Gwobr farddoniaeth Cinnamon Press i ddarlithydd ysgrifennu creadigol
10 Mai 2017
Mae cyfrol o farddoniaeth gan y darlithydd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Aberystwyth Dr Gavin Goodwin yn un o bedwar enillydd gwobr Cinnamon Press Poetry Pamphlet Prize 2017.
Mae Blue Rain yn mynd i’r afael â gwaith a’r profiad dosbarth gweithiol, a phenillion am ddŵr (moroedd, afonydd a chronfeydd) a phryderon amgylcheddol.
Yn ôl un o feirniad y wobr Ian Gregson, mae’r gyfrol yn “tynnu ar ffurfiau canu rhydd yn nhraddodiad William Carlos Williams”, ac yn ehangu genre realaeth gymdeithasol “gyda chyfeiriadau at fathau eraill o drafodaeth megis beirniadaeth bensaernïol...a chymdeithaseg…mae’n drawiadol yn y modd y mae’n creu, yn y ffordd hynny, farddoniaeth wleidyddol wreiddiol.”
Fel rhan o’r wobr, sydd yn cael ei noddi gan y cyhoeddwr annibynnol o Ogledd Cymru, Cinnamon Press, bydd Blue Rain yn cael ei chyhoeddi yn gynnar yn 2018.
Mewn ymateb i’w lwyddiant, dywedodd Gavin Goodwin: “Rwy’n falch iawn ym mod yn un o enillwyr gwobr Pamphlet Prize eleni ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Cinnamon Press. Mae gan Aber sin farddoniaeth fywiog iawn, ac rwy’n ffodus iawn ym mod yn rhan o weithdy barddoniaeth gwych yma yn y Brifysgol.”
Dywedodd Dr Louise Marshall, Pennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol: “Rydym yn falch iawn bod Cinnamon Press a beirniaid y Pamphlet Prize wedi cydnabod grym llenyddol a gwleidyddol barddoniaeth Gavin. Mae’n seren sydd yn esgyn ym myd barddoniaeth yng Nghymru ac mae staff a myfyrwyr yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn falch iawn ein bod yn gweithio gyda thalent mor eithriadol.”
Mae Gavin Goodwin yn dysgu barddoniaeth i fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig sydd yn astudio ar gyrsiau Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi cyfrannu at ddatblygu modiwlau cyffrous newydd sydd yn astudio’r berthynas rhwng arfer creadigol, gwleidyddiaeth a lleoliad, yn ogystal â dealltwriaeth ddamcaniaethol o greadigrwydd yn ei hun.
Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei gasgliad llawn cyntaf o farddoniaeth, ac mae’n un o gydlynwyr ContemPo (Y Ganolfan Farddoniaeth Gyfoes), canolfan ymchwil gydweithredol ar draws sefydliadau sydd yn cael ei rhedeg gan adrannau Saesneg prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Brighton, Plymouth a Surrey.
Roedd Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ar frig tabl Cymru am Fodlonrwydd Myfyrwyr yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016 ac mae iddi gymuned o awduron ac ysgolheigion llenyddol sydd wedi ymrwymo i ymchwil o safon byd, a darparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.