Gwaith yn dechrau ar ganolfan ymchwil filfeddygol newydd
Nodi dechrau’r gwaith ar Ganolfan a Labordai Milfeddygol1 a fydd yn llawn weithredol erbyn gwanwyn 2020
09 Mai 2019
Mae gwaith wedi dechrau ar ganolfan filfeddygol newydd £4.2m a fydd yn gyrru ymchwil i ddiogelu iechyd dynol ac anifeiliaid.
Prifysgol Aberystwyth sy’n arwain prosiect Canolfan a Labordai Milfeddygol1, gyda chefnogaeth ariannol o £3 miliwn gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn darparu labordai a gofod swyddfa o’r safon uchaf.
Bydd ymchwilwyr yn y ganolfan yn cydweithio â diwydiant i ddatblygu profion a brechlynnau a fydd yn helpu i leihau colledion yn y diwydiant da byw a gwella iechyd anifeiliaid.
Yn benodol, bydd yr ymchwilwyr yn mynd ati i ddatblygu atebion ar gyfer clefydau a gludir gan anifeiliaid a allai drosglwyddo i bobl.
Hefyd, bydd y cyfleuster yn arwain datblygiadau pellach ym maes gofal iechyd anifeiliaid ac ymarfer milfeddygol yn ogystal â biodechnoleg, cynhyrchu bwyd anifeiliaid a diwydiannau cysylltiedig eraill.
Wedi ei lleoli yn adeilad Carwyn James ar gampws Penglais y Brifysgol, mae disgwyl i’r ganolfan fod yn llawn weithredol erbyn gwanwyn 2020, ac mae’r gwaith paratoadol eisoes ar droed.
Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n hyfryd i weld y gwaith yn dechrau ar y datblygiad hwn. Mae gan Brifysgolion gyfraniad pwysig yn y gwaith o ddatblygu ymchwil sy’n cael effaith ar y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Bydd Canolfan a Labordai Milfeddygol1 yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r economi wledig ac i’r diwydiant da byw yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r adnodd hefyd yn gam arall ymlaen yn natblygiad Aberystwyth fel canolfan o arbenigedd milfeddygol a gofal iechyd anifeiliaid yn ogystal â biodechnoleg.”
Yn ogystal â chyllid Cronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop, mae Prifysgol Aberystwyth wedi sicrhau buddsoddiad pellach o £650,000 gan CIEL (Canolfan Rhagoriaeth ar gyfer Arloesedd ym maes Da Byw) drwy gyllid gan Innovate UK ar gyfer adnodd gwyddor anifeiliaid i weithio ochr yn ochr â Chanolfan a Labordai Milfeddygol1.
Mae’r Brifysgol yn un o 12 sefydliad ymchwil elît o fewn fframwaith CIEL ledled y DU sy’n gweithredu fel porth at sefydliadau ymchwil safon byd i ddatblygu atebion newydd i ddiwydiant mewn partneriaeth â rhwydwaith o 50 o gwmnïau masnachol.
Trwy gydweithio â CIEL bydd y bartneriaeth fasnachol o fewn Canolfan a Labordai Milfeddygol1 yn cryfhau ac yn sicrhau ei bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddod â chynhyrchion newydd i’r farchnad.
Am y newyddion diweddaraf ar gynllun Canolfan a Labordai Milfeddygol1, dilynwch gyfri twitter newydd y prosiect @VetHub1, sydd wedi’i lansio ddydd Iau 9 Mai i nodi Diwrnod Ewrop.