Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi Cymrodyr er Anrhydedd 2019
Roedd y Barnwr Milwyn Jarman QC ymysg y rhai y cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddynt yn 2018.
05 Mehefin 2019
Mae ffigwr amlwg byd-eang yn y frwydr i gael gwared ar bolio, cyn-Brif Weinidog Cymru ac athro cerddoriaeth peripatetig sydd wedi ymddeol ymhlith y rhai a fydd yn cael eu hanrhydeddu yn ystod y seremonïau graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth eleni.
Cynhelir Wythnos Raddio 2019 rhwng dydd Mawrth 16 a dydd Gwener 19 Gorffennaf yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth.
Bydd naw Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn cael eu cyflwyno i unigolion sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn eu dewis faes.
Yn ôl yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae Graddio’n achlysur pan fyddwn yn dathlu llwyddiannau ein graddedigion ac yn croesawu eu teuluoedd a’u cefnogwyr i Aberystwyth. Hon yw’r wythnos hefyd pan fyddwn yn urddo’r rhai sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn eu dewis faes ac mae’n destun pleser i mi ein bod yn cyflwyno Cymrodoriaethau er Anrhydedd i naw unigolyn eithriadol eleni ar draws ystod amrywiol o feysydd. Mae’n hyfrydwch mawr i mi hefyd bod sawl un o gyn-fyfyrwyr eithriadol Aberystwyth ymhlith y Cymrodorion er Anrhydedd eleni. Braint i’n myfyrwyr a’n staff fydd rhannu’r llwyfan â hwy.”
Dyma Gymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth ar gyfer 2019 (yn y drefn y’u cyflwynir):
Alan Phillips
Ganed yr athro cerdd peripatetig Alan Phillips yn Nhreherbert, Cwm Rhondda. Tra’r oedd yn yr ysgol bu’n chwarae offerynnau pres gyda band lleol Treherbert. Wedi gadael yr ysgol, dysgodd grefft gosod brics, a theithiodd ledled y Deyrnas Unedig ac i Ewrop gyda’i waith yn ystod y pum mlynedd dilynol. Yna, yn 1978 cychwynnodd ar radd mewn Cerddoriaeth yn Aberystwyth, gan raddio yn 1981. Wedi iddo ennill Tystysgrif Addysg i Raddedigion yng Nghaerdydd, digwyddodd gwrdd â rhai o’i gyfeillion o Aberystwyth, ac yn sgil hynny ymgeisiodd am swydd wag athro offerynnau pres peripatetig yng Ngheredigion, a chael y swydd. Yn ystod gyrfa 35 mlynedd gyda Gwasanaeth Cerdd Ceredigion, bu Alan yn gyfrifol am sefydlu Band Ieuenctid Tref Aberystwyth, ac aeth â nifer o grwpiau o gerddorion ifanc i gystadlaethau gartref a thramor.
Frank Hogg OBE
Cafodd yr Athro Frank N. Hogg OBE ei addysg yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Manceinion (UMIST) ac ym Mhrifysgol Lerpwl. Treuliodd 25 mlynedd fel Pennaeth sefydlol Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru (1964–89), ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe ddatblygodd y Coleg i fod yn sefydliad rhyngwladol oedd yn denu myfyrwyr (a darpar arweinwyr llyfrgelloedd ac archifau) o bedwar ban byd. Yn 1989 daeth y Coleg Llyfrgellyddiaeth yn un o adrannau cyfansoddol y Brifysgol, a dyma’r adran a elwir bellach yn Rheoli Gwybodaeth, Llyfrgelloedd ac Archifau. Mae’r Athro Hogg wedi cael dylanwad sylweddol ar ddisgyblaeth a phroffesiwn llyfrgellyddiaeth a gwyddor gwybodaeth yng Nghymru ac yn fyd-eang. Dyfarnwyd OBE iddo yn 1988. Mae’n dal i fyw yn Llanbadarn ac yn ymwneud o hyd â materion lleol a chymunedol yn Aberystwyth.
Ruth Bidgood
Cafodd y Gymraes Ruth Bidgood, sy’n fardd a hanesydd lleol, ei geni ym Mlaendulais, Castell-nedd Port Talbot yn 1922. Bu’n ddisgybl yn ysgol ramadeg Port Talbot, ac aeth yn ei blaen i astudio Saesneg yng Ngholeg Sant Huw, Prifysgol Rhydychen (1940-3). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n ‘Wren’ yng Ngwasanaeth Morol Brenhinol y Menywod, gan weithio’n bennaf fel codiwr yn Alexandria yn yr Aifft. Wedi’r rhyfel, gweithiodd yn Llundain yn helpu i baratoi argraffiad newydd o’r Chambers's Encyclopaedia. Pan symudodd i Abergwesyn, ger Llanwrtyd ym Mhowys yn 1965, dechreuodd ysgrifennu ac ymchwilio i hanes lleol. Yn ystod gyrfa ysgrifennu o bedwar degawd a mwy, mae wedi cyhoeddi tair cyfrol ar ddeg o farddoniaeth, gan ganfod ei hysbrydoliaeth yn hanes, tirwedd a bywyd cyfoes Canolbarth Cymru sy’n gartref iddi. Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfrol o ryddiaith am Gymru, yn ogystal â nifer o erthyglau mewn cyfnodolion hanes sirol.
R Geoff Richards
Cafodd ei eni a’i addysg yn Llanfyllin, Powys, ac fe raddiodd yr Athro R Geoff Richards o Aberystwyth gyda BSc mewn Bioleg Celloedd ac Imiwnobioleg yn 1990, gan ennill gradd Meistr yn 1991 a doethuriaeth yn 1997. Er 2009, mae’n Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil AO Davos (y Swistir) – corff sy’n arwain ym maes orthopedeg, gan gynnwys y diwydiant mewnblaniadau byd-eang a hyfforddi llawfeddygon. Mae ei waith ymchwil ar ryngwynebau mewnblaniadau metel ym maes trawma o fewn orthopedeg wedi arwain at welliannau o bwys o ran dylunio a chynhyrchu nwyddau sefydlogi toresgyrn. Mae’n Athro er Anrhydedd yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a Chyfadran Meddygaeth Prifysgol Freiburg (yr Almaen), ac yn Athro Nodedig yn Ysbyty Cyswllt Cyntaf Prifysgol Sun Yat-sen, Guangzhou (China). Mae’n Llywydd Cymdeithas Ryngwladol Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Aildyfu ac yn Gadeirydd y Coleg Cymrodyr Rhyngwladol ar gyfer Ymchwil Orthopedig. Yn 1999 fe gyd-sefydlodd gyfnodolyn eCM, gan arloesi ym maes cyhoeddi mynediad agored.
Emyr Jenkins
Mae’r cyn-fyfyriwr Ffiseg Emyr Jenkins wedi rhoi oes o wasanaeth i’r celfyddydau yng Nghymru. Cafodd ei eni ym Machynlleth, gan dderbyn ei addysg yno. Wedi iddo raddio o Aberystwyth yn 1961 bu’n gweithio i’r BBC yng Nghaerdydd yn cyflwyno bwletinau newyddion yn Gymraeg a Saesneg ar y radio a’r teledu, yn sylwebu ar ddigwyddiadau ac, o 1971-78, yn gweithio fel trefnydd rhaglenni i Gymru. Fel Cadeirydd cyntaf y Mudiad Ysgolion Meithrin yn nechrau’r 1970au, chwaraeodd ran allweddol yn yr ymgyrch dros addysg Gymraeg. Yn 1978 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu yn y swydd honno am bymtheg mlynedd. Yn 1993 daeth yn Gyfarwyddwr Cyngor y Celfyddydau yng Nghymru a’r flwyddyn ganlynol fe’i gwnaed yn Brif Weithredwr cyntaf Cyngor Celfyddydau datganoledig Cymru, swydd y bu ynddi hyd iddo ymddeol yn 1998.
Virginia Gamba
Mae’r Athro Virginia Gamba yn gyn-fyfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac mae ganddi dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad fel arbenigwraig ar faterion strategol ym maes heddwch a diogelwch, diogelwch pobl a diarfogi. Ar hyn o bryd mae’n Is-Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig â swyddogaeth Cynrychiolydd Arbennig yr Ysgrifennydd Cyffredinol dros Blant a Gwrthdaro Arfog. Fe’i ganwyd yn San Martin ger Buenos Aires yn 1954, ac mae gan yr Athro Gamba MScEcon mewn Astudiaethau Strategol o Brifysgol Aberystwyth. Trwy gydol ei gyrfa bu’n gweithio mewn prifysgolion, sefydliadau ymchwil, cyrff amlwladol, cyrff anllywodraethol a sefydliadau yn Ewrop, Affrica a’r Americas, ac mae wedi arwain prosiectau ymchwil amlwladol ar faterion yn ymwneud â rheoli arfau a diarfogi. Yn 1995 fe rannodd y Wobr Heddwch Nobel a ddyfarnwyd i Gynadleddau Pugwash ar Wyddoniaeth a Materion Byd-eang am ymdrechion ym maes diarfogi niwclear.
Ian Hopwood
Mae Ian Hopwood yn gyn-fyfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a bu’n gweithio ym maes datblygu ers dros 40 mlynedd, yn Affrica ac Asia yn bennaf. Fel Cynrychiolydd UNICEF yn Guinea, Zambia a Senegal, bu’n ymwneud ag eiriolaeth ym maes hawliau plant, effeithiolrwydd cymorth a diwygio’r Cenhedloedd Unedig, strategaethau lleihau tlodi, a chynlluniau gweithredu Amcanion Datblygu’r Mileniwm. Bu’n ceisio’n barhaus i wella ansawdd gwerthuso a dysgu sefydliadol, ac i gryfhau’r cysylltiadau rhwng ymchwil, llunio polisïau, arferion rhaglennu a gwerthuso, a bu’n Bennaeth Gwerthuso UNICEF o 1996-2000. Ers ymddeol o UNICEF, bu’n arwain Cymdeithas Werthuso Senegal (y mae’n Llywydd Anrhydeddus arni), yn darlithio ar fonitro a gwerthuso a hawliau plant yn Sciences Po (Paris) a Phrifysgol Cheikh Anta Diop (Dakar), ac yn gwneud gwaith ymgynghori i nifer o elusennau, asiantaethau cymorth a rhaglenni datblygu byd-eang.
Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC
Mae’r Gwir Anrh Carwyn Jones AC yn gyn-Brif Weinidog Cymru a chyn-Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Cafodd ei eni yn Abertawe a’i fagu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fab i Gymry Cymraeg oedd ill dau’n athrawon. Graddiodd yn y gyfraith o Aberystwyth yn 1988. Wedi iddo hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain, bu’n gweithio fel bargyfreithiwr yn Abertawe am ddeng mlynedd cyn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru ym mis Mai 1999. Yn ystod y ddau ddegawd wedi hynny bu ganddo sawl swydd yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig (2000-02) a Gweinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (2003-07). Wedi cyfnod byr fel Gweinidog Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, daeth yn Gwnsler Cyffredinol Cymru ac Arweinydd y Tŷ. Bu’n Brif Weinidog Cymru ac Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru o 2009 hyd 2018.
Judith Diment
Mae Judith Diment, a astudiodd ddaeareg a daearyddiaeth yn Aberystwyth, wedi bod yn amlwg ar lefel fyd-eang yn yr ymgyrch i gael gwared ar bolio ers dau ddegawd a mwy. Mae’n Gydlynydd Tasglu Eiriolaeth Dileu Polio y Rotari Rhyngwladol, yn Gynghorydd Eiriolaeth Cenedlaethol y DU ar gyfer Polio, yn aelod o Bwyllgor PolioPlus Rhyngwladol y Rotari (IPPC), ac yn cadeirio Is-bwyllgor Grantiau yr IPPC. Yn 2013 cafodd ei phenodi’n Gynrychiolydd y Rotari Rhyngwladol i’r Gymanwlad. Mae wedi trefnu llu o ddigwyddiadau eiriolaeth a chyfryngau ym maes polio yn Senedd y DU, Senedd Ewrop a Thŷ Chatham. Bu Judith yn rhedeg cwmni ymgynghori annibynnol arobryn ym maes cysylltiadau cyhoeddus ac mae wedi gweithio mewn swyddi uchel ym maes marchnata a chyfathrebu, gan gynnwys yn yr Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain. Yn 2016 cafodd ei hethol yn gynghorydd ar gyfer Bwrdeistref Brenhinol Windsor a Maidenhead.