nhw i fod yn greadigol yn y ffordd maen nhw’n cyflwyno eu gwersi.
“Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n meddwl am yrfa mewn addysgu i edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael ac ystyried a allen nhw lwyddo yn yr yrfa werth chweil hon.”
Mae ymweliad y Gweinidog ag Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth yn rhan o’r daith mae’n ei gwneud o gwmpas Partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Cymru, yn ogystal â’r Bartneriaeth AGA ym Mhrifysgol De Cymru sydd newydd gael ei hachredu.
Yn Aberystwyth gwrandawodd ar athrawon dan hyfforddiant yn trafod yr hyn a’u denodd nhw at yrfa o flaen dosbarth, a siaradodd â myfyrwyr israddedig ynghylch manteision addysgu fel opsiwn gyrfa.
Dywedodd Hywel Breese Evans, myfyriwr addysg athrawon yn Aberystwyth, fu’n siarad â’r Gweinidog: “Rydw i wedi dysgu cymaint ers dechrau’r cwrs, ac mae’r ymarfer dysgu eisoes wedi dangos i mi pa mor werthfawr yw gweithio gyda phobl ifanc. Mae’r ffordd rydyn ni’n addysgu’n mynd i fod yn wahanol oherwydd bod cwricwlwm newydd ar y ffordd, ond rydw i’n ystyried hyn yn gyfle i fod yn rhan o rywbeth newydd ac mae hynny’n gyffrous iawn.”
Ychwanegodd Alwyn Ward, Cyfarwyddwr Gweithgor Partneriaeth AGA Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth: “Gan fod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno, mae byd addysg Cymru yn newid ac felly nid yw addysgu erioed wedi cynnig mwy o gyfle i athrawon ddylanwadu ar y newid hwnnw a chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu beth, a sut, mae ein plant yn ei ddysgu.
“Ein nod yn Aberystwyth yw sicrhau bod athrawon ar hyd a lled y rhanbarth yn hollol barod i wireddu’r targedau uchelgeisiol mae Cymru wedi eu gosod ar gyfer ansawdd ei haddysg. Mae angen athrawon arnon ni sy’n arloesol, creadigol, brwdfrydig ac uchelgeisiol – dyma eich cyfle i fod yn rhan o gyfnod arwyddocaol yn hanes addysg.
“Yn Aberystwyth rydyn ni wedi datblygu cwrs arloesol, integredig sy’n ymateb i anghenion athrawon yr 21ain ganrif. Rydyn ni’n galluogi ein myfyrwyr i addysgu yn y sectorau cynradd ac uwchradd, sy’n caniatáu iddyn nhw benderfynu dros eu hunain drwy brofiad uniongyrchol pa un sydd orau ganddyn nhw a chyfoethogi eu hopsiynau cyflogadwyedd ar ôl cwblhau’r cwrs.
“Bydden ni wrth ein bodd yn siarad â chi am addysgu fel gyrfa, felly cysylltwch â ni os hoffech drafod unrhyw agwedd o hyfforddi i addysgu neu am ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais.”
Er mwyn cymhwyso fel athro, mae’n rhaid i fyfyrwyr presennol ennill Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR). Fel arfer mae cyrsiau TAR yn para blwyddyn, ac yn cynnwys elfennau damcaniaethol yn ogystal â rhai ymarferol, gan gynnwys treulio amser yn ymarfer dysgu mewn ysgolion. Mae llwybr rhan-amser newydd sbon wrthi’n cael ei ddatblygu fydd yn cael ei ddarparu gan y Brifysgol Agored, ar gyfer unrhyw un nad yw’n gallu ymrwymo i’r cwrs TAR llawn-amser.
Os ydych chi’n frwd dros addysgu ac eisiau ysbrydoli pobl ifanc, ni fu erioed amser mwy cyffrous i fod yn athro yng Nghymru. Mae sawl ffordd o ddechrau eich gyrfa mewn addysgu – p’un ai ydych chi’n camu i fyd gwaith am y tro cyntaf, yn dychwelyd at addysgu neu’n dechrau gyrfa newydd sbon.
Am ragor o wybodaeth ac i gael gwybod mwy am y cymelliadau ariannol sydd ar gael i helpu pobl i hyfforddi, ewch i www.darganfodaddysgu.cymru.