Golau newydd yn lleihau ôl troed carbon tŷ gwydr arloesol sy’n bwydo’r byd
Jason Brook a Fiona Corke o’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion gydag un o’r 96 golau LED sydd wedi cael eu gosod ym mhrif dŷ gwydr y ganolfan yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth.
21 Ionawr 2020
Mae ôl troed carbon tŷ gwydr arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n cyfrannu at fridio cenhedlaeth newydd o blanhigion, wedi lleihau’n sylweddol wedi i oleuadau LED newydd gael eu gosod yn eu lle.
O ganlyniad, bydd y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn lleihau ei hallyriadau carbon deuocsid o 60 tunnell y flwyddyn.
Mae’r Ganolfan yn gartref i waith ymchwil blaengar lle mae biolegwyr yn gweithio gyda pheirianwyr, gwyddonwyr cyfrifiadur a mathemategwyr i adnabod a datblygu cnydau gwydn sy’n gallu cynorthwyo gyda’r frwydr erbyn effeithiau newid hinsawdd ar amaeth, megis gallu gwrthsefyll effeithiau sychder a llifogydd yn well.
Ariannwyd y tŷ gwydr, yr unig o’i fath yn y DU ac un o ddyrnaid o gyfleusterau tebyg yn y byd, gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol – y BBSRC.
Mae’n cynnig mynediad agored i’w dechnoleg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yma mae gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at ddiogelwch bwyd ar draws y byd drwy fridio planhigion ‘clyfar’, sydd wedi’u haddasu’n well ar gyfer hinsawdd y dyfodol.
Dywedodd Dr Fiona Corke, Rheolwr y Smarthouse yn y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion yn IBERS: “Mae ffenomeg planhigion yn wyddoniaeth sydd â’r gallu i newid ein bywydau drwy ddarogan ac ymateb i anghenion amgylcheddol y dyfodol. Rydyn ni’n ffodus iawn o gael tŷ gwydr sy’n cael ei reoli gan gyfrifiadur yn y Ganolfan, ble caiff planhigion eu trin a’u mesur yn awtomatig bob dydd.
“Yna rydyn ni’n cymryd y data hwnnw a’i ddefnyddio i nodi pa enynnau yn y planhigion sydd wedi achosi’r gwahanol nodweddion, fel y gallwn ni fridio’n ddethol blanhigion cryfach gyda’r rhinweddau rydyn ni eu heisiau i’w gwneud nhw’n fwy gwydn i amodau a achosir gan newid hinsawdd, fel sychder neu hyd yn oed lifogydd sydyn.
“Felly mae’n hanfodol nad yw’r Ganolfan ei hunan yn ychwanegu at ôl troed carbon y byd, gan fod hynny’n hollol groes i egwyddorion y gwaith rydyn ni’n ceisio ei wneud yma. Drwy osod y goleuadau LED hyn, rydyn ni’n cyfrannu at ymdrech Prifysgol Aberystwyth i gyfyngu cynhesu byd-eang.”
Mae 96 o oleuadau gwreiddiol y tŷ gwydr robotig bellach wedi cael eu newid am rai LED sydd yn darparu y donfedd gywir ar gyfer tyfiant planhigion, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.
Yn ogystal â lleihau’r allyriadau carbon deuocsid yn sylweddol, fe fydd y goleuadau newydd hefyd yn golygu gostyngiad blynyddol o tua £17,000 ym mil trydan y Ganolfan.
Ychwanegodd Dewi Day, Ymgynghorydd Cynaliadwyedd Prifysgol Aberystwyth: “Yn ddiweddar rydyn ni wedi buddsoddi mewn dau brosiect ynni gwyrdd arloesol ar gampws Gogerddan. Mae hyn yn golygu y byddwn yn arbed 12% ar gostau trydan blynyddol blaenorol y safle, ac yn arbed dros 100 tunnell o garbon deuocsid – gan leihau ôl troed carbon y cyfleuster yn sylweddol.
“Er bod y Brifysgol eisoes wedi cyflawni gostyngiadau sylweddol mewn carbon deuocsid sy’n gyfystyr ag allyriadau’r 10 mlynedd diwethaf, mae bellach yn datblygu Strategaeth Rheoli Carbon sy’n unol â tharged uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030.”