Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi Cymrodyr er Anrhydedd 2019
05 Mehefin 2019
Mae ffigwr amlwg byd-eang yn y frwydr i gael gwared ar bolio, cyn-Brif Weinidog Cymru ac athro cerddoriaeth peripatetig sydd wedi ymddeol ymhlith y rhai a fydd yn cael eu hanrhydeddu yn ystod y seremonïau graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth eleni.
Aber yn lansio cwrs haf newydd i gynhyrchwyr ffilm ifanc
06 Mehefin 2019
Mae ysgol haf newydd i gynhyrchwyr ffilmiau ifanc sy’n cynnig cyfle i weithio gyda chynhyrchydd profiadol o Hollywood wedi ei lansio gan Brifysgol Aberystwyth.
Aber ar frig tablau boddhad The Guardian
07 Mehefin 2019
Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymysg y mwyaf bodlon yn y DU yn ôl tabl cynghrair prifysgolion diweddaraf The Guardian.
Gwefan newydd i gylchgrawn Y Ddraig
10 Mehefin 2019
Mae gwefan newydd wedi’i lansio ar gyfer cylchgrawn llenyddol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.
Teyrngedau i gyn Is-Ganghellor
10 Mehefin 2019
Mae teyrngedau wedi eu talu i’r Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a farw yn 72 oed.
Ymchwil defaid brîd prin ym Mhwllpeiran
12 Mehefin 2019
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi bod ar ymweld â Hiort ar Ynysoedd Allanol Heledd fel rhan o’u hastudiaeth newydd ar arferion bwydo brîd hynafol a phrin o ddefaid gwyllt.
Aber yn adennill Dyfarniad Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil
13 Mehefin 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad hirdymor i ddatblygiad gyrfa ymchwilwyr.
Cyn-fyfyrwyr yn rhannu eu doniau creadigol
14 Mehefin 2019
Mae tri cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o gynllun cenedlaethol newydd gyda Theatr Genedlaethol Cymru i ddatblygu crefft awduron llwyfan.
Gosod mannau gwefru e-feiciau a llochesi i feiciau yn y Brifysgol
18 Mehefin 2019
Mae gorsafoedd gwefru e-feiciau newydd a llochesi i feiciau wedi’u gosod ar Gampws Penglais ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Caniatâd cynllunio i adnewyddu’r Hen Goleg
19 Mehefin 2019
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo cais Prifysgol Aberystwyth am ganiatâd cynllunio i adnewyddu adeilad rhestredig Gradd 1 yr Hen Goleg.
Hyfforddiant llwyddiannus i entrepreneuriaid newydd
19 Mehefin 2019
Cafodd unigolion sydd â syniad busnes blaengar gyfle unigryw i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd yn ystod Wythnos Dechrau Busnes flynyddol Prifysgol Aberystwyth.
Ombwdsmyn rhyngwladol yn ymgynnull yn Aberystwyth
20 Mehefin 2019
Bydd Ombwdsmyn Gwasanaethau Cyhoeddus o’r DU, Iwerddon a Chatalonia yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 21 Mehefin 2019 ar gyfer seminar ryngwladol ar sut maen nhw’n dal gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif.
Cyn-fyfyrwyr ar restr fer Llyfr y Flwyddyn
20 Mehefin 2019
Mae chwe chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth ymysg yr awduron sydd wedi’u cynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2019.
Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos Roboteg
20 Mehefin 2019
Mae gwahoddiad i ddarpar ddyfeisiwyr a pheirianwyr robot o bob oed i gymryd rhan yn Wythnos Roboteg Aberystwyth sy’n cael ei chynnal o 24-29 Mehefin 2019.
Mae’r rhan fwyaf yn dychwelyd waledi coll – beth yw’r seicoleg a pha wledydd sydd mwyaf gonest
21 Mehefin 2019
Cyhoeddwyd yr erthygl hon gan yr Athro Nigel Holt o Adran Seicoleg y Brifysgol, yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation.
Beth mae 'deugymalog' yn ei olygu?
21 Mehefin 2019
Cyhoeddwyd yr erthygl hon gan Dr Marco Arkesteijn o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth, yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation.
Prifysgol Aberystwyth yn sicrhau £1.8m o gyllid yr UE ar gyfer diwydiannau creadigol Cymru
21 Mehefin 2019
Mae disgwyl y bydd sector diwydiannau creadigol Cymru yn elwa ar fuddsoddiad gwerth £1.8m o gyllid yr UE mewn rhaglen sgiliau lefel uchel dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.
Gall mai robotiaid fydd yn gofalu amdanoch yn eich henaint – a bydd eich plant yn eu dysgu
Wrth ysgrifennu yn ‘The Conversation’, mae Dr Patricia Shaw o’r Adran Cyfrifiadureg yn trafod swyddogaeth robotiaid yn y dyfodol wrth ofalu am bobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain, a sut y bydd y robotiaid hyn yn dysgu ac addasu’n gyflym i heriau ac i’w hamgylchedd.
Myfyriwr o Aber yn dod i’r brig yng Ngwobrau STEM y Telegraph 2019
25 Mehefin 2019
Mae myfyrwraig biocemeg o Aberystwyth wedi ennill y brif wobr yng Ngwobrau STEM y Telegraph 2019 am syniad radical ar gyfer prawf symudol newydd ar gyfer y diciâu mewn pobl.
Prifysgol Aberystwyth yn dathlu rhagoriaeth mewn addysgu
26 Mehefin 2019
Mae’r garfan ddiweddaraf o staff academaidd ac ôl-raddedig i ennill cymwysterau addysgu addysg uwch proffesiynol wedi eu cydnabod gan Brifysgol Aberystwyth.
Penodi Dirprwy Ganghellor ac aelodau newydd o Gyngor y Brifysgol
26 Mehefin 2019
Mae’r Athro y Fonesig Elan Closs Stephens wedi’i phenodi yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ar fudo
28 Mehefin 2019
Troseddau casineb, atgasedd ac ymateb cymdeithas sifil i fudo, dyma rai o’r pynciau fydd yn cael sylw mewn symposiwm undydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 2 Gorffennaf 2019.