Prifysgol Aber ar faes Eisteddfod yr Urdd

Mae Prifysgol Aberystwyth yn noddi Tipi Syr IfanC ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2017 ym Mhen-y-bont.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn noddi Tipi Syr IfanC ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2017 ym Mhen-y-bont.

26 Mai 2017

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn rhan o ystod o weithgareddau amrywiol ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái 2017, 29 Mai – 3 Mehefin.

Unwaith eto eleni, mae’r Brifysgol yn noddi'r ardal chwaraeon ar y maes drwy gydol yr wythnos lle bydd sesiynau criced, tenis, rygbi, pêl-droed a hoci yn cael eu cynnal.

Mae Aberystwyth hefyd yn cefnogi digwyddiadau Tipi Syr IfanC gyda staff o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Adran Seicoleg yn cynnal y sesiynau trafod canlynol:

Dydd Iau 1 Mehefin

1-2yp: Trafodaeth ‘Effeithiau Brexit yng Nghymru’ gyda’r Dr Elin Royles.

Dydd Gwener 2 Mehefin

1-2yp: Trafodaeth ‘Iechyd Meddwl’ gyda’r Uwch Ddarlithydd Dr Rachel Rahman ac Alaw Gwyn Rossington, myfyrwraig PhD o’r Adran Seicoleg.

Bydd bŵth ffoto Prifysgol Aberystwyth yn y Tipi drwy’r wythnos a chyfle i argraffu llun o fewn munudau yn erbyn amrywiaeth o gefndiroedd.

Ddydd Gwener 2 Mehefin, caiff sesiwn anffurfiol ar gyfer athrawon yn cael ei chynnal dros ginio ysgafn yn Annedd Wen gyda chyfle i weld cynlluniau’r penseiri ar gyfer ailwampio Neuadd Pantycelyn.

Mae’r Brifysgol hefyd yn noddi cystadleuaeth yr Ensemble Lleisiol 14-25 oed i aelwydydd sy’n cael ei chynnal am 12:05 Ddydd Gwener.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn uchafbwynt yn y calendar ac rydyn hi’n hynod o falch o gael dangos ein cefnogaeth trwy noddi’r maes chwaraeon a thrwy drefnu sesiynau trafod ar bynciau sydd o wir ddiddordeb i’n pobl ifanc ni heddiw. Bydd gennym fyfyrwyr yn cystadlu yn ystod yr wythnos hefyd gan gynnwys Aelwyd Pantycelyn felly pob hwyl a llwyddiant iddyn nhw ac i’r ŵyl ym Mhen-y-bont.”