Ymchwil defaid brîd prin ym Mhwllpeiran

Rhai o’r defaid Soay sy’n pori ar dir Canolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran, Prifysgol Aberystwyth.

Rhai o’r defaid Soay sy’n pori ar dir Canolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran, Prifysgol Aberystwyth.

12 Mehefin 2019

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi bod ar ymweliad â Hiort ar Ynysoedd Allanol Heledd fel rhan o’u hastudiaeth newydd ar arferion bwydo brîd hynafol a phrin o ddefaid gwyllt.

Mae Dr Mariecia Fraser a Hannah Vallin o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn edrych ar ddiet defaid Soay i ddarganfod pam fod rhai yn llwyddo i oroesi yn y gwyllt ac eraill ddim.

Trwy gael gwell dealltwriaeth o'r hyn mae'r anifeiliaid yn ei fwyta, maen nhw’n gobeithio dysgu gwersi a allai fod o fudd wrth fwydo diadelloedd dof.

Cam arall yw’r astudiaeth hwn mewn prosiect hirdymor ar ddefaid Soay a ddechreuodd nôl ym 1985 ac sy’n cael ei reoli ar hyn o bryd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban.

Ers i'r trigolion olaf adael yn y 1930au, mae defaid gwyllt Soay wedi cael crwydro’n rhydd ar ynysoedd Hiort. Bu’r tîm o Aberystwyth ar ymweliad â’r ynys ym mis Mai 2019.

Yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle Treftadaeth y Byd, mae’r ynysoedd 40 milltir i'r gorllewin o Ynysoedd Allanol Heledd yn y rhan fwyaf anghysbell o Ynysoedd Prydain.

 

Dywedodd Dr Mariecia Fraser, sy’n Ddarllenydd mewn Agroecosystemau’r Ucheldir yng Nghanolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran Prifysgol Aberystwyth: “Mae defaid Soay ar ynysoedd Hiort yn rhan o ecosystem unigryw. Nid oes ganddynt ysglyfaethwyr a chan nad ydynt yn cael eu rheoli, nid ydynt yn cael unrhyw fwydydd atodol nac ymyriadau eraill. Mae'r anifeiliaid hyn yn cynnig cyfle unigryw felly i ymchwilwyr ddysgu o systemau naturiol a rhoi’r gwersi hynny ar waith yn ehangach. Fel rhan o'n hymchwil ym Mhwllpeiran, rydym wedi creu diadell ymchwil fach o 15 o ddefaid Soay o heidiau tir mawr sy'n gallu olrhain eu llinach yn ôl i'r ynysoedd.”

“Gan ddefnyddio samplau ysgarthion a gasglwyd ar St Kilda, rydym yn astudio DNA planhigion sydd wedi'u llyncu ac yn datblygu dull newydd o nodi'n union beth mae'r defaid yn ei fwyta. Gan weithio gyda gwyddonwyr mewn sefydliadau cydweithredol, byddwn yn defnyddio'n canfyddiadau i gael gwell dealltwriaeth o'r berthynas rhwng diet, microbioleg y perfedd, beichiau parasitiaid a goroesi. Gall y wybodaeth fod o fudd i ffermwyr yr ucheldir yng Nghymru a thu hwnt.”

Mae'r prosiect ymchwil 5 mlynedd, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Caeredin, yn cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban.

Taith Maes Kilda

Hannah Vallin yw'r cynorthwyydd ymchwil a benodwyd i'r prosiect newydd ym Mhwllpeiran. Mae gan Hannah brofiad blaenorol o fywyd ar yr ynys ar ôl treulio tair wythnos ar Hiort yn ystod Awst 2018 yn casglu samplau DNA ac yn helpu hel cymaint o ddefaid Soay â phosib er mwyn i’r tîm prosiect allu monitro eu pwysau a'u cyflwr.“Drwy ddal, tagio a chofnodi cymaint o ddefaid â phosibl, mae'r tîm ymchwil wedi gallu dilyn anifieiliad unigol trwy wyna a’r tymor bridio, gan adeiladu cronfa ddata o'r boblogaeth ddefaid dros y 33 mlynedd diwethaf,” meddai Hannah.

“Mae mesuriadau fel hyd y coesau, y math o gorn, lliw'r got, cyflwr dannedd a phwysau i gyd yn cael eu cofnodi, ynghyd â sampl carthion a gwaed ar gyfer pob dafaid. Yn ogystal â hyn, mae cyfrifiad ar gyfer poblogaeth yr ynys gyfan yn cael ei gynnal bob blwyddyn.”

Mae Hannah wedi ysgrifennu blog am ei thaith yn 2018.