Cyn-fyfyrwraig o Aberystwyth yn cael ei henwi yn Weithiwr Proffesiynol Amgylcheddol y Flwyddyn
30 Mai 2017
Mae cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, Dr Philippa Pearson, wedi cael ei henwi Weithiwr Proffesiynol Amgylcheddol y Flwyddyn ar gyfer 2017 gan y Gymdeithas yr Amgylchedd. Mae’r wobr yn dathlu ymroddiad eithriadol neu lwyddiant sylweddol wrth ddiogelu, cadw neu wella’r amgylchedd a hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd.
Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru i gynnal hystings Etholiad Cyffredinol
30 Mai 2017
Bydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn cynnal hystings etholiadol ar nos Lun 5 Mehefin 2017 yng nghanolfan y Morlan, Aberystwyth.
Prifysgol Aber ar faes Eisteddfod yr Urdd
26 Mai 2017
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn rhan o ystod o weithgareddau amrywiol ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Gwobr flynyddol Walters yn cael ei dyfarnu am y tro cyntaf
26 Mai 2017
Mae gwobr academaidd newydd wedi cael ei chyflwyno gan y cyhoeddwr blaenllaw Elsevier i anrhydeddu academydd blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth, yr Athro Ken Walters.
Gwyddonwyr IBERS i arddangos eu gwaith yn Aberaeron fel rhan o Ddiwrnod Chwilfrydedd mewn Planhigion
22 Mai 2017
Bydd gwyddonwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghŵl Gardd a Chrefft Aberaeron 2017 ar 28 a 29 Mai ac yn arddangos eu gwaith.
Gŵyl Seiclo Aberystwyth yn dychwelyd am ei hwythfed blwyddyn
22 Mai 2017
Mae gŵyl feicio flynyddol Aberystwyth yn dychwelyd yr wythnos hon, 21 - 30 Mai 2017, gyda deg diwrnod o ddigwyddiadau yn y dref a’r wlad o amgylch.
Ymunwch â CAA Cymru i ddathlu’r byd cyhoeddi Cymraeg yn y Fedwen Lyfrau eleni
19 Mai 2017
Bydd CAA Cymru yn cymryd rhan yn y Fedwen Lyfrau unwaith eto eleni. Cynhelir y Fedwen yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar garreg drws CAA Cymru, ddydd Sadwrn yr 20 Mai 2017.
Canmol gwaith Adnoddau Dynol ar ddatblygu sgiliau digidol
19 Mai 2017
Mae hyfforddiant sgiliau digidol arloesol a ddatblygwyd gan Adran Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth, yr undebau llafur UNSAIN ac UNITE, TUC Cymru a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr Cymru (WEA Cymru) wedi dod yn ail orau yng ngwobrau blynyddol Adnoddau Dynol Prifysgolion (UHR).
Penodi’r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd yn Ganghellor
18 Mai 2017
Bydd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgiedd yn cymryd yr awennau fel Canghellor Prifysgol Aberystwyth ym mis Ionawr 2018.
Galw am strategaeth iaith sy’n ymateb i amgylchiadau’r unfed ganrif ar hugain
17 Mai 2017
Mae prosiect ymchwil arloesol sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth yn holi a oes angen ail-ystyried tybiaethau traddodiadol ynglŷn â sut i hybu adfywiad ieithoedd lleiafrifol.
Darganfyddiad genom malwoden i gynorthwyo gyda’r frwydr yn erbyn clefyd trofannol marwol
16 Mai 2017
Gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at ymdrechion rhyngwladol i nodweddu'r genom mewn rhywogaeth o falwoden sy'n gyfrifol am drosglwyddo parasit sy'n lladd 200,000 o bobl bob blwyddyn.
Prifysgol Aberystwyth yn parhau i ddringo’r tablau cynghrair
16 Mai 2017
Mae cynnydd Prifysgol Aberystwyth yn nhablau cynghrair y prifysgolion yn parhau yn sgil cyhoeddi canllaw prifysgol 2018 The Guardian.
Coroni Ffiseg yn Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu UMAber 2017
12 Mai 2017
Cafodd Ffiseg ei choroni yn Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu blynyddol Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2017 a gynhaliwyd nos Wener 5 Mai.
Gwobrau Cyntaf Aber First Awards 2017
12 Mai 2017
Mae ceisiadau yn awr ar agor ar gyfer Gwobrau Cyntaf Aber First Awards 2017 sy’n cael eu cefnogi gan Brifysgol Aberystwyth.
Ethol Athro Economeg o Aberystwyth yn Llywydd y Gymdeithas Economeg Amaethyddol
11 Mai 2017
Mae'r Economegydd, yr Athro Peter Midmore o Ysgol Fusnes Aberystwyth, wedi’i ethol yn Llywydd y Gymdeithas Economeg Amaethyddol.
Gwobr farddoniaeth Cinnamon Press i ddarlithydd ysgrifennu creadigol
10 Mai 2017
Mae cyfrol o farddoniaeth gan y darlithydd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Aberystwyth Dr Gavin Goodwin yn un o bedwar enillydd gwobr Cinnamon Press Poetry Pamphlet Prize 2017.
Lansio MA newydd mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru
05 Mai 2017
Gyda Brexit yn hawlio’r sylw yn ystod cyfnod cynnar ymgyrchu etholiad cyffredinol San Steffan, mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio gradd MA newydd fydd yn ystyried gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru gyfoes ar heriau wedi i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Aber yn denu myfyrwyr Doethuriaeth Proffesiynol o’r Emiradau Arabaidd Unedig
04 Mai 2017
Mae grŵp o 16 o weithwyr proffesiynol o'r Emiradau Arabaidd Unedig (EAU) yn treulio pythefnos cyntaf mis Mai ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddechrau eu rhaglen ddoethuriaeth broffesiynol.
Cyrsiau newydd yn IBERS ar gyfer 2017
04 Mai 2017
Mae dau gynllun gradd israddedig newydd sbon mewn Bioleg Ddynol ac Iechyd, a Chadwraeth Natur wedi cael eu lansio gan Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).
Myfyriwr o Aberystwyth yn ennill gwobrau am fentergarwch
03 Mai 2017
Mae myfyriwr israddedig blaengar o Busnes a Rheolaeth wedi ennill dwy wobr o fri mewn cystadleuaeth genedlaethol i ddod o hyd i’r mentergarwyr ifanc mwyaf dawnus yng Nghymru.
Sylw i newid hinsawdd ar Ddiwrnod Ewrop – 9 Mai
03 Mai 2017
Bydd effeithiau tebygol newid hinsawdd ar gymunedau arfordirol gorllewin Cymru a dwyrain Iwerddon yn cael sylw mewn arddangosfa undydd yn yr Hen Goleg i nodi Diwrnod Ewrop ar 9 Mai, 2017.
Ap achub mewn trychineb naturiol GeoRescue yn ennill gwobr Her SateLife
02 Mai 2017
Mae'r myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth Elliot Vale wedi ennill cyfle i gyflwyno ei syniad am ap achub mewn trychineb naturiol i gynrychiolwyr mewn cynhadledd flaenllaw am y Gofod.
Gwyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru yn dychwelyd i Aberystwyth
02 Mai 2017
Mae Prifysgol Aberystwyth yn paratoi i gynnal agoriad Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru sy’n cael ei chynnal rhwng 3-6 Mai 2017.