Penodi Dirprwy Ganghellor ac aelodau newydd o Gyngor y Brifysgol
Bydd yr Athro y Fonesig Elan Closs Stephens yn ymgymryd â’i dyletswyddau fel Dirprwy Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth mis Ionawr 2020
26 Mehefin 2019
Mae’r Athro y Fonesig Elan Closs Stephens wedi’i phenodi yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Yn raddedig o Goleg Somerville, Prifysgol Rhydychen, mae’r Fonesig Stephens yn Athro Emeritws mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn gyn bennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
Ar hyn o bryd, mae’n aelod o Fwrdd y BBC dros Gymru ac yn Gomisiynydd Etholiadol Cymru.
Bydd yr Athro Stephens yn ymgymryd â’i dyletswyddau fel Dirprwy Ganghellor ym mis Ionawr 2020, gan olynu Gwerfyl Pierce Jones sy’n dod i ddiwedd ei chyfnod ym mis Rhagfyr 2019.
Mae rôl anrhydeddus y Dirprwy Ganghellor yn canolbwyntio ar ddyletswyddau llysgenhadol a seremonïol, gan gynnwys llywyddu seremonïau graddio blynyddol y Brifysgol.
Dywedodd Canghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd: “Mae'n bleser gennyf gadarnhau penodiad Elan Closs Stephens yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Mae gan Elan gyfoeth o brofiad nid yn unig ym maes addysg uwch a’r diwydiannau creadigol ond hefyd gweinyddiaeth gyhoeddus a llywodraethant ar y lefel uchaf.”
Ganed yr Athro y Fonesig Stephens yn Nyffryn Nantlle, ac mae wedi arbenigo mewn polisi rheoleiddio diwylliannol a darlledu, gan gadeirio Adolygiad Stephens i Gyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal â gwasanaethu fel Cadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, Llywodraethwr Sefydliad Ffilm Prydain a Chadeirydd S4C.
Bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol Uwch Fwrdd Ysgrifennydd Parhaol Cymru a bu’n gadeirydd ar y Pwyllgor Archwilio a Risg rhwng 2008-18. Bu hefyd yn gadeirydd Bwrdd Adfer ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.
Yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, dyfarnwyd CBE i’r Athro y Fonesig Stephens yn 2001 am wasanaethau i ddarlledu a’r iaith Gymraeg, a chafodd ei gwneud yn Fonesig yn 2019 am eu gwasanaeth i Lywodraeth Cymru ac i ddarlledu.
Gwasanaethodd hefyd fel Uwch Siryf siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion rhwng 2012-13.
Aelodau Newydd y Cyngor
Mae’r Brifysgol hefyd wedi penodi dau aelod newydd i’r Cyngor.
Bydd Meri Huws a Fiona Sharp yn mynychu eu cyfarfod cyntaf o’r corff llywodraethu ddiwedd Mehefin 2019 gan wasanaethu am gyfnod cychwynnol o dair blynedd.
Meri Huws oedd Comisiynydd y Gymraeg o 2012 tan 2019, ac mae’n gyn Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Fe’i penodwyd yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg ym mis Ebrill 2019, ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio oddi mewn i gyrff cyhoeddus gan gynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Gofal Cymru.
Mae Fiona Sharp yn gyn Gyfarwyddwr Cyllid Grŵp Chime Communications, sy’n gweithio’n rhyngwladol ym maes cyfathrebu a marchnata chwaraeon. Bu’n aelod o Bwyllgor Archwilio Risg a Sicrwydd y Brifysgol ers 2018.
Wrth groesawu’r penodiadau, dywedodd Cadeirydd Cyngor y Brifysgol Dr Emyr Roberts: “Mae’r penodiadau hyn yn dod â thoreth o brofiad ac arbenigedd at y bwrdd. Maen nhw hefyd yn golygu bod gennym am y tro cyntaf nifer cyfartal o ddynion a menywod ar y Cyngor. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Fiona, Meri a’r Cyngor cyfan er budd parhaol y Brifysgol hanesyddol hon.”