Ethol academyddion o Aberystwyth yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Caiff y Cymrodyr eu derbyn yn ffurfiol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar 22 Mai 2019 yng Nghaerdydd.
01 Mai 2019
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi pum academydd o Brifysgol Aberystwyth ymhlith ei Chymrodyr etholedig newydd.
Mae’r Athro Matthew Jarvis, Yr Athro Peter Midmore, Dr Helen Ougham, Athro Phillipp Schofield ar Athro Elan Closs Stephens ymhlith 48 o Gymrodyr newydd sydd wedi ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru eleni o feysydd ar draws y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a thu hwnt.
Mae’r Athro Matthew Jarvis yn Gymrawd Athrawiaethol mewn Llenyddiaeth a Lle yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ac yn Gymrawd Anthony Dyson mewn Barddoniaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’n gyd-gadeirydd Cymdeithas Llên Saesneg Cymru, Cadeirydd Pwyllgor Poetry Wales, a golygydd arweiniol International Journal of Welsh Writing in English.
Athro Economeg yn Ysgol Fusnes Aberystwyth yw’r Athro Peter Midmore. Mae’n gyn-lywydd Cymdeithas Economeg Amaethyddol y DU, yn gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau a’r Academi Addysg Uwch, ac yn Aelod o Sefydliad Materion Cymreig.
Darllenydd Emeritws yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yw Dr Helen Ougham. Mae’n arbenigwr ar wyddoniaeth planhigion a biowybodeg cnydau, ac yn gyd-olygydd y New Phytologist a chyd-awdur y gwerslyfr The Molecular Life of Plants.
Mae’r Athro Phillipp Schofield yn Bennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru, ac yn hanesydd economi Lloegr yn yr oesoedd canol. Yn ddiweddar cwblhaodd Gymrodoriaeth Ymchwil Fawr Leverhulme ar y Newyn Mawr yn Lloegr ar ddechrau’r bedwaredd-ganrif-ar-ddeg.
Mae’r Athro Elan Clos Stephens yn Athro Emeritws yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn Gyfarwyddwr Anweithredol y BBC ac Aelod dros Gymru ar Fwrdd y BBC.
Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac yn gystadleuol iawn. Fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Estynnaf ein llongyfarchiadau cynhesaf at ein cydweithwyr sydd wedi eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni. Mae hyn yn gydnabyddiaeth llwyr haeddiannol am eu cyfraniadau at fywyd academaidd Cymru a’u hymroddiad at ragoriaeth yn eu disgyblaethau academaidd perthnasol.”
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a chyn-Lywydd Prifysgol Aberystwyth: “Rwyf i wrth fy modd yn croesawu 48 o Gymrodyr newydd i’r Gymdeithas. Mae eu hetholiad yn cydnabod eu llwyddiannau unigol a’u cyfraniadau i fyd dysg ac rwyf i’n falch eu bod yn cwmpasu’r fath rychwant o ddisgyblaethau ymchwil a thu hwnt. Bydd ychwanegu’r Cymrodyr newydd hyn yn cryfhau ein gallu i hyrwyddo rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus yng Nghymru a thramor.”
Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2010, ac rydym ni’n defnyddio gwybodaeth ein harbenigwyr i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysg a darparu cyngor polisi annibynnol. Mae ychwanegu Cymrodyr newydd bob blwyddyn yn ein cynorthwyo i gyflawni’r nodau hyn drwy ein galluogi i dynnu ar arbenigedd a chryfder sylweddol ein Cymrodoriaeth gynyddol.
Etholiad 2019 yw’r nawfed mewn proses dreigl at adeiladu Cymrodoriaeth gref, gynrychioliadol. Bydd ein ffocws parhaus ar ragoriaeth a chyflawniad yn sicrhau bod y Gymrodoriaeth yn cynrychioli’r elfennau gorau sydd gan Gymru i’w cynnig o fyd dysg.
Ceir rhestr lawn o’r Cymrodyr newydd yma.