Rhaglen profiad gwaith prifysgolion yn cyrraedd ei 1,000fed myfyriwr
Fel rhan o raglen GO Wales, fe wnaeth Daniel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ei brofiad gwaith yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
01 Mai 2019
Mae rhaglen profiad gwaith ar gyfer myfyrwyr israddedig ifanc llawn amser o gefndiroedd llai breintiedig wedi recriwtio ei 1,000fed myfyriwr, lai na thair blynedd ar ôl ei lansio.
Mae GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith yn rhaglen a arweinir gan brifysgolion sy’n cynnig cefnogaeth deilwredig i fyfyrwyr cymwys o dan 25 oed i gael y gorau o’u profiad gwaith a chynllunio eu camau nesaf. Mae’r rhaglen yn cynnig hyblygrwydd, o waith di-dâl am dridiau yn cysgodi i leoliad gwaith chwe wythnos gyda thâl.
Mae’r rhaglen ledled Cymru, sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, CCAUC a darparwyr addysg uwch, yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a mireinio eu sgiliau cyflogadwyedd fel eu bod yn y sefyllfa orau i sicrhau cyflogaeth, hyfforddiant neu addysg pan maent yn gadael eu cwrs.
O’r 1,000 o fyfyrwyr ar raglen GO Wales, daw 201 ohonyn nhw o Brifysgol Aberystwyth gan gynnwys Daniel, a fu ar brofiad gwaith yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn 2018.
“Mae cymryd rhan yn rhaglen GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith wedi gwneud i mi sylweddoli beth rydw i’n gallu ei wneud ac wedi rhoi rhywbeth i mi edrych ymlaen ato. Mae’r profiad wir wedi fy helpu i i ddatgan fy nodau a datblygu sgiliau newydd. Mae posib i chi ddarganfod talentau cudd nad oeddech chi’n gwybod oedd gennych chi. Fe wnes i wella fy sgiliau cyfathrebu, yn enwedig siarad gyda phobl ar lefel un i un,” dywedodd Daniel.
Dywedodd David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: “Mae’n gryn gamp bod y rhaglen eisoes wedi effeithio ar fil o fywydau a bod cymaint ohonyn nhw eisoes wedi elwa o’r cyfleoedd mae GO Wales wedi’u rhoi iddyn nhw. Nid dim ond rhaglen profiad gwaith ydi hon. Mae’r adborth wedi dangos ei bod yn effeithio ar sawl agwedd ar fywyd myfyriwr, gan feithrin eu hyder ac adeiladu eu sgiliau, yn ogystal â’u rhoi mewn sefyllfa waith. Rydyn ni’n gwybod bod prifysgolion yn mireinio sut maen nhw’n gweithio gyda myfyrwyr anodd eu cyrraedd drwy’r amser, ac rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n parhau i groesawu manteision y rhaglen yma er mwyn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau cymaint o fyfyrwyr â phosib yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”
Ethos y rhaglen yw helpu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau sy’n atal cael profiad gwaith drwy ddarparu profiad gwaith teilwredig a hyblyg gyda chyflogwyr, yn ogystal â chynnig cefnogaeth ariannol, gan gynnwys costau teithio, addasiadau rhesymol yn y gweithle a chostau gofal/gofal plant.
Mae’r rhaglen yn recriwtio myfyrwyr duon ac o leiafrifoedd ethnig; myfyrwyr anabl a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar waith; myfyrwyr gyda chyfrifoldebau gofalu neu unigolion sy’n gadael gofal; a myfyrwyr o ardaloedd gyda chyfraddau isel o ran cymryd rhan mewn addysg uwch.
Mae mwy na 400 o gyflogwyr o sectorau ar draws Cymru eisoes wedi cynnal profiad gwaith drwy’r rhaglen.