Aber yn lansio cwrs haf newydd i gynhyrchwyr ffilm ifanc
Prifysgol Aberystwyth yn lansio ysgol haf newydd i gynhyrchwyr ffilmiau ifanc
06 Mehefin 2019
Mae ysgol haf newydd i gynhyrchwyr ffilmiau ifanc sy’n cynnig cyfle i weithio gyda chynhyrchydd profiadol o Hollywood wedi ei lansio gan Brifysgol Aberystwyth.
Datblygwyd Sgript i Sgrin gan Huw Penallt Jones sydd wedi gweithio ar ffilmiau megis Interlude in Prague (2016), Damascus Cover (2015), The Man Who Knew Infinity (2014) Patagonia (2010), The Edge of Love (2008) a Cold Mountain (2003).
Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, dychwelodd Huw i Aberystwyth yn 2017 i lansio cynllun gradd israddedig newydd mewn Cynhyrchu Ffilm.
Mae’r ysgol haf creu ffilm yn gyfle i ddilynwyr brwd byd y sinema, sydd rhwng 15 a 17 oed, i ddysgu am bob agwedd o wneud ffilmiau.
Dywedodd Huw Penallt Jones: “Rydym yn hynod falch ein bod yn cynnig y cwrs creu ffilm newydd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yr haf hwn. Mae’n gyfle cyffrous iawn ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chenhedlaeth newydd o wneuthurwyr ffilm ifanc, a chydweithio gyda’n gilydd i greu ffilmiau byr gwych. Mae’r elfennau yma i gyd, gan gynnwys cyfleusterau ardderchog, i wneud y profiad yn un gwerth chweil.”
Bydd y cwrs yn cynnwys datblygu sgriptiau; cynllunio, ffilmio a golygu ffilm; defnyddio offer goleuo a chamerâu, a chreu trac sain.
Caiff ei gynnal yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu lle bydd y myfyrwyr yn cael defnyddio offer safon proffesiynol a chyfel i wylio ffilmiau yn sinema unigryw’r Adran.
Uchafbwynt yr wythnos fydd dangosiad arbennig o’r ffilmiau sydd wedi eu creu yn ystod yr wythnos.
Cynhelir Sgript i Sgrin rhwng 21 a 26 Gorffennaf ac yna rhwng 28 Gorffennaf a 2 Awst 2019, ac mae’n gymwys ar gyfer rhan Breswyl rhaglen Gwobr Aur Dug Caeredin.
Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn lletua mewn neuadd breswyl ar gampws y Brifysgol, ar bwys adeilad yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu lle cynhelir y cwrs.
Ceir mwy o wybodaeth am y cwrs, gan gynnwys cost a sut i gadw lle ar wefan Adran Astudiaethau Theatr, Ffim a Theledu