Ethol academyddion o Aberystwyth yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru
01 Mai 2019
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi pum academydd o Brifysgol Aberystwyth ymhlith ei Chymrodyr etholedig newydd.
Rhaglen profiad gwaith prifysgolion yn cyrraedd ei 1,000fed myfyriwr
01 Mai 2019
Mae rhaglen profiad gwaith ar gyfer myfyrwyr israddedig ifanc llawn amser o gefndiroedd llai breintiedig wedi recriwtio ei 1,000fed myfyriwr, lai na thair blynedd ar ôl ei lansio.
Targedau allyriadau carbon newydd i arwain at newidiadau sylweddol i amaeth yn ôl academydd o Aberystwyth
02 Mai 2019
Mi fydd targed newydd uchelgeisiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i zero erbyn 2050 yn arwain at newidiadau sylweddol mewn amaethyddiaeth yn ystod y degawdau nesaf, yn ôl arbenigwr blaenllaw mewn amaeth-amgylchedd.
Ffurf a chryfder gwely’r môr yn cyflymu cwymp llenni iâ
03 Mai 2019
Mae gwyddonwyr wedi taflu goleuni newydd ar gwymp rhewlifoedd yn yr Antarctica a’r Ynys Las trwy astudio hanes y llen iâ Brydeinig-Wyddelig olaf.
Cydnabyddiaeth Ewropeaidd i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
08 Mai 2019
Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu llwyddiant dwbl yng nghynllun Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie yr Undeb Ewropeaidd.
Gwaith yn dechrau ar ganolfan ymchwil filfeddygol newydd
09 Mai 2019
Mae gwaith wedi dechrau ar ganolfan filfeddygol newydd £4.2m a fydd yn gyrru ymchwil i ddiogelu iechyd dynol ac anifeiliaid.
Gweinidog Llywodraeth Cymru yn nodi canmlwyddiant Gwleidyddiaeth Ryngwladol
09 Mai 2019
Mewn araith allweddol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 10 Mai 2019, bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer cyfeiriad cysylltiadau rhyngwladol Cymru yn y dyfodol.
Glo oedd gorffennol Cymru ond mae'i dyfodol mewn ffermio carbon
10 Mai 2019
Cyhoeddwyd yr erthygl hon gan yr Athro Iain Donnison a Dr Judith Thornton, ill dau o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth, yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation.
Ben Lake yn trafod Brexit o’r meinciau cefn
13 Mai 2019
Bydd Aelod Seneddol ieuengaf Cymru, Ben Lake yn trafod Brexit a’i rôl fel meinciwr cefn yn San Steffan mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 16 Mai 2019.
Cyfreithiwr blaenllaw i arwain yr adran gyfraith gyntaf i’w sefydlu yng Nghymru
15 Mai 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi penodiad y cyfreithiwr blaenllaw, Emyr Lewis, fel Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg.
Brasluniau, mapiau a delwau gothig yn datgloi cyfrinachau cerdd enwog John Keats ‘La Belle Dame Sans Merci’
16 Mai 2019
Mae gwaith newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn awgrymu bod dwy ddelw yn y dull gothig sydd yn dal dwylo yn Eglwys Gadeiriol Chichester a amlygwyd gan gerdd Philip Larkin ‘An Arundel Tomb’ hefyd wedi ysbrydoli myfyrdodau John Keats ar gariad angerddol, ‘La Belle Dame Sans Merci’.
Prifysgol Aberystwyth yng Ngŵyl y Gelli
17 Mai 2019
Bydd cyfres o ddarlithoedd yn amlygu rhai o’r heriau byd-eang sy’n destun ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o Ŵyl y Gelli eleni.
Penodi datblygwr i adnewyddu Pantycelyn
24 Mai 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi’r cwmni adeiladu Morgan Sindall i adnewyddu’r neuadd breswyl Gymraeg hanesyddol Neuadd Pantycelyn.
Prifysgol Aber ar faes Eisteddfod yr Urdd
28 Mai 2019
Wrth i filoedd o bobl ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 yr wythnos, mae Prifysgol Aberystwyth yno hefyd i gefnogi gŵyl ieuenctid fwyaf Cymru.