Prifysgol Aber ar faes Eisteddfod yr Urdd

Mae stondin Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni reit gyferbyn â Chanolfan y Mileniwm,

Mae stondin Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni reit gyferbyn â Chanolfan y Mileniwm,

28 Mai 2019

Wrth i filoedd o bobl ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 yr wythnos hon, mae Prifysgol Aberystwyth yno hefyd i gefnogi gŵyl ieuenctid fwyaf Cymru.

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, y Brifysgol yw noddwr Ardal Chwaraeon yr Eisteddfod, sydd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 27 Mai a 1 Mehefin 2019.

Mae’r Ardal Chwaraeon yn rhan o fenter hirdymor rhwng y Brifysgol a’r Urdd i hyrwyddo darpariaeth chwaraeon a datblygu talent newydd ar draws Cymru.

Yn ogystal, mae eisteddfodwyr yn gallu dilyn newyddion diweddaraf yr Ŵyl a’r cystadlu ar wal fideo enfawr ger Canolfan y Mileniwm, ac ar sgriniau bach yng Nghanolfan y Mileniwm, diolch i gefnogaeth y Brifysgol.

Ar stondin y Brifysgol (RH005), sydd gyferbyn â Chanolfan y Mileniwm, mae cyfle i gystadleuwyr ddefnyddio piano a gofod ar gyfer ymarfer munud olaf cyn cystadlu.

Mae modd cadw lle i ymarfer yno drwy ffonio’r Adran Farchnata ar 07790 806990.

Ac wrth gwrs, mae cyfle i ymlacio a gwylio rhai o uchafbwyntiau’r Eisteddfod yn fyw ar y stondin drwy gydol yr wythnos â chymryd rhan mewn ystod o weithgareddau amrywiol.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth: “Heb os mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau’r calendr ac yn gyfle penigamp i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant. Mae gennym raglen ddifyr ar y stondin ac fe fydd pob un ohonom yn awchu i rannu gyda phawb sy’n taro i mewn, y profiad heb ei ail o astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r newyddion diweddaraf am ein cynlluniau uchelgeisiol, gan gynnwys adnewyddu Neuadd Pantycelyn.  Yn ôl yr arfer fe fydd sawl un o’n myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwahanol ffyrdd yn ystod yr wythnos a dymunwn yn dda iddyn nhw, i aelodau Aelwyd Pantycelyn yn arbennig, ac i bawb sy’n cystadlu.”

Gweithgareddau’r Wythnos

Dydd Llun 27 Mai – 10.30 -14.30
Parasitiaid a sut maent yn heintio pobl

Dydd Mawrth 28 Mai – 10.00 – 16.00
TrioSci Cymru: Her Pwll Glanmor

Dydd Mercher 29 Mai – 10.30 – 12.30
Mathemateg â Swigod

Dydd Iau 30 Mai – 10.00 – 14.00
Hel Atgofion Pantycelyn

Dydd Iau 30 Mai – 14.00 – 15.00
Seremoni Wobrwyo: Cystadleuaeth Gyfieithu Blwyddyn 10-13

Dydd Gwener 31 Mai – 10.00 – 12.00
Addysg Aber-Rhithwir

Dydd Gwener 31 Mai – 14.00 – 15.00
Ymunwch â ni yng Nghwis Ysgol Fusnes Aberystwyth

Bydd Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym mhafiliwn GwyddonLe’r Eisteddfod o ddydd Llun i ddydd Mercher.

Am y diweddaraf o’r stondin ar faes yr Eisteddfod, dilynwch Prifysgol Aberystwyth ar Twitter @Prifysgol_Aber a #CaruAber neu Instagram prifysgol.aberystwyth.