Gweinidog Llywodraeth Cymru yn nodi canmlwyddiant Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan AC, yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 10 Mai 2019.

Bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan AC, yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 10 Mai 2019.

09 Mai 2019

Mewn araith allweddol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 10 Mai 2019, bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer cyfeiriad cysylltiadau rhyngwladol Cymru yn y dyfodol.

Bydd Eluned Morgan AC yn siarad am gylch gorchwyl ei rôl newydd yn y Cabinet, a'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Cymru mewn byd ôl-Brexit.

Teitl y ddarlith gyhoeddus yw Dyma Gymru: Cenedl Greadigol y Genhedlaeth Nesaf  ac mae’n rhan o gyfres o ddigwyddiadau arbennig i nodi canmlwyddiant Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Fe'i cynhelir am 5.30yh ddydd Gwener 10 Mai 2019 ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar gampws Penglais. Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.

Cefndir Eluned Morgan AC
Yn Aelod o Senedd Ewrop rhwng 1994-2009, cafodd Eluned Morgan ei gwneud yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi yn 2011, a'i henw ffurfiol yw'r Farwnes Morgan o Drelái. Gwasanaethodd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Gymru yn Nhŷ'r Arglwyddi (2013-16), ac fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Tramor (2014-2016). 

Etholwyd Eluned Morgan i'r Cynulliad Cenedlaethol ym Mai 2016 fel aelod rhanbarthol dros y Canolbarth a'r Gorllewin. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes cyn cael ei phenodi i’r Cabinet ar 13 Rhagfyr 2018 fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Hanes yr Adran
Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919, yn fuan ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf lle cafodd mwy na 100 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth eu lladd.

Rhoddodd David Davies (a ddaeth yn Arglwydd Davies o Landinam), dyn busnes, cymwynaswr a gwleidydd o Ganolbarth Cymru, a'i chwiorydd Gwendoline a Margaret, £20,000 i goffáu’r myfyrwyr a syrthiodd ar faes y gâd er mwyn sefydlu “canolfan ddysg fyd-eang ac ymchwil ar wleidyddiaeth ryngwladol yn Aberystwyth”.

Aberystwyth oedd cartref y gadair gyntaf yn y byd ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, ac fe’i henwyd mewn teyrnged i Arlywydd America, Woodrow Wilson - y gŵr sy’n cael ei gysylltu’n bennaf â chreu Cynghrair y Cenhedloedd dros gynnal cyfiawnder rhyngwladol a chadw’r heddwch.

Yn rhan o flwyddyn canmlwyddiant 2018-19, cynhelir aduniad arbennig i gyn-fyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym mis Mehefin 2019.

Mae rhagor o fanylion am y canmlwyddiant ar gael ar wefan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol