Penodi datblygwr i adnewyddu Pantycelyn

Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth (4ydd o’r dde), Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn (5ed o’r dde) a Gerallt Evans (3ydd o’r dde) o Morgan Sindall, ynghyd â myfyrwyr a cynrychiolwyr o’r Brifysgol a Morgan Sindall, yn nodi dyfarnu’r cytundeb i adnewyddu Pantycelyn i’r cwmni adeiladu.

Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth (4ydd o’r dde), Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn (5ed o’r dde) a Gerallt Evans (3ydd o’r dde) o Morgan Sindall, ynghyd â myfyrwyr a cynrychiolwyr o’r Brifysgol a Morgan Sindall, yn nodi dyfarnu’r cytundeb i adnewyddu Pantycelyn i’r cwmni adeiladu.

24 Mai 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi’r cwmni adeiladu Morgan Sindall i adnewyddu’r neuadd breswyl Gymraeg hanesyddol Neuadd Pantycelyn.

Bydd y prosiect uchelgeisiol i drawsnewid Neuadd Pantycelyn yn cynnig llety cyfoes en-suite o’r radd flaenaf i hyd at 200 o fyfyrwyr.

Yn ogystal, bydd yr adeilad Gradd 2 agorwyd am y tro cyntaf ym 1951, yn darparu swyddfeydd i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, ffreutur a gofod cymdeithasol deniadol ar gyfer myfyrwyr, staff a’r gymuned leol.

Bydd y prif waith adeiladu ar y cynllun £16.5m yn dechrau ar 3 Mehefin 2019 a bydd y myfyrwyr cyntaf yn symud i’r neuadd ar ei newydd wedd ym Medi 2020.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Morgan Sindall ar brosiect adnewyddu Pantycelyn, ac i weld y Neuadd, sydd wedi bod yn ganolbwynt i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yma ym Mhrifysgol Aberystwyth am bron i hanner canrif, yn croesawu to newydd o breswylwyr. Mae’r prosiect hwn yn fuddsoddiad yn nyfodol myfyrwyr Cymraeg am genedlaethau i ddod ac yn ychwanegiad unigryw i’r portffolio rhagorol o lety myfyrwyr rydym yn ei gynnig yma yn Aberystwyth. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth i’r prosiect, a fydd yn gaffaeliad pellach i’r profiad myfyrwyr rhagorol yma yn Aberystwyth.”

Nodwyd dyfarnu’r cytundeb i Morgan Sindall mewn digwyddiad ym Mhantycelyn ddydd Gwener 24 Mai 2019.

Dywedodd Rob Williams, Cyfarwyddwr Adeiladu Ardal gyda Morgan Sindall: “Rydym yn eithriadol falch ein bod yn gweithio gyda’r Brifysgol fel ei phartner adeiladu ar brosiect o’r bri hwn. Mae arwyddocad hanesyddol Pantycelyn, a’i rhan yn meithrin cenedlaethau o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith i’r dyfodol, yn amlwg i bawb. Byddwn yn gweithio yn agos ac yn fanwl iawn i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau mewn modd sydd yn gweddu ac mewn pryd ar gyfer ail agor y Neuadd yn 2020.”

Mae’r prosiect wedi derbyn £5m oddi wrth Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif.

Dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams: “Mae'n anghyffredin gallu disgrifio neuaddau preswyl myfyrwyr fel un eiconig’ - ond dyna’n union yw Neuadd Pantycelyn. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi'r gwaith hwn gyda £5m o gyllid, a fydd yn gymorth i foderneiddio'r neuadd fel ei bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac a fydd yn cefnogi ymgysylltiad dinesig a chymunedol cryfach fyth.”

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn: ”Dyma’r cam mwyaf arwyddocaol eto yn ein hymdrech i ailagor drysau Pantycelyn, a sicrhau y bydd yr adeilad ysblennydd hwn yn ganolbwynt unwaith eto i fwrlwm y gymdeithas Gymraeg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio’n ddiarbed i gyrraedd y garreg filltir hon a dymuno’n dda i gwmni Morgan Sindall wrth iddynt gychwyn ar y gwaith.”

Dywedodd Anna Wyn Jones, Llywydd UMCA - Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth: “Mae’r cynlluniau ar gyfer Neuadd Pantycelyn yn rhai cyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith adeiladu’n dechrau a’r myfyrwyr yn symud i mewn ym mis Medi 2020. Mi fydd yn braf iawn gweld Pantycelyn unwaith eto yn galon i weithgareddau UMCA, Y Geltaidd, Aelwyd Pantycelyn a chymuned ddeniamig myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.”