Cydnabyddiaeth Ewropeaidd i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Chwith i’r dde: Dr Peadar Ó Muircheartaigh, Dr Esther Le Mair a Dr Simon Rodway o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.

Chwith i’r dde: Dr Peadar Ó Muircheartaigh, Dr Esther Le Mair a Dr Simon Rodway o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.

08 Mai 2019

Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu llwyddiant dwbl yng nghynllun Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie yr Undeb Ewropeaidd.

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie i Dr Esther Le Mair a fydd yn gweithio ar ieithyddiaeth hanesyddol y Gymraeg a’r Wyddeleg, yn benodol natur y goddrych mewn Hen Wyddeleg, gyda Dr Simon Rodway.

Mi fydd Dr Le Mair yn gweithio yn yr Adran am gyfnod o ddwy flynedd o fis Hydref 2019.

Mae Dr Le Mair yn arbenigwr ar forffoleg a chystrawen eiriol yr Hen Wyddeleg ac yn raddedig o Brifysgol Utrecht yn yr Iseldiroedd a Phrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway lle y cwblhaodd ei doethuriaeth.

Bu hefyd yn gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ar brosiect y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd ym Mhrifysgol Ghent, Gwlad Belg.

Mae Dr Peadar Ó Muircheartaigh, Darlithydd mewn Astudiaethau Celtaidd, hefyd wedi derbyn Cymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie ar gyfer secondiad dwy flynedd i Athrofa Arnamagnæan ym Mhrifysgol Copenhagen.

Bydd prosiect Dr Ó Muircheartaigh, ‘An Icelander among the Gaels’, yn dechrau yn 2020 a bydd yn gweithio ar gorpws o lawysgrifau pwysig yn yr Aeleg a gasglwyd gan yr ysgolhaig a’r hynafiaethwr o’r 18fed ganrif Grimur Thorkelin, sydd yn adnabyddus am ‘ddarganfod’ Beowulf.

Mae cystadleuaeth Cymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie yn denu dros 9,000 o geisiadau’r flwyddyn, â 12.5% ohonynt yn llwyddiannus.

Dywedodd Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r dyfarniadau Ewropeaidd yma yn adlewyrchu statws rhyngwladol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fel canolfan o ragoriaeth ymchwil ac yn tanlinellu’r cysylltiadau sydd gennym â phartneriaid yn Ewrop mewn cyfnod hollbwysig i gydweithredu deallusol rhyngwladol.”

Dywedodd Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn hynod falch ar ran Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar berfformiad rhagorol yng nghystadleuaeth Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn, a chroesawu mwy o Gymrodyr Marie Skłodowska-Curie i weithio ar y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth.”

Anogir ysgolheigion sydd â diddordeb mewn gwneud cais am Gymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd i gysylltu â’r Adran.