Canmol gwaith Adnoddau Dynol ar ddatblygu sgiliau digidol

Lesley Spees (canol) a Sue Chambers (ail o’r chwith) yn derbyn cydnabyddiaeth am waith da Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth ar hyfforddiant sgiliau digidol yng ngwobrau blynyddol Adnoddau Dynol Prifysgolion Prydain (UHR)

Lesley Spees (canol) a Sue Chambers (ail o’r chwith) yn derbyn cydnabyddiaeth am waith da Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth ar hyfforddiant sgiliau digidol yng ngwobrau blynyddol Adnoddau Dynol Prifysgolion Prydain (UHR)

19 Mai 2017

Mae hyfforddiant sgiliau digidol arloesol a ddatblygwyd gan Adran Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth, yr undebau llafur UNSAIN ac UNITE, TUC Cymru a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr Cymru (WEA Cymru) wedi dod yn ail orau yng ngwobrau blynyddol Adnoddau Dynol Prifysgolion (UHR).

Roedd y Brifysgol yn un o dri sefydliad addysg uwch ar draws y DU ar y rhestr fer categori Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y gwobrau.

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni ar ddiwedd cynhadledd flynyddol UHR a gynhaliwyd yn Newcastle.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno i fentrau Adnoddau Dynol prifysgolion sydd a oedd wedi mynd i'r afael â materion o bwys mewn ffordd greadigol ac effeithiol.

Darparwyd y cyrsiau hyfforddi sgiliau digidol eu gan WEA Cymru yn dilyn cydweithio rhwng Lesley Spees, partner busnes Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a fu'n gweithio'n agos gyda Diane Jones o Unsain, a chynrychiolwyr o undeb llafur Unite i ddod â'r hyfforddiant i Brifysgol Aberystwyth gyda chymorth gan TUC Cymru a WEA Cymru.

Anelwyd y rhaglen at staff a oedd yn awyddus i wella eu sgiliau digidol ac roedd yn cynnwys y defnydd o Excel, Word a meddalwedd eraill yn ogystal fel canllaw llythrennedd digidol i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Susan Chambers: “Rwy'n falch iawn bod y gwaith tîm ardderchog gan fy staff Adnoddau Dynol ar y cyd â'r undebau llafur, WEA a TUC Cymru wedi cael ei gydnabod yng ngwobrau blynyddol UHR. Mae hon wedi bod yn rhaglen sydd wir wedi ysbrydoli â’r nod o sicrhau cydraddoldeb mynediad i dechnoleg ddigidol, thrwy hynny adnoddau a chyfleoedd ehangach. Mae wedi bod yn ddefnyddiol i weithwyr ar draws y Brifysgol, yn enwedig gwasanaethau campws a masnachol a'r adran ystadau, lle nad ydynt o reidrwydd yn defnyddio TG fel rhan o'u gwaith bob dydd.”

Mae'r gwobrau UHR yn hwyluso rhannu arfer da ar draws y sector ac yn cael eu harddangos mewn cyflwyniadau grwpiau lleol yn y DU, erthyglau e-gylchlythyr UHR, ac astudiaethau achos a gyhoeddir.

Cafodd yr enillwyr eu dewis gan banel o feirniaid a oedd yn cynnwys yr Athro Janet Beer, Is-Ganghellor Prifysgol Lerpwl a darpar Lywydd Universities UK; David D'Souza, Pennaeth CIPD Llundain ac Ymgysylltu; Yr Athro Gareth Jones, academydd, awdur a siaradwr; a Sandra Heidinger, Cadeirydd UHR.

Dywedodd cadeirydd UHR, Sandra Heidinger: “Mae Addysg Uwch yn sector gymhleth a heriol sy'n newid. Ond dylem i gyd fod yn falch o'r hyn yr ydym yn ei ddarparu a'r effaith a gaiff ar fywydau pobl.”