Cymrodoriaeth fawreddog i rewlifegydd o Aberystwyth
Dyfarnu Cymrodoriaeth William Evans i’r Athro Bryn Hubbard gan Brifysgol Otago yn Dunedin, Seland Newydd.
13 Ionawr 2020
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth William Evans gan Brifysgol Otago yn Dunedin, Seland Newydd i enillydd Medal y Pegynau o Brifysgol Aberystwyth.
Fe fydd yr Athro Bryn Hubbard, Cyfarwyddwr Canolfan Rhewlifeg yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn Aberystwyth, yn teithio i Dunedin ym mis Mawrth 2020.
Fe fydd Yr Athro Hubbard yn gweithio gyda chydweithwyr yn Seland Newydd, dros gyfnod o chwe wythnos ym Mhrifysgol Otago, ar setiau data newydd eu casglu yn ymwneud â strwythur tri dimensiwn a maes tymheredd rhewlifau a sgafelli iâ’r Antartig.
Yn ogystal, fe fydd yr Athro Hubbard yn cadeirio gweithdy ar strwythur tri dimensiwn masau iâ ac yn traddodi cyfres o ddarlithoedd academaidd a chyhoeddus yn trafod ei waith ymchwil ar rewlifoedd yr Himalaya, Sgafelli Iâ’r Antartig, a bodolaeth ac ymddygiad rhewlifoedd mewn dyffrynnoedd ar y blaned Fawrth.
Dywedodd Yr Athro Hubbard: “Rwyf wrth fy modd gyda’r Gymrodoriaeth hon a’r cyfle i weithio gyda chydweithwyr amlwg sy’n gweithio ym Mhrifysgol Otago. Fe fydd y Gymrodoriaeth yn caniatáu i ni gyfuno ein harbenigedd gyda setiau data i wneud datblygiadau pwysig yn ein dealltwriaeth o fasau iâ mewnol yr Antartig.
Cymrodoriaeth William Evans
Sefydlwyd Cymrodoriaeth William Evans ym 1946 ar gyfer hyrwyddo anogaeth a dysgu.
Gwobrwyir y Cymrodoriaethau drwy wahoddiad gan y Brifysgol ar argymhelliad Pwyllgor Dethol William Evans i unigolion o “ragoriaeth academaidd sydd â record gref mewn ymchwilio a/neu ddysgu a/neu ymarfer proffesiynol.”
Yr Athro Hubbard
Dyfarnwyd Medal y Pegynau i’r Athro Bryn Hubbard ym mis Ionawr 2016 am ei waith fel “Ysgolhaig y Pegynau mewn rhewlifeg, daeareg rewlifol a strwythur a mudiant masau iâ"
Hyd yma, mae wedi cyflawni gwaith maes rhewlifol am 31 blwyddyn yn olynol gan gynnwys chwe thaith ymchwil i’r Antartig.
Yn 2017 a 2018 arweiniodd ymgyrch ymchwil arloesol i ddrilio yn ddwfn i galon rhewlif uchaf y byd, Rhewlif Khumbu, sydd yn llifo oddi ar ochr Mynydd Everest.
Yn ogystal, Mae’r Athro Hubbard wedi arwain timau maes i astudio prosesau rhewlifoedd yn Andes Periw, Yr Ynys Las, Svalbard, Artig Canada a’r Alpau Ewropeaidd.