Targedau allyriadau carbon newydd i arwain at newidiadau sylweddol i amaeth yn ôl academydd o Aberystwyth
Yr Athro Iain Donnison
02 Mai 2019
Mi fydd targed newydd uchelgeisiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i zero erbyn 2050 yn arwain at newidiadau sylweddol mewn amaethyddiaeth yn ystod y degawdau nesaf, yn ôl arbenigwr blaenllaw mewn amaeth-amgylchedd.
Roedd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ymateb i adroddiad Net Zero: The UK’s contribution to stopping global warming sydd wedi ei gyhoeddi heddiw (ddydd Iau 2 Mai 2019) gan Bwyllgor Newid Hinsawdd Llywodraeth y DU.
Mae’r Athro Donnison yn arbenigwr ar amaethyddiaeth a defnydd tir, sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad o ran targedau i ddefnyddio’n un rhan o bump o dir amaethyddol ar gyfer coedwigaeth, cnydau bio-ynni ac adnewyddu tir mawn.
Yn ôl yr Athro Donnison mae lleihad o’r fath yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy yng Nghymru ac yn y DU yn ehangach. “Gall defnydd tir wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at gyrraedd targed net zero, ond mae heriau mewn perthynas ag allyriadau o amaethyddiaeth, ac yn benodol cig coch a llaeth,” dywedodd yr Athro Donnison.
“Yn IBERS rydym eisoes yn gweithio ar sut mae lleihau dwysedd carbon ffermio anifeiliaid a datblygu dewisiadau arallgyfeirio newydd ar gyfer ffermio carbon. Er enghraifft, gallai targed net zero gynnig cyfleoedd arallgyfeirio sylweddol i ffermwyr a diwydiannau sydd yn defnyddio biomass a choed i gynhyrchu ynni, deunyddiau ar gyfer adeiladu a buddion amgylcheddol eraill.”
Ychwanegodd yr Athro Donnison: “Mae neges yr adroddiad am bwysigrwydd y dasg a’r rhan y gallai’r DU chwarae er mwyn gwneud yn iawn am allyriadau yn y gorffennol a chwarae rhan arweiniol mewn creu dyfodol mwy gwyrdd.
“Dywed yr adroddiad taw ei nod yw ei seilio ar dechnolegau sydd eisoes yn bod ac a allant gael eu defnyddio a thargedau cyflawnadwy. Mae un rhan o bump o dir amaethyddol yn darged uchelgeisiol iawn ond rwyf o’r farn bod hyn yn gyflawnadwy drwy’r dulliau sydd yn cael eu cynnig yma (e.e. ar gyfer cnydiau bio-ynni, mae’n cydfynd gyda’r targedau a gyhoeddwyd ar gyfer y DU). Mae hyn wedi ei seilio ar y wybodaeth a’r dechnoleg sydd gennym nawr am sut mae gwneud hyn, ac oherwydd ein bod ar hyn o bryd yn y DU yn datblygu polisi amaeth sydd yn edrych tu hwnt i’r polisi amaeth cyffredin – y CAP. Er enghraifft, mae’r cynllun amgylcheddol 25 mlynedd a gyhoeddwyd gan Defra yn rhagweld taliadau ar gyfer nwyddau cyhoeddus allai ddarparu mecanwaith polisi i gynorthwyo i sicrhau gweithredu dulliau priodol yn y llefydd priodol.
“Er hynny, ni ddylid tan gyfri maint y newid, er i’r sector amaeth ymateb yn llwyddiannus yn y gorffennol i heriau megis cynyddu cynhyrchu bwyd. Yr her ychwanegol fydd sicrhau ein bod yn darparu’r holl fuddion yr ydym am eu gweld o’r tir: bwyd, carbon arholaeth nwyon tŷ gwydr a manteision amgylcheddol ehangach, tra’n rheoli her effeithiau newid hinsawdd.
“Gwneir y cysylltiad rhwng deiet iach a bwyta llai o gig coch a lleihau pellach o allyriadau nwyon tŷ gwydr o amaethyddiaeth yn y dyfodol. Golyga hyn fod amaethyddiaeth yn debygol o weld newid mawr yn ystod y degawdau sydd i ddod o ganlyniad i newid yn y bwyd y mae pobl yn ei fwyta. Er hyn gallai targedau net zero gynnig cyfleoedd arallgyfeirio sylweddol i ffermwyr a diwydiannau sydd yn defnyddio biomass a choed i gynhyrchu ynni, deunyddiau ar gyfer adeiladu a buddion amgylcheddol eraill.”
Mae’r Athro Donnison ar gael am gyfweliad. Cysylltwch â Dawn Havard 01970 628440 / dbh@aber.ac.uk neu Arthur Dafis 01970 621763 / 07841 979452 / aid@aber.ac.uk.