Prifysgol Aberystwyth yn dathlu rhagoriaeth mewn addysgu

O’r chwith i’r dde: Tim Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth; Mary Jacob, Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu; Kim Kenobi enillydd cyflawniad rhagorol yn y Dystysgrif Ôl-raddedig Addysgu mewn Addysg Uwch; Nina Sharp enillydd Gwobr Dysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth; Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor ac Annette Edwards o’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.

O’r chwith i’r dde: Tim Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth; Mary Jacob, Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu; Kim Kenobi enillydd cyflawniad rhagorol yn y Dystysgrif Ôl-raddedig Addysgu mewn Addysg Uwch; Nina Sharp enillydd Gwobr Dysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth; Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor ac Annette Edwards o’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.

26 Mehefin 2019

Mae’r garfan ddiweddaraf o staff academaidd ac ôl-raddedig i ennill cymwysterau addysgu addysg uwch proffesiynol wedi eu cydnabod gan Brifysgol Aberystwyth.

Llongyfarchwyd staff sydd wedi ennill Cymrodoriaeth yn AdvanceHE, yr Academi Addysg Uwch gynt, mewn derbyniad a gynhaliwyd gan Uned Gwella Dysgu ac Addysgu y Brifysgol ddydd Llun 24 Mehefin 2019.

Mae 53 aelod o staff ôl-raddedig ac academaidd Prifysgol Aberystwyth wedi ennill cymwysterau addysgu proffesiynol yn ystod blwyddyn academaidd 2018/19.

Yn ogystal cydnabuwyd un tiwtor ôl-raddedig a dau ddarlithydd hefyd am gyflawniad rhagorol.

Cyflwynwyd Gwobr Dysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth i Nina Sharp o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear am ei darn myfyriol ar ei thaith addysgu.

Derbyniodd Yvonne Rinkart o Gleidyddiaeth Ryngwladol a'r Ganolfan Saesneg Ryngwladol a Kim Kenobi o'r Adran Fathemateg wobrau cyflawniad rhagorol yn y Dystysgrif Ôl-raddedig Addysgu mewn Addysg Uwch.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Ein llongyfarchiadau cynhesaf i gydweithwyr ar eu llwyddiant. Mae athrawon rhagorol yn meithrin dysgu rhagorol ac mae Cymrodoriaethau AdvanceHE yn cael eu cydnabod yn eang fel dangosyddion rhagoriaeth addysgu. Mae Prifysgol Aberystwyth yn annog staff i ymuno â Chymrodoriaeth ar bob lefel ac mae gan gyfranogwyr gyfleoedd i fentora cydweithwyr a chymryd rhan mewn cymuned sydd yn ymarfer.”

Dywedodd Tim Davies, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae AdvanceHE Fellowship yn nodwedd o broffesiynoldeb dysgu ac addysgu ym maes addysg uwch. Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus hyn yn ymuno â chymuned fyd-eang o dros 100,000 o Gymrodyr. Ochr yn ochr â'r Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth a chanlyniadau boddhad myfyrwyr, mae Cymrodoriaethau AdvanceHE yn fathodyn o ansawdd mewn dysgu ac addysgu i Brifysgol Aberystwyth.”

Mae cefnogaeth i diwtoriaid ôl-raddedig ac eraill sy'n ceisio datblygu arfer rhagorol ar lefel Gysylltiol yn cael ei ddarparu gan Addysgu i Uwchraddedigion ym Mrifysgol Aberystwyth (TPAU) sy'n cael ei arwain gan Annette Edwards.

Gall staff academaidd sy'n dymuno datblygu eu gallu addysgu proffesiynol ar lefel Cymrawd astudio ar gyfer y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCTHE)dan arweiniad Mary Jacob.

Mae cais uniongyrchol drwy ARCHE (Cydnabyddiaeth Datblygiad Proffesiynol Parhaus Aberystwyth mewn Addysgu a Chefnogi Dysgu mewn Addysg Uwch) yn dilysu arfer da presennol ar bob lefel.

Dylai staff Prifysgol Aberystwyth sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â fellows@aber.ac.uk (ARCHE), pgcthe@aber.ac.uk (PGCTHE) neu tpau@aber.ac.uk  (TPAU).