Gwyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru yn dychwelyd i Aberystwyth

02 Mai 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth yn paratoi i gynnal agoriad Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru sy’n cael ei chynnal rhwng 3-6 Mai 2017.

Dros gyfnod o bedwar diwrnod mewn tair tref wahanol, bydd yr Ŵyl yn llwyfannu cyfres o darlleniadau, perfformiadau, dadleuon a dangosiadau o ffilmiau barddoniaeth dros bedwar diwrnod.

Dyma’r pumed tro i Ŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru gael ei chynnal a bydd yn agor yn Aberystwyth 3-4 Mai cyn symud i Fangor a Chaernarfon 5-6 o Fai.

Bydd beirdd o Chile, Ffrainc, Galicia, India, Mecsico, Yr Alban, Slofenia a Chymru yn darllen ac yn perfformio yn eu hieithoedd gwreiddiol gyda chyfieithiadau i'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae dangosiadau o ffilmiau barddoniaeth yn ychwanegiad newydd i’r ŵyl.

Eleni mae'r ŵyl yn canolbwyntio ar farddoniaeth o wledydd lle mae Sbaeneg yn brif iaith, ar eu perthynas llenyddol ag Ewrop ac ar rôl wleidyddol barddoniaeth o America Ladin i Sbaen gyda thrafodaeth ar sut mae barddoniaeth yn cael ei defnyddio i leisio gwrthwynebiad.

Mae Ifor ap Glyn, Patrick McGuinness, Karen Owen a Rhys Trimble ymhith y beirdd blaenllaw o Gymru fydd y ymno â beirdd a pherfformwyr rhyngwladol megis Juana Adcock, Yolanda Castaño, Frédéric Forte, Anja Golob, Luna Montenegro, Luis David Palacios a Mamta Sagar.

Mae Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru yn rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw sy’n cael ei arwain gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF) o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth ac sy’n cael ei ariannu gan Raglen Ewrop Greadiol yr Undeb Ewropeaidd, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru drwy Ddesg Ewrop Greadigol - Cymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr LAF ym Mhrifysgol Aberystwyth a chyd-drefnydd yr ŵyl, Alexandra Büchler: "Rydym yn hynod falch o fod yn cyflwyno'r pumed ŵl farddoniaeth ryngwladol mewn tri lleoliad yng Nghymru, gan ddechrau gydag Aberystwyth. Bydd yn  rhoi llwyfan amlwg i feirdd Cymru ochr yn ochr â llenorion tramor mewn digwyddiad unigryw sydd yn rhan o'n prosiect Ewrop Lenyddol Fyw."

Ychwanegodd y bardd a Chyd-Gyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl, Zoë Skoulding o Brifysgol Bangor: "Ar adeg pan fo ffiniau yn mynd i fyny, mae’r ŵyl hon yn dathlu cysylltiadau ar draws ieithoedd a diwylliannau, gan greu lle ar gyfer obaith a dychymyg sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed. Gall cyswllt byw barddoniaeth hogi’r clustiau i wahanol donfeddi, tra bod cyfieithu yn ehangu’r byd. "

Caiff Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru ei threfnu ar y cyd gan LAF mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, Barddoniaeth Cymru, Cyfnewidfa Lên Cymru a PEN Cymru, gyda chefnogaeth gan Gyngor Prydeinig Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Llywodraeth Galisia, Llysgenhadaeth Mecsico a Chanolfan Llenyddiaeth Slofenia.

Mae mwy o wybodaeth a rhaglen ar gyfer yr ŵyl ar wefan LAF: www.lit-across-frontiers.org/events/wales-international-poetry-festival.

 

AU15717