Ffurf a chryfder gwely’r môr yn cyflymu cwymp llenni iâ
Yr Athro Geoff Duller, sydd wedi datblygu techneg ymoleuedd sydd wedi ei gwneud yn bosibl i ddyddio pryd yr enciliodd y llen iâ.
03 Mai 2019
Mae gwyddonwyr wedi taflu goleuni newydd ar gwymp rhewlifoedd yn yr Antarctica a’r Ynys Las trwy astudio hanes y llen iâ Brydeinig-Wyddelig olaf.
Mae tîm, sy’n cynnwys ymchwilwyr o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, wedi ailgreu ymddygiad ac astudio nodweddion ffisegol ffrwd iâ – rhewlif mawr cyflym – a doddodd dros 15,000 o flynyddoedd yn ôl.
Dan arweiniad Prifysgol Stirling, dadansoddwyd gwaddodion a thirffurfiau a adawyd gan y ffrwd iâ ar y tir ac o dan y dŵr.
Canolbwyntiodd yr ymchwilwyr ar hen Lif Iâ Minch, i’r gogledd-orllewin o’r Alban, a sylwi fod siap (lled a dyfnder) a chryfder (daeareg) gwely’r môr yn gyfrifol i raddau helaeth am y modd yr enciliodd y llen iâ a cholli iâ i’r môr.
Drwy ddefnyddio’r dulliau dyddio ymoleuedd diweddaraf, medrodd yr Athro Geoff Duller a’i dîm o Brifysgol Aberystwyth ddyddio enciliad y llen iâ.
Roedd hyn yn cynnwys mesur y golau a oedd yn deillio o ronynnau cwarts yn y gwaddodion a adawyd gan y rhewlif wrth iddo gilio.
Datblygwyd y dechneg arloesol o ddyddio drwy ddefnyddio ymoleuedd gan yr Athro Duller ac mae’n mesur golau sydd yn deillio o ronynnau tywod unigol drwy ddefnyddio pelydr laser.
Caiff miloedd o ronynnau unigol eu mesur a’r data’n cael ei hudlo er mwyn adnabod y rhai sydd yn cynnig y dyddiadau mwyaf cywir.
Mae astudiaethau eisoes wedi dangos effaith siap cafn mewn lleoliadau tebyg yn yr Antarctica; fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf i ddaeareg gael ei nodi fel ffactor i hwyluso enciliad ffrwd iâ.
Yn ôl yr arbenigwyr, bydd y canfyddiadau’n gymorth i ragweld tynged llenni iâ’r Ddaear – yn yr Antarctica ac ar yr Ynys Las – a chynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol mewn byd cynhesach.
Dywedodd y prif awdur, Dr Tom Bradwell o Gyfadran Gwyddorau Naturiol Stirling: “Gwnaethom ddefnyddio hen Lif Iâ Minch – sydd yn debyg i ffrydiau iâ’r Ynys Las a Gorllewin Antarctica o ran geometreg a daeareg – fel prawf o’r hyn sydd yn digwydd cyn, yn ystod, ac ar ôl cwymp silff iâ.
“Mae silffoedd iâ yn cynnal neu’n rheoleiddio llif yr iâ o ffrydiau iâ i’r môr. Er y gall silffoedd iâ ymddangos yn sefydlog, mae newidiadau bach yng nghyflymder y ffrydiau iâ – sydd wedi’i ysgogi gan newid daearegol gwaelodol neu gynnydd mewn dyfnder dŵr – yn gallu arwain at silffoedd iâ ansefydlog sy’n medru chwalu’n gyflym. Mae’r ymchwil newydd hwn yn nodi tystiolaeth o’r broses yn y gorffennol, rhywbeth sydd ar y gweill ar hyn o bryd mewn ardaloedd o’r Ynys Las a’r Antarctica.
“Mae ein hymchwil yn dangos bod tirwedd gwely’r môr lle mae ffrydiau iâ yn llifo drostynt – ei siap a’i gryfder gwahanol, o silff gyfandirol gymharol feddal i dir creigiog caled – yn gallu gyrru newidiadau mawr yn y modd y mae’r iâ yn encilio, a chyflymu’r broses o golli iâ i’r môr.
“Rydym yn argymhell bod lled, dyfnder a chryfder gwely llen iâ yn cael eu hystyried wrth arbrofi gyda modelai llenni iâ er mwyn rhagweld sut y bydd llenni iâ yn encilio yn y dyfodol, a’r cynnydd yn lefel y môr mewn byd cynhesach.
Dywedodd yr Athro Duller o Brifysgol Aberystwyth: “Dyma enghraifft allweddol o sut y gall dadansoddiadau labordy o ronynnau tywod unigol ddatgelu ymddygiad llenni iâ’r gorffennol, a’n cynorthwyo i ragweld newidiadau yn y dyfodol a allai effeithio ar ddynoliaeth.”
Mae’r papur a gyhoeddwyd ddydd Iau 25 Ebrill 2019 yn Science Advances yn rhan o brosiect ehangach BRITICE-CHRONO – sy’n cael ei arwain gan yr Athro Chris Clark o Brifysgol Sheffield – ac a ddefnyddiodd amryw o dechnegau dyddio a dulliau mapio digidol ar y tir ac yn y dŵr i ailgreu hanes dadrewlifiant y llen iâ Brydeinig-Wyddelig yn ei chyfanrwydd rhwng 30,000 a 15,000 mlynedd yn ôl.
Mae nentydd iâ yn ‘goridorau llif’ o fewn llen iâ sy'n symud dipyn cyflymach - hyd at 1,000 metr y flwyddyn - nar iâ o’i hamgylch. Maent rhwng 10km a 100km o led, ac yn gannoedd o gilomedrau o hyd. Maent yn cludo llawer iawn o iâ o'r tîr i'r môr ac yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r iâ sy'n gadael llen iâ.
Nododd tîm Dr Bradwell “newid sylweddol” yn ymddygiad llifoedd iâ o ddeutu 18,500 i 16,000 o flynyddoedd yn ôl - gyda chwymp silffoedd iâ yng Ngogledd Orllewin yr Alban ac yna enciliad cyflym o wyneb y rhew.
“Roedd y newid ymddygiad hwn yn anghydnaws â newid hinsawdd,” eglurodd Dr Bradwell. “Yn lle hynny, rydym yn ei briodoli i wahaniaethau yn nhirwedd gwely'r môr - yn bwysicaf oll lled a dyfnder cafn y llif iâ a newidiadau yn naeareg neu gryfder y gwely islaw. Mewn hinsawdd rewlifol, byddai'r ffactorau hyn wedi rheoli faint o iâ oedd yn cael ei golli i’r môr wrth i'r llen iâ encilio – gan, ar adegau penodol, achosi iddi gyflymu yn sgil cwymp y silff iâ a ffurfio mynyddoedd iâ.
“Mae effaith y ffactorau sylfaenol hyn ar enciliad y llen-iâ bron yn sicr o gynyddu mewn rhagolygon cynhesu byd-eang gwahanol.”
Roedd yr astudiaeth yn cynnwys mordaith wyddoniaeth 30 diwrnod a dau gyfnod o waith maes ar y tir. Mae'r tîm ymchwil yn cyfuno daearegwyr morol a daear, geogronolegwyr, rhewlifegwyr a modelwyr llenni iâ o nifer o brifysgolion Stirling, Sheffield, Durham, Lerpwl, Bangor, Aberystwyth, a Glasgow, yn ogystal â Chanolfan Ymchwil yr Amgylchedd Prifysgolion yr Alban, a’r British Geological Survey.
Cynhaliwyd prosiect BRITICE-CHRONO rhwng 2013 a 2018 ac fe'i hariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), rhan o UKRI (UK Research and Innovation).