Caniatâd cynllunio i adnewyddu’r Hen Goleg
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo cynlluniau Prifysgol Aberystwyth i drawsnewid adeilad iconig yr Hen Goleg, a agorodd ei ddrysau yn 1872 ac a fu’n gartref cyntaf i Brifysgol Cymru. Llun: Keith Morris
19 Mehefin 2019
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo cais Prifysgol Aberystwyth am ganiatâd cynllunio i adnewyddu adeilad rhestredig Gradd 1 yr Hen Goleg.
Bydd y prosiect i ddod â bywyd newydd i’r Hen Goleg yn darparu cyfleusterau diwylliannol, dysgu a menter newydd at ddefnydd y Brifysgol, y gymuned leol a’r rhanbarth yn ehangach.
Cafodd y cynlluniau ar gyfer y prosiect £26.2 miliwn eu cymeradwyo gan aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Ceredigion yn eu cyfarfod ddydd Mercher 12 Mehefin 2019.
Mae’r cynigion yn cynnwys gofod ar gyfer celf ac arddangosfeydd eraill, cerddoriaeth a pherfformiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau gwyddonol, cyfleusterau cynadledda a thrafod, ystafelloedd dysgu ar gyfer iaith a dysgu gydol oes, ystafelloedd cymunedol a gofod astudio 24 awr i fyfyrwyr.
Caiff yr Hen Lyfrgell â’i phaneli pren godidog ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau a gwyliau yn ogystal â digwyddiadau preifat a chymunedol, gyda’r lloriau uchaf yn cynnig llety o safon uchel mewn 30 ystafell.
Mae elfennau eraill yr ailddatblygiad yn cynnwys 12 o unedau busnes newydd ar gyfer y sector technolegau creadigol, gyda chefnogaeth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Bydd yr ailddatblygiad arfaethedig yn sbarduno adfywiad economaidd, gan greu hyd at 40 o swyddi newydd a denu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Bydd hefyd yn diogelu dyfodol ac yn gwarchod treftadaeth y ddau dŷ Sioraidd drws nesaf i’r Hen Goleg.
Bydd y ddau dŷ yn ffurfio mynedfa newydd i’r Hen Goleg, gan ddod ag ymwelwyr i mewn i atriwm chwe llawr o uchder fydd yn hwyluso mynediad ar ffurf lifft a grisiau cyfoes i loriau’r Hen Goleg, gan gynnwys ystafell ddigwyddiadau newydd gyda golygfeydd arbennig dros Fae Ceredigion.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Fel man geni Prifysgol Cymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’r Hen Goleg yn un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru. Mae’n cynigion ni yn cadw pensaernïaeth ragorol ac arwyddocâd hanesyddol yr adeilad tra’n ailgyflunio’i bwrpas ar gyfer cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ymateb i’n hymgynghoriad, i Gyngor Ceredigion am gefnogi ein gweledigaeth ac i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ganiatau i ni ddatblygu’n cynlluniau uchelgeisiol mewn manylder.”
Cafodd y prosiect Bywyd Newydd i’r Hen Goleg gyllid datblygu rownd un o £850,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ym mis Gorffennaf 2017, ac mae disgwyl penderfyniad ar y grant llawn o £10.5m cyn diwedd 2019.
Wedi’i ddatblygu gan dîm o benseiri treftadaeth ac ymgynghorwyr cynllunio busnes a datblygu cynulleidfaoedd profiadol, bydd y cynigion manwl i adnewyddu’r Hen Goleg yn costio cyfanswm o £26.2m ac yn sicrhau dyfodol bywiog i’r adeilad.
Cyllid allanol fydd y brif ffynhonnell ariannol, gan gynnwys grantiau gan sefydliadau ac ymddiriedolaethau yn ogystal ag apêl cyhoeddus i godi arian a chyllido costau’n rhannol trwy raglen fuddsoddi cyfalaf y Brifysgol.
Y bwriad yw ailagor yr adeilad yn y flwyddyn academaidd 2022-2023 pan fydd y Brifysgol yn dathlu ei 150 mlwyddiant.