Teyrngedau i gyn Is-Ganghellor

Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberstwyth rhwng 2004 a 2011

Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberstwyth rhwng 2004 a 2011

10 Mehefin 2019

Mae teyrngedau wedi eu talu i’r Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a farw yn 72 oed.

Dechreuodd yr Athro Lloyd ar ei yrfa academaidd yng Nghaergrawnt lle bu’n astudio Mathemateg. Yno aeth ymlaen i gwblhau ei ddoethuriaeth ac i fod yn Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan. Dadansoddi Aflinol a Systemau Dynamegol oedd ei ddiddordebau ymchwil.

Cyn ei benodi fel Is-Ganghellor yn 2004, gwasanaethodd yr Athro Lloyd y Brifysgol fel Cofrestrydd ac Ysgrifennydd, Dirprwy Is-Ganghellor, Deon y Gwyddorau a Phennaeth yr Adran Fathemateg.

Yn ystod ei gyfnod fel Is-Ganghellor bu’n Gadeirydd Addysg Uwch Cymru (Prifysgolion Cymru) ac yn Is-Lywydd Universities UK.

Gwasanaethodd hefyd ar fwrdd UCEA (Universities and Colleges Employers Association) gan gadeirio’r pwyllgor Iechyd a Diogelwch, ac ar fwrdd y QAA (yr Asiantaeth Sicrwydd Safon), gan gadeirio’r Pwyllgor Trwyddedu a Chydnabod Mynediad.

Yn 2010 derbyniodd y CBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei wasanaeth i Addysg Uwch yng Nghymru.

Daeth cydnabyddiaeth bellach i’w ran yn 2011 pan gafodd ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yna yn 2012 pan gafodd ei  urddo’n aelod o’r Orsedd.

Roedd hefyd yn organydd medrus, ac yn gymrawd Coleg Cerdd y Drindod, Llundain.

Wedi ei ymddeoliad yn 2011 ymgymerodd â heriau newydd.

Daeth yn aelod annibynnol o Gomisiwn Silk a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i edrych ar ddyfodol datganoli yng Nghymru. Gwasanaethodd hefyd ar y Comisiwn Penodiadau Barnwrol gan ddod yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, a bu’n Gadeirydd Masnach Deg Cymru rhwng 2011 a 2017.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure: “Gwnaeth yr Athro Lloyd gyfraniad aruthrol i addysg uwch, nid yn unig fel ein Is-Ganghellor am saith mlynedd ond fel Mathemategydd o fri. Roedd yn ŵr hynod egwyddorol, deallus, trugarog a diflino ei gyfraniad, ac mae’n gadael bwlch mawr ar ei ôl.”

“Mae teyrngedau o bell ag agos yn sôn am ei ddeallusrwydd, ei onestrwydd, a’i ddoethineb, ei wyleidd-dra, ei haelioni a’i ofal dros eraill.”

“Ar nodyn personol, rwy’n cofio am weithio gydag academydd caredig, ystyriol a oedd yn arddel y gwerthoedd moesol uchaf yn ystod fy nghyfnod yng Nghaerdydd. Yn ddiweddarach fe’m croesawodd yn gynnes yma i’r Brifysgol, a fu’n gymaint yn rhan o’i fywyd. Yn syml, roedd yn wyddonydd disglair a gyfranodd gymaint at fywyd cyhoeddus.”

“Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei wraig Dilys a’i deulu.”