Gwobrwyo tiwtor dysgu Cymraeg
O’r chwith i’r dde: Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; Philippa Gibson; Nia Parry, cyflwynydd y seremoni wobrwyo.
28 Ionawr 2020
Mae cyfraniad eithriadol un o diwtoriaid dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth wedi ei gydnabod gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru.
Cyflwynwyd Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid i Philippa Gibson mewn seremoni arbennig yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan nos Fercher 22 Ionawr 2020.
Dysgodd Philippa y Gymraeg fel oedolyn dros 30 mlynedd yn ôl ac yn y cyfnod hwnnw datblygodd ei sgiliau i ddod yn diwtor Cymraeg medrus a phrofiadol.
Ers blynyddoedd maith mae’n aelod o dîm Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth sydd yn darparu dosbarthiadau Cymraeg i oedolion ym Mhowys, Ceredigion a Sir Gâr.
Dywedodd Philippa: “Wedi dysgu Cymraeg yn oedolyn, rwy’n cael boddhad o ddysgu’r iaith i eraill a’u gweld yn camu ymlaen i ddod yn rhan o’r gymdeithas Gymraeg leol. Mae tiwtora yn golygu gwneud cymaint ag y gallaf i helpu pob unigolyn i lwyddo trwy oresgyn unrhyw broblemau, boed yn wahanol broblemau dysgu neu ddiffyg hyder neu anwybodaeth am gyfleoedd i ddefnyddio eu Cymraeg.”
Mae Philippa yn hoff o ddefnyddio dulliau a chyfleoedd dysgu anffurfiol wrth ddysgu’r Gymraeg. Gan ddilyn cynllun Pontio mae’n rhoi o’i hamser i ganfod, cydlynu a threfnu gwirfoddolwyr i gefnogi sesiynau sgwrsio anffurfiol gyda dysgwyr.
Yn ogystal, mae Philippa yn annog ei myfyrwyr i ysgrifennu ar gyfer y papur bro lleol a’u cefnogi i fynychu llawer o weithgareddau gan gynnwys y grŵp cerdded Cymraeg, dramâu a chyngherddau Cymraeg a chymdeithasau Cymraeg.
Un sydd wedi canmol gwaith Philippa yw Mary, un o’i myfyrwyr. Dywedodd Mary: “Mae hi wedi agor byd newydd i mi, byd o ddiwylliant Cymraeg. Mae wedi bod yn arbennig o dda.”
Dywedodd Pennaeth Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr, Prifysgol Aberystwyth: Siôn Meredith, fod cyfraniad Philippa yn amhrisiadwy: “Mae llu o ddysgwyr o ardal Aberteifi wedi elwa cymaint o waith Philippa fel tiwtor, ac mae llawer ohonynt yn siaradwyr rhugl erbyn hyn, ac wedi croesi’r bont. Mae Philippa wedi gwneud byd o wahaniaeth i ddyfodol y Gymraeg yn yr ardal. Diolch yn fawr iddi, a llongyfarchion iddi ar dderbyn y wobr hon.
Mae Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn rhan o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sydd yn gyfrifol am bob agwedd o ddysgu’r iaith yng Nghymru.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Ry’n ni’n ymfalchïo’n fawr yn llwyddiant Philippa. Mae hi wedi llwyddo i ennyn brwdfrydedd ymysg dysgwyr, gan eu meithrin a’u cefnogi i ddod yn siaradwyr Cymraeg. Hoffai’r Ganolfan ddiolch i Philippa am ei gwaith diflino a’i llongyfarch yn gynnes iawn ar y wobr, ac am ei chyfraniad gwerthfawr i’r sector Dysgu Cymraeg.”
Un arall gafodd ei chydnabod yn y Gwobrau yw Diane Norrell, a gyrhaeddodd y rownd derfynol.
Mae Diane, sydd yn diwtor Dysgu Cymraeg yn ardal Maldwyn, hefyd wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn ac yn dal i ddilyn cyrsiau gloywi Cymraeg yn Aberystwyth.
Cynhelir Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), Colegau Cymru, Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Prifysgolion Cymru ac Addysgu Oedolion Cymru.