Cyn-fyfyrwyr ar restr fer Llyfr y Flwyddyn

Caiff y seremoni wobrwyo ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, nos Iau 20 Mehefin 2019.

Caiff y seremoni wobrwyo ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, nos Iau 20 Mehefin 2019.

20 Mehefin 2019

Mae chwe chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth ymysg yr awduron sydd wedi’u cynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2019.

Bydd enillwyr y gwobrau yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar Gampws Penglais heno, nos Iau 20 Mehefin 2019.

Cyflwynydd y noson yw’r ddarlledwraig Seren Jones, a bydd chyfanswm o £12,000 mewn gwobrau’n cael eu rhannu rhwng yr enillwyr.

Ymysg y rhai sydd ar y rhestr fer mae’r prifardd a’r cyfreithiwr Emyr Lewis, a fydd yn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth fel Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym mis Medi 2019.

Dyfernir y gwobrau i’r gweithiau gorau ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol o fewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.

Y cyn-fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth sydd wedi eu cynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yw:

Gwobr Farddoniaeth
Twt Lol, Emyr Lewis (Gwasg Carreg Gwalch)
Stafell fy Haul, Manon Rhys (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth
Ynys Fadog, Jerry Hunter (Y Lolfa)
Esgyrn, Heiddwen Tomos (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol
Cymru mewn 100 Gwrthrych, Andrew Green (Gwasg Gomer)

Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias
Salacia gan Mari Ellis Dunning (Parthian Books)

Ymhlith beirniaid y Gwobrau eleni mae Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Dr Louise Holmwood-Marshall, Pennaeth Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a’r Prifardd Idris Reynolds sy’n gyn-fyfyriwr.

Wrth gyhoeddi’r rhestr fer, dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Dyma gyfrolau sy’n annog darllenwyr i ystyried rhai o themâu mawr bywyd. Mae iechyd meddwl a hunaniaeth – boed yn bersonol neu’n genedlaethol – yn linyn cyswllt drwy’r cyfan. Mae Rhestr Fer 2019 yn cynrychioli amrywiaeth anhygoel llenyddiaeth gyfoes o Gymru.”

Mae tocynnau’r seremoni yn £7.50 a gellir eu harchebu o wefan Canolfan y Celfyddydau.

Fel rhan o’r bartneriaeth newydd, caiff y gwobrau ffuglen yn y ddwy iaith eu noddi gan Brifysgol Aberystwyth.

Ar restr fer Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth mae Ynys Fadog, Jerry Hunter (Y Lolfa); Llyfr Glas Nebo, Manon Steffan Ros (Y Lolfa); and Esgyrn, Heiddwen Tomos (Y Lolfa).

Ac ar restr fer Aberystwyth University Fiction Award mae Arrest Me, for I Have Run Away, Stevie Davies (Parthian Books); West, Carys Davies (Granta Publications); and Sal, Mick Kitson (Canongate Books).

Mae rhagor o fanylion am y cyfrolau sydd ar y Rhestr Fer a’u hawduron, ar wefan Llenyddiaeth Cymru.