Gosod mannau gwefru e-feiciau a llochesi i feiciau yn y Brifysgol
Y Cynghorydd Alun Williams, Hyrwyddwr Cynaliadwyedd o Gyngor Sir Ceredigion, yn y lloches beiciau melyn newydd a’r orsaf wefru newydd y tu allan i Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol
18 Mehefin 2019
Mae gorsafoedd gwefru e-feiciau newydd a llochesi i feiciau wedi’u gosod ar Gampws Penglais ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o gynllun ehangach i osod cyfleusterau o’r fath mewn gwahanol fannau yn Aberystwyth.
Mae dwy orsaf wefru newydd wedi’u gosod yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth a hefyd y tu cefn i Ganolfan y Celfyddydau. Mae cynlluniau ar y gweill i osod dwy orsaf arall ger y Porthordy wrth fynedfa Campws Penglais, a hefyd ger Fferm Penglais.
Mae’r cyfleusterau hyn yn rhad ac am ddim i bawb ac maent ar gael yn hwylus i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.
Mae’r prosiect i osod llochesi beiciau sy’n cynnwys gorsafoedd gwefru e-feiciau yn Aberystwyth yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Ceredigion gan ddefnyddio grant gan Gronfa Teithio lesol Llywodraeth Cymru, a chan weithio ar y cyd â’r Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dywedodd Mr Dewi Day, Ymgynghorydd Cynaliadwyedd yn y Brifysgol, “Diolch i’n gwaith gyda Chyngor Sir Ceredigion, mae’r ddarpariaeth parcio beiciau wedi gwella ac mae’r gorsafoedd newydd hyn i e-feiciau yn ychwanegu’n wych at gyfleusterau ein campws. Gall beicwyr naill ai dynnu’r batri o’u beic a’i osod i wefru yn ddiogel y tu mewn i’r orsaf neu gallan nhw gysylltu’r beic a’r orsaf a rhedeg y cebl gwefru i’r batri ar y beic.”
Y nod yw annog rhagor o bobl i ‘deithio’n llesol’ ac os yw’r gorsafoedd hyn yn llwyddiannus, bwriad Cyngor Sir Ceredigion yw cyflwyno rhagor ohonynt yn y dyfodol.
Ymwelwch â www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/teithio-llesol/ am ragor o wybodaeth ar Deithio Llesol.