Prifysgol Aberystwyth yng Ngŵyl y Gelli
Bydd tair darlith yn cael eu cyflwyno yn rhaglen Gŵyl y Gelli 2019 fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r ŵyl ddiwylliannol a llenyddol uchel ei bri.
17 Mai 2019
Bydd cyfres o ddarlithoedd yn amlygu rhai o’r heriau byd-eang sy’n destun ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o Ŵyl y Gelli eleni.
Ymhlith y pynciau a gaiff sylw yn ystod yr ŵyl a gynhelir 23 Mai - 2 Mehefin 2019 mae democratiaeth fyd-eang, newid hinsawdd a gwaredu malaria.
Mae’r gyfres hon o ddarlithoedd yn nodi dechrau ar bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Gŵyl y Gelli.
Bydd tri o fyfyrwyr y Brifysgol hefyd yn ymgymryd â phrofiad gwaith yn ystod yr ŵyl ddiwylliannol a llenyddol, sydd wedi’i chynnal yn flynyddol yn nhref y Gelli Gandryll ym Mhowys ers 1987.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae Gŵyl y Gelli yn le sy’n meithrin chwilfrydedd, yn le i archwilio, herio a thrafod rhai o bynciau mawr y dydd. Fel Prifysgol flaenllaw o ran dysgu ac ymchwil, rydym yn rhannu’r un gwerthoedd ac rydym wrth ein bodd i fod yn ymuno â’r ŵyl mewn partneriaeth newydd eleni.”
Dywedodd Peter Florence, cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli: "Mae'n fraint clywed arbenigedd meddyliau mwyaf treiddgar Prifysgol Aberystwyth yn ychwanegu at y ddadl yng Ngŵyl y Gelli ac yn bleser cynnig llwyfan rhyngwladol i ehangu’r syniadau hynny. Mae ein gwaith gyda'r Brifysgol ar Daith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli - sy’n cynnig digwyddiadau am ddim i bobl ifanc ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn - wedi rhoi anogaeth i gannoedd ddilyn astudiaethau uwch ac edrychwn ymlaen at barhau'r gwaith hwnnw gyda'n gilydd."
Mae’r tair darlith a gaiff eu cyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth yng Ngŵyl y Gelli 2019 fel a ganlyn:
17.30 Dydd Iau 23 Mai 2019 - Starlight Stage
Dr Mariecia Fraser ac Elizabeth Jardine Goodwin
Experimental landscapes: Past, present and future innovation in upland farming
Bydd Dr Mariecia Fraser o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Aberystwyth yn trafod heriau newid hinsawdd a gwaith arloesol Canolfan Ymchwil yr Ucheldir y Brifysgol, Pwllpeiran. Yn ymuno â hi bydd yr awdures a’r athrawes Elizabeth Jardine Goodwin, fu’n awdur preswyl ym Mhwllpeiran yn 2013.
14.30 Dydd Mercher 29 Mai 2019 - Llwyfan Sylfaen Gŵyl y Gelli
John Thomas
The West, the East and the Rule of Law
Fel rhan o ddathliadau nodi canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, bydd Canghellor y Brifysgol yr Arglwydd John Thomas o Gwmgïedd yn traddodi darlith ar ddemocratiaeth fyd-eang. Yn draddodiadol, mae’r Gorllewin yn gweld rheol y gyfraith fel un o gonglfeini rhyddid, ffyniant a democratiaeth atebol. Mae wedi cael dylanwad byd-eang. Ond ceir ymagweddau eraill at reol y gyfraith. Un yw rheol y gyfraith â nodweddion Tsieineaidd; un arall yw rheol yn ôl y gyfraith. Bydd cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yn archwilio effeithiau llwyddiant economaidd a’r chwyldro technolegol ar y dulliau gwahanol, a sut gellir hyrwyddo dull y Gorllewin.
10.00 Dydd Iau 30 Mai 2019 - Llwyfan Sylfaen Gŵyl y Gelli
Yr Athro Chris Thomas a’r Athro Faith Osier
Malaria Eradication in Africa: Fact or Fiction?
Gwnaed ymdrechion enfawr i daclo malaria ers dros ganrif, ond bob blwyddyn mae cannoedd ar filoedd o bobl yn dal i farw o’r clefyd, yn enwedig pobl yng ngwledydd Affrica is-Sahara. Yn ystod y ddegawd ddiwethaf gwelwyd gostyngiadau mawr yn y niferoedd hyn: a ydym o’r diwedd ar y ffordd tuag at ei ddileu yn llwyr? Mae’r ymchwil diweddaraf yn amlinellu llwybr tuag at frechlyn ac arfau newydd yn erbyn mosgitos malaria. Mae Chris Thomas yn Athro mewn Sŵoleg ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae Faith Osier yn Athro mewn Imiwnoleg Malaria ym Mhrifysgol Rhydychen.
Gellir archebu tocynnau i bob digwyddiad ar wefan Gŵyl y Gelli.