Prifysgol Aberystwyth yn parhau ar y trywydd iawn yn ôl ei Datganiadau Ariannol diweddaraf

31 Ionawr 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflawni’r sefyllfa weithredol waelodol yr oedd wedi ei rhagweld ar gyfer 2018/2019 ac mae'n parhau ar y trywydd cywir i wireddu gwarged gweithredol yn 2019/20, yn ôl ei datganiad ariannol diweddaraf.

Mae Datganiadau Ariannol i’r Flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2019 y Brifysgol, a gyhoeddwyd ar-lein ddydd Gwener 31 Ionawr 2020, yn adrodd diffyg gweithredol o £2.3m, yn unol â'r rhagamcanion y cytunwyd arnynt gan Gyngor y Brifysgol.

Mae'r gwelliant yng nghanlyniad gweithredol y Brifysgol o'i gymharu â 2017/18 yn dangos llwyddiant parhaus wrth gwrdd â cherrig milltir a sefydlwyd er mwyn ail-gydbwyso ei chostau. Mae'r Brifysgol yn disgwyl gwarged bach yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd ar Gynllun Gweithredu Cynaliadwyedd (SIP) y Brifysgol, a nododd arbedion o £11.4 miliwn. Datblygwyd y SIP er mwyn sicrhau iechyd ariannol y Brifysgol ar gyfer y dyfodol, ac er bod rhywfaint o’r gwaith yn parhau, mae’r Brifysgol ar fin cyflawni'r arbedion y cytunwyd arnynt.

Dywedodd Stephen Forster, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir y cynnydd ariannol yr ydym wedi'i wneud fel sefydliad; rydym wedi cyflawni’r hyn yr oeddem wedi ei fwriadu erbyn diwedd bwyddyn ariannol 2018/19. Mae'n bwysig ac yn galonogol ein bod wedi cyflawni hyn a hoffwn ddiolch i gydweithwyr sydd wedi, ac sy'n parhau i, gyfrannu at y gwaith pwysig hwn.

“Mae'n hysbys iawn bod y sector addysg uwch yn wynebu cryn dipyn o ansicrwydd ar hyn o bryd. Ein blaenoriaeth o hyd yw sicrhau cynaliadwyedd ein sefydliad, drwy gynllunio ariannol doeth a thrwy reoli ein costau. Er gwaethaf yr amgylchedd ansicr allanol, mae gennym fframwaith cadarn; rydym yn hyblyg ond eto'n wydn; rydym yn canolbwyntio ar y dyfodol ac yn gallu mynd ati i ymgymryd â heriau."

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o lwyddiannau.

Mae'r Brifysgol yn parhau i gael ei chydnabod am ragoriaeth ei haddysgu a'i hymchwil.

Cafodd ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru i 2020 gan Ganllaw Prifysgolion Da y Times a'r Sunday Times a daeth i’r brig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac yn ail drwy wledydd Prydain oll am Brofiad y Myfyrwyr ac am Ddysgu yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2019.

Gwelwyd cynnydd rhagorol ar ddau brosiect cyfalaf mawr, gyda lefel y buddsoddiadau yn cael eu hadlewyrchu yn y datganiadau ariannol.

Mae’i chynlluniau datblygu cyfalaf uchelgeisiol yn cynnwys yr adnoddau ymchwil diweddaraf ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth, gwerth £40.5 miliwn gyda chefnogaeth grantiau sylweddol gan ein partneriaid buddsoddi yn UKRI ac WEFO. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 2017-18 ac mae wedi parhau drwy 2018-19; bydd yr adnoddau'n weithredol ar ddechrau'r flwyddyn 2020-21.

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar ailddatblygu Neuadd Pantycelyn, buddsoddiad o £16.5 miliwn sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir i Bantycelyn ar ei newydd wedd groesawu ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2020.

Mae Aberystwyth yn parhau i fuddsoddi er mwyn cyflawni ei hamcanion strategol, yn benodol y ddarpariaeth hirdymor o addysgu ac ymchwil rhagorol gan gynnwys y buddsoddiad cyfalaf cysylltiedig sy'n sail i'r amcanion hynny.

Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o eitemau cyfrifo nad ydynt yn arian parod sy'n ofynnol gan y Safonau Cyfrifon, ond sydd ddim yn cyfrannu at sefyllfa weithredol waelodol y Brifysgol.

Ar ôl ailbrisiad cyflawn yn ystod 2018-19, mae'r Brifysgol wedi cydnabod £9.2 miliwn o leihad yng ngwerth ei hasedau sefydlog.

Yn yr un modd â llawer o sefydliadau yn y sector addysg uwch, mae'r Brifysgol wedi cofnodi cynnydd mewn diffygion pensiwn a gostyngiad yng ngwerth asedau'r cynllun pensiwn. Mae'r rhain yn adlewyrchu natur anrhagweladwy gwerth y farchnad ac yn seiliedig ar brisiadau actiwaraidd asedau a rhwymedigaethau'r cynllun. Nid ydynt yn cynrychioli gwariant arian parod heddiw.

Mae cyfran y Brifysgol o Gynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) y DU gyfan wedi gweld colledion cyfrifo mewn taliadau gwasanaeth yn y dyfodol o £18.5 miliwn. Mae'r cynllun hwn yn cwmpasu'r mwyafrif o staff academaidd ac academaidd-berthynol.

Dangosodd Cynllun Pensiwn ac Aswiriant Prifysgol Aberystwyth (CPAPA) golled gyfrifyddu o £11.6 miliwn ar gyfer 2018/2019, o’i gymharu ag enillion o £11.5 miliwn yn 2017/18.

Mae'r eitemau nad ydynt yn arian parod yn cyfrif am gyfanswm y diffyg cyfanswm incwm cynhwysfawr o £40.2 miliwn ar gyfer 2018/19 o'i gymharu â'r gwarged o £6m yn 2017/18 - pan nododd y Brifysgol ddiffyg yn ei sefyllfa weithredol waelodol o £7.1 miliwn.

Mae'r diffyg gweithredol o £2.3m yn y Datganiadau Ariannol i’r Flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2019 yn unol â'r hyn a ragwelwyd ac mae'r Brifysgol yn disgwyl dileu'r diffyg hwn yn 2019/20 gan wireddu gwarged bach.