Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos Roboteg
Cynhelir Wythnos Roboteg Aberystwyth rhwng 24 a 29 Mehefin 2019 a’r uchabwynt fydd Labordy’r Traeth ar y Bandstand yn Aberystwyth, gyda llu o robotiaid o bob lliw a llun.
20 Mehefin 2019
Mae gwahoddiad i ddarpar ddyfeisiwyr a pheirianwyr robot o bob oed i gymryd rhan yn Wythnos Roboteg Aberystwyth sy’n cael ei chynnal o 24-29 Mehefin 2019.
Adran Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth sy’n trefnu’r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau, a hynny fel rhan o Wythnos Roboteg y DU.
Bydd cystadleuaeth Gemau Olympaidd y Robotiaid i ysgolion a sesiynau adeiladu robotiaid i’r teulu cyfan yn Amgueddfa Ceredigion.
A bydd dangosiad o’r ffilm ddrama-gomedi ffuglen wyddonol Robot & Frank yn sinema Canolfan y Celfyddydau, gyda thrafodaeth i ddilyn ar ddefnydd robotiaid mewn gofal iechyd.
Daw’r wythnos i fwcl gyda Labordy’r Traeth yn y Bandstand yn Aberystwyth ac ymweliad gan sioe deithiol Innovation In Motion fydd yn cynnwys cyfle i roi tri ar eu cynnyrch mwyaf arloesol.
Bydd prosiect Creu ar y Cyd Cymru yn y Bandstand hefyd yn annog pobl i dynnu llun o’r hyn maent yn ei weld er mwyn creu map o Gymru.
Dywedodd Cydlynydd yr Wythnos Roboteg Dr Patricia Shaw o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn ein bod yn cynnal wythnos llawn digwyddiadau eleni eto, gyda’r Labordy Traeth hynod boblogaidd ar y Bandstand yn benllanw ar y gweithgareddau. Mae robotiaid a deallusrwydd artiffisial yn rhan gynyddol o’n bywydau bob dydd, ac mae’r wythnos roboteg yn gyfle i bobl o bob oed ddysgu a deall sut mae’r dechnoleg yn gweithio. A’r ffordd gorau o wneud hynny yw rhoi cynnig ar chwarae gyda’r dechnoleg ac adeiladu robot eich hun. Dewch draw i brofi hyn eich hunain – rydym yn edrych ymlaen at eich gweld.”
Fel rhan o weithgareddau’r wythnos, mae disgyblion ysgolion lleol wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn cystadleuaeth stori fer ac ysgrifennu hyd at 400 gair ar ‘Byw yn y dyfodol gyda robotiaid’, ‘Antur gyda robot’ neu ‘Mae fy ffrind yn robot’.
Mae cystadleuaeth dylunio poster hefyd ar gyfer disgyblion ysgol a hynny ar un o’r themâu canlynol: ‘Robot allanol’, ‘Robot gofod’ neu ‘Robot cydymaith’.
Gellid ebostio ceisiadau munud olaf at roboticsweek@aber.ac.uk erbyn dydd Gwener 21 Mehefin 2019.
Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener 28 Mehefin, a’r gwobrau’n cael eu rhoi yn Labordy’r Traeth ddydd Sadwrn 29 Mehefin 2019.
Rhaglen Wythnos Roboteg Aberystwyth 2019
- Dydd Llun 24 Mehefin, Amgueddfa Ceredigion
Gemau Olympaidd y Robotiaid
Cystadleuaeth i dimau o ysgolion cynradd lleol i adeiladu robot i gymryd rhan
mewn cyfres o heriau i robotiaid. - Dydd Mawrth 25 Mehefin, 16:00 – 18:00, Amgueddfa Ceredigion
Crefft Robot
Cyfle i greu robot eich hun o ba bynnag rannau y gallwch ddod o hyd iddynt o’r domen o bapur, beiros a darnau amrywiol o ddeunyddiau. Pris: £1 i bob robot.
- Dydd Mercher 26 Mehefin, 17:00 – 21:00, Sinema Canolfan y Celfyddydau
O Ffuglen i Realiti
Dangosiad o’r ffilm ddrama-gomedi ffuglen wyddonol Robot & Frank, a thrafodaeth i ddilyn ar ddefnydd robotiaid mewn gofal iechyd a materion sy’n ymwneud â chael robot yn ffrind. Tocynnau ar gael o Ganolfan y Celfyddydau. - Dydd Iau 27 Mehefin, 16:00 – 18:00, Amgueddfa Ceredigion
Crefft Robot
Cyfle i greu robot eich hun o ba bynnag rannau y gallwch ddod o hyd iddynt o’r domen o bapur, beiros a darnau amrywiol o ddeunyddiau. Pris: £1 i bob robot
- Dydd Sadwrn 29 Mehefin, 10:00 – 16:00, Bandstand Aberystwyth
Labordy’r Traeth
Diwrnod ar y traeth gyda robotiaid yng nghwmni aelodau Clwb Robotiaid Aberystwyth, ac ymweliadau gan Innovation In Motion a Phrosiect Creu ar y Cyd.